Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Children of Earth: Day One (Cy: Plant y Ddaear: Dydd Un) oedd episôd gyntaf cyfres 3 Torchwood. Russell T Davies ysgrifenodd yr episôd, a chafodd ei cyfarwyddo gan Euros Lyn. Cynhwysodd yr episôd John Barrowman fel Jack Harkness, Eve Myles fel Gwen Cooper, Kai Owen fel Rhys Williams, a Gareth David-Lloyd fel Ianto Jones.

Cychwynodd y stori diwedd y Sefydliad Torchwood a gafodd ei sefydlu dros y ddwy gyfres diwethaf trwy golled eu hadnoddau technolegol. Gwelwyd hefyd dinistriad pencadlys Torchwood Tri a lladrad eu cerbyd. Darganfododd Gwen hefyd ei bod hi'n feichiog.

Cynhwysodd yr episod ail ymddangosiad Peter Capaldi o fewn bydysawd Doctor Who. Yn flaenorol, chwaraeodd Caecilius yn y stori The Fires of Pompeii. Yn hwyrach, fe fyddai yn chwarae'r Deuddegfed Doctor.

Crynodeb[]

Pan mae plant y Ddaear i gyd yn stopio ac yn côr-ganu "Rydyn ni'n dod", mae tîm Torchwood yn dechrau archwilio. Ai ddechreuad argyfwng byd-eang yw hon?

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Captain Jack Harkness - John Barrowman
  • Gwen Cooper - Eve Myles
  • Ianto Jones - Gareth David-Lloyd
  • Rhys Williams - Kai Owen
  • Lois Habiba - Cush Jumbo
  • Dr Rupesh Patanjali - Rik Makarem
  • Alice Carter - Lucy Cohu
  • Steven Carter - Bear McCausland
  • Bridget Spears - Susan Brown
  • John Frobisher - Peter Capaldi
  • Mr Dekker - Ian Gelder
  • Johnson - Liz May Brice
  • Clem McDonald - Paul Copley
  • Brian Green - Nicholas Farrell
  • Rhiannon Davies - Katy Wix
  • Colonel Oduya - Charles Abomeli
  • Johnny Davies - Rhodri Lewis
  • Anna Frobisher - Hilary Maclean
  • NyrsAnna Lawson
  • Ysgrifenydd LlywodraethRachel Ferjani
  • Swyddog y PrèsChristopher James
  • Dyn Tacsi Dŵr - Phylip Harries
  • GweithredyddBen Loyd-Holmes
  • David Davies - Luke Perry
  • Mica Davies - Aimee Davies
  • Holly Frobisher - Julia Joyce
  • Lilly Frobisher - Madeleine Rakic-Platt
  • Clem ifancGregory Ferguson
  • Merch TaiwaniaiddJennifer Chew
  • MamCrisian Emmanuel
  • Mam 2Melanie Barker
  • TadScott Bailey

Cyfeiriadau[]

Y byd go iawn[]

  • Mae Gwen yn galw Jack a Ianto "the Chuckle Brothers".
  • Mae hysbysiad ar gyfer Tommy Hilfiger.

Bwytai[]

  • Mae Ianto yn cynnig mynd â'i nith, Mica, i McDonald's achos collodd ef ei phen blwydd.

Pobl[]

  • Mae gan Gwen llun o Toshiko Sato ac Owen Harper yn ei gweithle.

UNIT[]

  • Mae Cyrnol Alan Mace wedi'i leoli yn Vancouver.

Amser[]

  • Mae'r plant yn siopio am y tro cyntaf am 8:40yb GMT, ac eto am 10:30yb. Mae Rhys yn sylwi mae'r amseroedd rhain yn cyfateb i'r amseroedd mae plant mwyaf allan, gan fynd i'r ysgol a chael egwyl.

