Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Time Reaver oedd ail stori yn The Tenth Doctor Adventures: Volume One, wedi'u cynhyrchu gan Big Finish Productions. Jenny T. Colgan ysgrifenodd y stori a gynhwysodd David Tennant fel y Degfed Doctor a Catherine Tate fel Donna Noble.

Crynodeb cyhoeddwr[]

Calibris. Y blaned maes rocedi lle mae hawl gwneud unrywbeth. Lle all bawb sydd ddim eisiau cael eu darganfod mynd ar goll, a lle mae gan bopeth ei bris. Lle mae'r gangster gyda tenteclau, Gully, yn rheoli tafarn smyglwyr, Vagabond's Reach.

Mae'r Vacintians yn ceisio rheoli'r anhrefn. Mewn mân amser mae'r Doctor a Donna yn darganfod pam. Mae arf angyfreithlon ar y strydoedd. Arf sydd yn dinistrio bywydau... yn araf ac yn gythryblus.

Drill y Time Reaver.

Plot[]

I'w hychwanegu

Cast[]

  • Y Doctor - David Tennant
  • Donna Noble - Catherine Tate
  • Soren - Alex Lowe
  • Cora - Sabrina Bartlett
  • Rone - Terry Molloy
  • Gully - John Banks
  • Dorn - Dan Starkey

Di-glod[]

  • Mane/Lleisiau'r robotiaid - John Banks
  • Florian - Terry Molloy
  • Bwsiwr/Derbynydd/Lleisiau'r robotiaid - Dan Starkey
  • Lleisiau'r robotiaid/Dyn - Alex Lowe

Cyfeiriadau[]

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae Donna yn chwilfrydig i os oes siop coffi ar Calibris. Yn syndod i'r Doctor, mae'r prif swyddfa wedi'i addurno i fod yn debyg i siop coffi gan hefyd gweini sgonau.

Planedi[]

  • Mae Vactinia, planed gartrefol y Vacintians, yn ei dyddau olaf. Mae haul y blaned yn cawr coch.
  • Planed maes rocedi yw Calibris, wedi'i ddefnyddio fel pwynt croesi gan biliynau o bobl pob dydd.

Diwylliant poblogaidd[]

  • Awgrymodd y Doctor ei fod wedi ymweld â chlwb nos Sugar Hut o leiaf unwaith.

Y Tardis[]

  • Mae Donna yn nodi bod maint cyfyngedig iawn o ddillad benywaidd yn wardrob y TARDIS.

Arfau[]

  • Gall y Time Reaver troi eiliadau i mewn i gyfnodau llawer hirach.
  • Mae effaith Bom Time Reaver yn unfath â Time Reaver.

Nodiadau[]

  • Er gosodwyd y stori cyn In the Blood, rhyddhawyd y stori pedwar diwrnod diweddarach.
  • Drosleisiwyd y stori mewn Almaeneg o dan yr enw Die Zeitdiebe.
    • Axel Malzacher lleisiodd y Doctor, Kordula Leiße lleisiodd Donna, Yara Blümel lleisiodd Cora, Thomas Schmuckert lleisiodd Soren, Uve Teschner lleisiodd Mane, Jürgen Thormann lleisiodd Rone, Tim Weiland lleisiodd Gully a Martin Wick lleisiodd Dorn. Darparodd Robert Frank, Arne Fuhrmann, Mario Hassertt, Nora Jokhosha a Sebastian Kaufmane lleisiau ychwanegol.
  • Recordiwyd y stori ar 21 Hydref 2015 yn The Moat Studios.

Cysylltiadau[]

  • Mae Donna yn benthyg gwisg "wench" o wardrob y TARDIS. (TV: Pyramids of Mars, The Twin Dilemma, SAIN: No Place Like Home)
  • Mae angen cysylltydd hylifau ar y Doctor ar gyfer ei TARDIS. (TV: The Daleks, The Web Planet ayyb)
  • Wrth glywed "Doc", mae'r Doctor yn ei wneud yn eglur ei anhoffter am yr enw. (TV: The Time Meddler, The Five Doctors, The Twin Dilemma, The Ultimate Foe, Dreamland)
  • Mae'r Doctor yn dweud fe ddwynodd TARDIS Math 40 achos roedd e'n rhuthro i adael Gallifrey. (TV: An Unearthly Child, Logopolis, The Name of the Doctor, SAIN: The Beginning)
  • Wrth groesawi Donna, mae'r maitre d' yn dweud iddi "mae rhywbeth ar dy gefn". (TV: The Fires of Pompeii, Turn Left)
  • Pan mae Donna yn meddwl ei bod hi ar fin marw, mae hi'n dweud "I wouldn't have missed it for the world". Mae hynny yn adlewyrchu sgwrs rhwng Rose Tyler a'r Nawfed Doctor mewn sefyllfa tebyg yn 2012 (TV: Dalek.)
  • Eiliadau yn dilyn marwolaeth tad Cora, mae Donna yn ceisio ei chysuro gan ddefnyddio ei thad Geoff Noble, tra'n ceisio cael gwybodaeth am ddrilliau olad y Time Reaver. (TV: The Runaway Bride, The End of Time)
  • Yn dilyn ei ddegawdau mewn côma, mae'r Doctor yn dweud ei fod yn gweld eisiau darllen. Yno, mae'r Doctor yn penderfynnu mynd i lyfrgell nesaf. Byddai'r Doctor yn tywys Donna i'r Llyfrgell yn y 51ain ganrif. Mae Donna yn nodi bod ei awgrym yn swno fel "dydd gyda thadcu". (TV: Silence in the Library)
  • Mae'r Doctor yn meddwl am ei hun fel "môr-leidr y gofod". (SAIN: Doctor Who and the Pirates)

Dolenni allanol[]

Advertisement