Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

An Unearthly Child (Cy: Y Plentyn Annaearol) oedd stori cyntaf Hen Gyfres 1 Doctor Who. Dyma stori deledu cyntaf y sioe a dechreuad masnachfraint Doctor Who.

Gwelodd y stori ymddangosiadau cyntaf y Doctor, Susan Foreman, Ian Chesterton, a Barbara Wright, wedi'u chwarae gan William Hartnell, Carole Ann Ford, William Russell, a Jacqueline Hill yn eu tro. Cafodd Ian a Barbara eu tywys i ffwedd yn TARDIS y Doctor, gan ddod yn gymdeithion - anfodlon - cyntaf y Doctor. Ar ddiwedd y bedwerydd episôd, "The Firemaker", mae modd gweld jwnglau Sgaro cyn eu hymddangosiad llawn yn y stori olynol.

Mae'r stori hefyd yn cyflwyno TARDIS y Doctor, er, serch ei habl arferol o newid ei hymddangosiad allanol, mae wedi mynd yn sownd yn ei ffurf mwyaf adnabyddus o flwch heddlu yn dilyn gadael Llundain yn 1963.

Crynodeb[]

Mae dau athro yn 1963, Barbara Wright ac Ian Chesterton, wedi cael syndod wrth un o'u disgyblion craff, Susan Foreman. Wedi'i drysu gan fylchau gwybodaeth Susan, er mae ganddi gwybodaeth am bethau nad oes modd iddi wybod o gwbl, dewisodd Barbara i ymweld â thŷ Susan, cyn ddarganfod mai sothach yw'r cyfeiriad. Mae Barbara ac Ian yn penderfynu aros yn y lleoliad nes bod Susan neu ei thadcu yn troi lan. Yn y sothach, maent yn darganfod tadcu Susan, wedi'i adnabod fel "y Doctor" yn unig, a nad yw ef eisiau pobl yn aros yn y sothach.

Wrth i'r athrawon gwrthod adael, maent yn darganfod bod blwch heddlu arferol yn faint mwy y tu mewn. Gan ddewis bod y ddau athro'n gwybod ormodedd am darddiad estronaidd ef a Susan, mae'r Doctor yn eu tywys ar daith ar ddraws amser a'r gofod yn ei TARDIS, cartref y Doctor a Susan.

Plot[]

An Unearthly Child (1)[]

I'w hychwangu.

The Cave of Skulls (2)[]

I'w hychwangu.

The Forest of Fear (3)[]

I'w hychwanegu.

The Firemaker (4)[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

Criw[]

  • Awdur - Anthony Coburn
  • Dylunydd - Barry Newbury (2-4), Peter Brachacki (1)[1]
  • Cynhyrchydd Cyswllt - Mervyn Pinfield
  • Trefnydd Brwydrau - Derek Ware
  • Cerddoriaeth Achlysurol - Norman Kay
  • Effeithiau Arbennig - Effeithiau Gweledol y BBC
  • Cerddoriaeth Thema - Ron Grainer
  • Golygydd Sgript - David Whitaker
  • Cyfarwyddwr - Waris Hussein
  • Cynhyrchydd - Verity Lambert

Criw di-glod[]

  • Gwisgoedd - Maureen Heneghan[2]
  • Dyn Camera Ffilm - Robert Sleigh[3]
  • Colur - Elizabeth Blattner[2]
  • Cynorthwyion Cynhyrchu - Douglas Camfield,[4] Tony Lightley[3]
  • Sain Arbennig - Brian Hodgson[2]
  • Golau - Geoff Shaw[3]
  • Trefniant Thema - Delia Derbyshire[2]

Cyfeiriadau[]

Gwrthrychiau Astronogegol[]

  • Mae Susan yn sôn am y gofod ac amser fel maent yn perthyn i'w gilydd (o safbwynt dimensiynau).

Dyfeisiau[]

  • Mae Ian yn defnyddio torch yn y sothach.
  • Er mwyn agor y TARDIS, mae'r Doctor yn defnyddio dyfais sydd yn goleuo.

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn ysmygu piben
  • Mae gan y Doctor nodlyfr.
  • Mae gan y Doctor het karakul am deithio, hefyd wedi'i hadnabod fel Astrakhan.