Lleoliadau[]

  • O ganlyniad i'r plant, mae Gwen yn recordio 17 damwain cerbyd yn cynnwys plant rhwng 8:40 a 8:41 ar ddraws y wlad o Lasgow i Borth Ia.
  • Mae Ianto yn derbyn adroddiadau wrth Ffrainc, Norwy, Sweden, Denmarc, Lwcsembwrg, Sbaen, Portiwgal, Bosnia a Thokyo.
  • Mae Oyuda yn dweud wrth Frobisher bod plant wedi stopio ar ddraws y byd, o Brydain, Yr Almaen, India, Yr Aifft, Guyana, Singapore, i America.

Nodiadau[]

  • Yn gwreiddiol, digwyliwyd byddai Freema Agyeman yn ymddangos fel Martha Jones trwy gydol y gyfres. Pan achosodd ei rôl yn y gyfres Law & Order: UK iddi peidio fod ar gael am y gynhyrchiad cyfan, ysgrifenodd Davies cameo iddi ar gyfer Day One, ond atalodd ei amserlen rhag ffilmio'r cameo. Cadwyd y cameo mewn ffurf sgript yn Doctor Who: The Writer's Tale - The Final Chapter. I bob olwg, mae Martha yn parhau i fod yn rhan o UNIT, gan fod Jack yn cwyno bod ei gyfarchwr UNIT yn rhingyll yn lle Martha. Awgryma hon na chymerodd Martha cynnig swydd Jack yn TV: Journey's End.
  • Yr ysbyty yn yr episôd yma yw un ysbyti defnyddiwyd yn nrama ysbyty'r BBC, Casualty.
  • Er dewisiad y tîm cynhyrchu i ddileu "United Nations" wrth enw acronym UNIT, mae deialog yr episôd yma yn sefydlu bod UNIT dal yn cael eu rheoli gan y Cenhedloedd Unedig, gan maent yn gorchymynnu UNIT i rybydd melyn.
  • Mae cyfeiriad at sioe gomedi y BBC, Gavin and Stacey, trwy'r dyfyniad "What's occurring?".

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 5.9 miliwn
  • Cyfartaledd DU terfynol: 6.47 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Mae Gwen yn galw am Ianto a Jack pan mae golau'r Hwb yn troi i ffwrdd, cyfeiriad at yr adeg cerddodd hi i mewn arnon nhw unwaith. (TV: Adrift)
  • Mae twylliad Jack a Ianto o Rupesh Patanjali wrth iddo dod o hyd i eu pencadlys yn adlewyrchu beth wnaeth y tîm i Gwen pan ffeindiodd hi y sefydliad. Mae Gwen yn sylwi hon. (TV: Everything Changes)
  • Mae Lois yn archwilio i hanes Torchwood, gan gynnwys ei sefydliad gan y Frenhines Fictoria yn 1879. (TV: Tooth and Claw)
  • Wrth i Frobisher dweud am adrodd i'r Prif Weinidog, mae Dekker yn nodi bod swyddogion detholedig yn "dod a mynd", gan gyfeirio at newidiadau cyson Prif Weinidogion Prydain, megis Harriet Jones trwy 2006 a 2007 cynnar, (TV: The Christmas Invasion) Harold Saxon trwy 2008, (TV: The Sound of Drums) ac Aubrey Fairchild nes gwanwyn 2009. (PRÔS: Beautiful Chaos)
  • Pan mae Rhys yn galw Gwen am dŷ gwelodd yn gwerthu, mae'r arwydd yn dweud "Frost and Lynch", yr un bua Mark Lynch ynghyd â chlwb ymladd Weevil. (TV: Combat)
  • Mae'r SUV wedi cael ei llofruddio o'r blaen. (TV: Countrycide, Fragments)
  • Mae Jack wedi rhyfeddu o'r blaen ar beth fyddai'n digwydd os gaiff ei gorff i ddinistrio'n gyfan gwbl. (PRÔS: Bay of the Dead)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

  • Rhyddhawyd yr episôd gyda gweddill y gyfres ar DVD ar 13 Gorffennaf 2009.
  • Cafodd ei rhyddhau hefyd yn rhan o set bocs Cyfres 1-4 ar 14 Tachwedd 2011.

Troednodau[]

Advertisement