Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
Extrapolator

Allosodwr macro-cinetig tonfform tribogorfforol, (Sn: Tribophysical waveform macro-kinetic extrapolator) neu allosodwr oedd dyfais hir a gwastad. Roedd modd i'w ddefnyddio yn yr un ffordd â bwrdd syrffio. Lapiwyd y defnyddwr mewn swigen amddiffynnol i alluogi'r marchog i syrffio'r egni wrth daniad enfawr.

Hanes[]

Cynlluniodd Blon Slitheen i ffrwydro'r Ddaear yn yr 21ain ganrif, gyda gorsaf ynni niwdlear yng Nghaerdydd, a syrffio i ddiogelwch ar yr allosodwr. Pan sylweddolodd y Nawfed Doctor a Jack Harkness ar ei chynllun, atalon nhw hi ac atalfaelu'r allosodwr er mwyn cysylltu fe i TARDIS y Doctor er lles cyflymu'r ail-lenwad. Roedd Jack yn chwilfrydig am le gaeth Blon yr allosodwr, gan wybod nid oedd y technoleg hyn gyda'i phobl hi. (TV: Boom Town) Wrth ddod o hyd i Jack yn y TARDIS yn stryffagu gyda'r dyfais, galwodd River Song y dyfais yn rift extrapolator, a helpodd hi ail-drefnu'r allosodwr. Ail-lenwodd River gwefr y TARDIS, a chusanodd y ddau, cyn torrod daeargryn ar ddraws. (SAIN: R&J)

Gan wybod byddai pwy bynnag oedd gyda'r abl i ffeindio hi yn atalfaelu'r allosodwr, rhaglennodd Blon i'r allosodwr i gysylltu i'r fynhonnell estronaidd agosach - yn yr achos hwn, y TARDIS - i agor y Rift. Roedd straen agor y rift wedi agor calon y TARDIS, ac atchwelwyd yn ôl i ŵy a dychwelwyd hi i'w phlaned gartrefol. Arhosidd yr allosodwr fel rhan o systemau'r TARDIS. (TV: Boom Town)

Yn ystod ymosodiad y Ddaear gan y Daleks yn 200,100, defnyddiodd y Nawfed Doctor a Jack Harkness yr allosodwr fel maes grym i amddyffyn eu hunain yn erbyn teflyniau'r Daleks. Defnyiodd Jack yr allosodwr eto i ddiogelu'r lloriau uchaf yr Orsaf Gêm rhag trawmatiau'r Daleks. (TV: The Parting of the Ways)

Erbyn defnyddiodd y Degfed Doctor yr allosodwr i symyd y TARDIS dau gant troedfedd wrth Ymerodres y Racnoss, cyfuniwyd yr allosodwr gyda'r TARDIS. Roedd e wedi'i gysylltu gan wefr a chwrel TARDIS. (TV: The Runaway Bride) Yn hwyrach, roedd y Doctor dal i ddefnyddio meysydd grym yr allosodwr, ond doedd e ddim yn annobeithiol yn erbyn ymerodraeth gyflawn Dalek oedd yn digon galluog i symyd planedau. (TV: Journey's End)

Advertisement