Technoleg[]

  • Mae'r Doctor yn cyfeirio at deledu er mwyn helpu esbonio maint enfawr mewnol y TARDIS.
  • Mae Susan yn nodi bod y TARDIS, yn y gorffenol, wedi bod yn golofn Ionig a chadair sedán.
  • Mae Susan yn honni mai hi creuodd yr acronym "Time And Relative Dimension In Space" ar gyfer y llong ofod mae hi a'i thadcu yn defnyddio.
  • Mae flwyddomedr gan y TARDIS.
  • Mae'r Doctor yn nodi ei fod yn aflonyddus pan mae cylched cameleon y TARDIS yn mynd yn sownd mewn siâp blwch heddlu.
  • Mae Ian yn gofyn am antiseptig.

Gwyddoniaeth[]

  • Mae Ian yn dweud wrth Hur i ôl dŵr.

Lleoliadau[]

  • Mae ysgrifenyddes yr ysgol yn rhoi gyfeiriad Susan i Barbara, sef 76 Lôn Totter.

Nodiadau[]

  • Dyma stori gyntaf Doctor Who mewn unryw cyfrwng.
  • Y geiriau cyntaf yn Doctor Who oedd "Goodnight, Miss Wright". (Nos da, Miss Wright)
  • Mae'r stori hefyd yn cael ei hadnabod fel 100,000 BC, The Tribe of Gum, The Firemakers a The Cavemen. (Gwelir teitlau stori dadleuedig am fwy o wybodaeth)
  • Nid yw enw'r "Llwyth Gum" erioed yn cael ei arseinio ar sgrîn. Daeth teitl gweithredol y stori wrth drafftiau cynnar y stori pan oedd Kal wedi'i enwi'n Gum. Defnyddiwyd yr enw i ddisgrifio'r llwyth yn nofel 1994, Venusian Lullaby, ac yn hwyrach yn y stori gomig, Hunters of the Burning Stone.
  • Roedd gan episodau'r stori hon teitlau gwahanol yn ystod y cyfnod cynhyrchu: "Nothing at the End of the Lane" am yr episôd cyntaf; "The Firemaker" am yr ail episôd; "The Cave of Skulls" am y trydydd episôd; a "The Dawn of Knowledge" am y bedwerydd episôd.
  • Mae pob episôd yn bodoli ar delerecordiau 16mm gyda Llyfrgell Ffilm a Fideo y BBC.
  • Recordiwyd trelar ar gyfer y stori hon.
  • Yn gwreiddiol, byddai stori gyntaf y gyfres wedi cael ei hysgrifennu gan C.E. Webber gyda'r enw "Nothing at the End of the Lane" a "The Giants", gyda "An Unearthly Child" wedi'u rhestru fel ail stori'r gyfres. Pan ollyngwyd stori Webber, symudwyd sgript Coburn i safle'r stori gyntaf, gan dderbyn y newidiadau atodol. Addasiwyd stori Webber i mewn i Planet of Giants yn Hen Gyfres 2.
  • Enwau gwreiddiol cymdeithion y Doctor oedd Bridget ("Biddy") am Susan, Lola McGovern am Barbara Wright, a Cliff am Ian.
  • Yn gwreiddiol, roedd bwriad i gael y cylched camelion yn gweithio, ond gollyngwyd y gynllyn hon ar sail byddai'n rhy drud i adeiladu TARDIS newydd am bob stori. Ystyriwyd cael TARDIS anweladwy hefyd.
  • Roedd yr esgyrn yn yr Ogof Penglogau'n esgyrn go iawn wrth ladd-dy lleol, ac roeddent yn drewi o dan goleuau poeth y stiwdio.
  • Roedd cynigion arall am y stori gyntaf yn cynnwys The Living World gan Alan Wakeman.
  • Crëwyd fersiwn peilot o "An Unearthly Child" ac mae'n bodoli mewn sawl ffurf. (Gwelir Yr Episôd Peilot am fwy o wybodaeth)
  • Bernard Lodge oedd dylunydd di-glod gwreiddiol y trefniant thema.[4]
  • Mae'r Doctor yn ysmygu piben yn "The Cave of Skulls" rhywbeth sydd erioed wedi digwydd ers ni. Collodd y Doctor ei biben a'i matsys wrth gael ei ymosod ar a'i herwgipio gan Kal.
  • Mae erioed yn amlwg ar sgrîn os mai ar y Ddaear neu blaned arall yw gosodiad episodau Oes y Cerrig. Serch hynny, mae'r stori gomig Hunters of the Burning Stone yn cadrnhau mai ar y Ddaear yw'r stori.
  • Yn ôl isdeitlau cynhyrchu y DVD, Carole Ann Ford bua'r crys streipiog mae Susan yn gwisgo yn y stori hon a storïau canlynol, gan fod yn rhan o wisg awgrymodd Ford yn dilyn gollwng thema hyn yr episôd peilot. Yn ôl y sylwebaeth sain awgrymodd Ford leggings du a bŵts hefyd, ond cafodd y syniad ei wrthod am fod yn rhy "sexy", felly gwisgwyd jeans yn lle. Byddai Ford wedyn yn gwisgo'r un crys yn ffilm 1966, The Great St. Trinian's Train Robbery.
  • Crëwyd steil gwallt Susan gan ysteildd enwog Vidal Sassoon.
  • Dewiswyd y stori hon i gael ei ddangos yn rhan o Benwythnos Doctor Who BSB ym mis Medi 1990.
  • Ailadroddwyd y stori hon ar BBC Four ar 21 Tachwedd 2013 er mwyn dathlu hanner canfed pen blwydd y sioe.
  • Daeth madfall ar y set ar ddamwain gyda'r planhigion am y coedwig; cymerodd Carole Ann Ford y madfall cartref i gadw fel anifail anwes.
  • Mae Susan yn honni mai hi creuodd enw'r TARDIS wrth flaenlythrenau Time And Relative Dimension In Space. Yn hwyrach, datgelir bod cymdeithas yr Arglwyddi Amser sawl miliwn blwydd oed. Cynnigir un esboniad am yr angysonder yn PRÔS: Lungbarrow, ymysg sawl esboniad posib arall.
  • Wrth i'r TARDIS defateroli am y tro cyntaf, mae Ian a Barbara yn dihoeni. Mae'r effaith hon un unigryw i'r stori hon gan nad yw Ian na Barbara yn afiachau gyda difateroliadau dilynol, nac unryw teithwyr arall y TARDIS nes cyfres BBC Wales 2005 (mae Courtney Woods a Mason Bennett yn mynd yn sâl yn dilyn eu teithiau cyntaf yn y TARDIS yn The Caretaker a Before the Flood yn eu tro).
  • O ganlyniad i lofruddiad John F. Kennedy y dydd blaenorol, ar Ddydd Mercher 27 Tachwedd, dewisodd y bwrdd rhaglenni ailadrodd "An Unearthly Child" yn syth cyn darlledu "The Cave of Skulls". Er ni ddarlledodd yr ailadroddiad ar BBC One yng Nghogledd Iwerddon, enillodd y stori nifer fawr o wylwyr - 6.0 miliwn. Serch pa mor cyffredin yw ail-ddarllediadau heddiw, roedd y ddigwyddiad yn hynod o anghyffredin yn 1963.
  • An Unearthly Child oedd y stori gyntaf i'w darlledu'n ryngwladol. Darlledwyd y stori ar sianel lleol Christchurch yn Seland Newydd, CHTV-3, ar 18 Medi 1964.
  • Ail-ddarlledwyd y stori yn nosol ar BBC Two o Ddydd Llun 2 nes Ddydd Iau 5 o Dachwedd 1981 fel rhan o The Five Faces of Doctor Who. Roedd rhestriad Radio Times am y stori hon wedi'i gyfeilio gyda llun du a gwyn o'r Doctor, gyda'r isdeitl "The Doctor (William Hartnell) leads his companions into a strange land and the unknown dangers it holds... The Five Faces of Doctor Who: 5.40".
  • Am ail fersiwn "An Unearthly Child", paentiwyd y TARDIS gyda phaent glas, wedyn gyda phaent du drosodd i'w trochu er mwyn oedi'r prop. O ganlyniad, mewn golygfeydd lle ailddefnyddiwyd recordiadau wrth yr episôd peilot mae modd gweld paentiad gwreiddiol y TARDIS.
  • Mae sawl cyfeirlyfrau ac rhagarweiniadau stori; gan gynnwys The Discontinuity Guide, TARDIS Eruditorum, Adventures with the Wife in Space a'r amserlen Eyespider, yn rhestri'r episôd gyntaf ar wahân i'r lleill.
  • Mae gan Leslie Bates y nodedigrwydd o chwarae anfadwr cyntaf y sioe. Er mai Jeremy Young chwaraeodd Kal yn y stori, fe chwaraeodd Bates y cysgod ar ddiwedd yr episôd cyntaf.
  • Dewiswyd Rex Tucker yn gwreiddiol i gyfarwyddo'r stori, ond fe adawodd yn dilyn teimlo fe ddylai symyd ymlaen o'r sioe.
  • Yn y sgript gwreiddiol, roedd yr arwydd "PREIFAT" i fod i edrych llawer yn newyddach na gweddill llythrennau'r gât. Roedd hefyd fod "hen sied" yn y sothach.
  • Yn y sgript gwreiddiol, roedd Ian yn bennaeth blwyddyn i Susan.
  • Ail-ysgrifennwyd y golygfa ysgol agoriadol er mwyn lleihau'r tensiwn rhwng Barbara ac Ian, gyda dicter Ian yn troi i rwystredd
  • Roedd perthynas Ian a Barbara yn fwy romantig yn gwreiddiol, ond cafodd yr agwedd o'u perthynas ei leuhau gan David Whitaker.
  • Mae Susan yn darllen llyfr am y Chwyldro Ffrengig. Yn stori olaf y gyfres, The Reign of Terror, mae'r teithwyr yn mynd i Ffrainc yn ystod y cyfnod hon.
  • Camddeallodd un o'r menywod, Margot Maxine,[1] ei rhan yn y stori, gan feddwl mai modeli gwisgoedd blewog am Dr. No (1962), y ffilm James Bond, cyntaf oedd hi. Yn dilyn dysgu byddai rhaid duo ei dannedd, taranodd hi o'r set a na ddychwelodd hi.
  • Gofynnwyd yr actorion roedd yn ceisio am rhannau'r dynion ogof i ddangos eu brest i weld os oeddent yn flewog neu beidio.
  • Yn y sgript gwreiddiol, roedd y dynion ogof yn gyfeillgar ar ôl i Ian dangos sut i greu tân.
  • Roedd y stori yn gorffen yn gwreiddiol gyda'r TARDIS yn glanio drws nesaf i dŷ steil Frank Lloyd Wright yn yr awyr. Byddai hyn yn rhagarwain The Masters of Luxor, stori ag erioed cafodd ei chynhyrchu.
  • Ar wefan swyddogol Doctor Who, mae tudalennau episodau'r stori hon yn dynodi William Hartnell fel chwarae "The Doctor", yn lle ei credyd go iawn o "Dr. Who".
  • Yn sylwebaeth sain y DVD, datgela'r cyfarwyddwr, Waris Hussein, ffilmiwyd y brwydr rhwng Kal a Za yn "The Firemaker" yn gyntaf am y stori, felly roedd rhaid iddynt datrys sut i gysylltu'r recordiad gyda gweddill yr episôd tra'n recordio yn y stiwdio. Ffilmiwyd ymatebion y cast craidd i'r brwydr hyn yn ystod yr un oes cyn-gynhyrchu hefyd.
  • Er roedd bwriad i alw'r stori yn 100,000 BC, nid yw'r gosodiad erioed yn cael ei sôn am yn y stori o gwbl. Cafodd gosodiad cadarnhaol ei roi yn gyntaf yn 1997 gyda PRÔS: The Eight Doctors.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • "An Unearthly Child" - 4.4 miliwn
  • "The Cave of Skulls" - 5.9 miliwn
  • "The Forest of Fear" - 6.9 miliwn
  • "The Firemaker" - 6.4 miliwn

Lleoliadau Ffilmio[]

  • Ealing Television Film Studios
  • Lime Grove Studios (Studio D)

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn dweud wrth Ian a Barbara bod ef a Susan wedi'u rhagdorri wrth blaned eu hun. (SAIN: The Beginning)
  • Yn 1903, yn dilyn derbyn swmp o wybodaeth o'r dyfodol, rhagwelodd Grigori Rasputin cyfarfyddiad cyntaf Ian a Barbara gyda'r Doctor yn 1963. (SAIN: The Wanderer)
  • Cyn i'r Doctor a Susan dewis i aros yn 1963, cymeron nhw taith sydyn i St Albans ar 17 Rhagfyr 1997 er mwyn cadarnhau byddai'r Deyrnas Unedig yn parhau i fod yn ddiogel yn ystod ac ar ôl yr 1960au. Yn anhysbys i'r ddau roedd y Pedwerydd Doctor a'i gymdeithion Romana II a K9 Mark II yno hefyd. (PRÔS: The Little Things)
  • Mae digwyddiadau'r stori hon yn parhau fel chwedl. (PRÔS: The Cabinet of Light)
  • Yn dilyn cyrraedd y gorffennol, mae'r Doctor wedi'i drysu am bam nad yw ochrau allanol y TARDIS wedi newid. Yn fuan cyn hon, teithiodd yr Unarddegfed Doctor nôl i 1963 i ddifrodi'r cylched cameleon. (COMIG: Hunters of the Burning Stone)
  • Mae gan Susan albwm John Smith and the Common Men ar y TARDIS. Nid oedd y Doctor Cyntaf yn hoff o'r cerddoriaeth, ond fe ddechreuodd hoffi'r cerddoriaeth erbyn ei bumed ymgorfforiad. (SAIN: 1963: Fanfare for the Common Men)
  • Mae'r Doctor yn nodi bod "Fear makes companions of us all". Mae'r syniad hon yn cael ei rhoi iddo fel plentyn gan Clara Oswald yn yr ysgubor lle cysgodd y Doctor weithiau. (TV: Listen)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

Cafodd y stori ei rhyddhau ar y set bocs DVD The Beginning gyda The Daleks a The Edge of Destruction ar 30 Ionawr 2006 (DU), ar 2 Mawrth 2006 (Awstralia), ac ar 28 Mawrth 2006 (UDA).

Cynnwys:

  • Sylwebaeth sain (wedi'u cymedroli gan Gary Russell):
    • "Yr Episôd Peilot" gyda Verity Lambert a Warris Hussein
    • Episôd 1 - An Unearthly Child: William Russell, Carole Ann Ford a Verity Lambert
    • Episôd 4 - The Firemaker: William Russell, Carole Ann Ford a Waris Hussein
  • Yr episôd peilot: recordiad gwreiddiol 35 munud heb olygu, a fersiwn 25 munud.
  • Fideo cerddoriaeth thema: fersiwn llawn o'r thema cerddoriaeth gwreiddiol
  • Golygfeydd comedi: Pedair golygfa fer am flynyddoedd cynnar Doctor Who wrth The League of Gentlemen a Little Britain
  • Oriel
  • Isdeitlau cynhyrchu
  • Ansawdd sain a llun wedi'u gwella'n ddigidol

Cafodd y stori ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #128.

Rhyddhadau Digidol[]

Mae'r stori ar gael:

  • yn storfeydd iTunes (Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Almaen, y DU a'r UDA) yn rhan o gasgliad Doctor Who: Y Gyfres Clasurol Doctor Who: The Best of the First Doctor, sydd yn cynnwys y storïau The Aztecs a The Dalek Invasion of Earth;
  • ar Amazon Video (DU) yn rhan o Gyfres 1 Doctor Who (Classic) Series;
  • i ffrydio ar BritBox (Canada a'r UDA) yn rhan o Gyfres 1 Doctor Who Clasurol.

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhawyd y stori ar VHS fel Doctor Who: An Unearthly Child yn Chwefror 1990 (DU), ac yn Ionawr 1990.

Troednodau[]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 1.6 1.7 1.8 1.9 TCH 1
  2. 2.0 2.1 2.2 2.3 GWY: "The Forest of Fear"
  3. 3.0 3.1 3.2 GWY: "The Firemaker"
  4. 4.0 4.1 GWY: "An Unearthly Child"
Advertisement