Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Bad Wolf (Cy: Bad Wolf) oedd deuddegfed episôd cyfres 1 Doctor Who.

Cynhwysodd yr episôd presenoldeb Dalek mwyach nac yn gynharach yn y gyfres. Ailgyflwynodd yr episôd cysyniadau Dalek wrth gyfres wreiddiol Doctor Who, gan gynnwys Daleks a grëwyd wrth fater genynnol dynol ac Ymerawdwr y Daleks.

O ran naratif y gyfres, dynododd y stori dechrau datrysiad arc stori Bad Wolf. Hyd hyn, credodd y Doctor mai cyd-ddigwyddiad oedd yr ymadrodd Bad Wolf ar ddraws ei deithiau. Yn y stori yma, mae rhaid iddo cydnabod mai arwydd o fygythiad enfawr oedd hyn.

Mae llawer o gyfeiriadau i ddiwylliant poblogaidd dynol wrth adloniant teledu ar adeg darllediad yr episôd yma, megis Big Brother, The Weakest Link, a What Not to Wear, gyda'r sioeau yn derbyn addasiadau yn bell iawn i ddyfodol dynoliaeth gyda robotiaid ar gyfer y cyflwynyddion gwreiddiol. Mae lleisiau'r robotiaid wedi'u darparu gan eu gwrthbarthiau o'r byd go iawn: Davina McCall, Anne Robinson, Trinny Woodall, a Susannah Constantine.

Trwy linell garcus, dyma'r episôd gyntaf i gyfeirio at Sefydliad Torchwood fel gwybodaeth amhwysig. Yn ddibwys am nawr, byddai "Torchwood" llawer bwysigach yn y gyfres olynol pan caiff tarddiad y sefydliad eu datgelu.

Archwiliodd y stori hefyd i sut achosodd gwaith dda y Nawfed Doctor yn The Long Game adfeiliant dynoliaeth. Yn union fel The Ark 40 mlynedd yn gynharach, dyma enghraifft o Doctor Who yn dangos canlyniadau hir-dymor ymyrraeth y Doctor.

Crynodeb[]

Wedi'u hymwahanu o'r TARDIS, bu rhaid i'r Nawfed Doctor, Rose a Jack ymladd am eu bywydau ar yr Orsaf Gêm, ond mae fygythiad mwy peryglus yn cuddio. Cyn bo hir, mae'r Doctor yn sylweddoli bod rhywbeth llawer mwy yn fygythio'r Ddaear, ac mae dynoliaeth wedi bod yn ddall iddo am flynyddoedd.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Staff/Rhaglennwyr:[1]
    • Katherine Constance
    • Kate Groves
    • Jenny Head
    • Gemma Whirmore
    • Sally Martin
    • Leroy Henry
    • Chester Durant
    • Ben Fullard
    • Kathryn Jackson
    • Frances V Pillay
    • Helen Lenox
    • Catherine Cornforth
    • Janet Allen
    • Craig Trow
    • Raj Sa Wheny
    • Dan Bowden
    • Adam Sweet
    • Nate Webb
    • Wayne Closier
    • Tim Hurtford
  • Gwarchodion diogelwch stỳnt:[1]
    • Tony Lucken
    • Stuart Clarke
    • Derek Lea
  • Gwirfoddolwyr:[1]
    • Sarah Thomas
    • Hayley
    • Sarah Paul
    • James
  • Criw/Technegyddion:[1]
    • Suzanne Wainright
    • Joseph Lippiat
    • Steve Grant
    • Zana Cousins
    • Heidi Coles
    • Kevin Husdon
  • Gwarchodion diogelwch:[1]
    • Ian Hilditch
    • Kyle Davies
  • Lleisiau ychwanegol:[1][2]
    • Vernon Keeble Watson
    • Alison Goldsmith
    • Hannah Welch

Cyfeiriadau[]

  • Yn nhŷ Big Brother, mae rhes o luniau sydd yn edrych fel hanner gwaelod Dalek.
  • Darlledwyd Big Brother ar Sianel 44000.

Technoleg[]

  • Mae'r Doctor yn defnyddio ei sgriwdreifar sonig i ddianc wrth adran Big Brother yr Orsaf Gêm.

Lleoliadau[]

  • Mae Lloeren Pump yn cylchdroi'r Ddaear.
  • Mae'r Ystafell Reoli ar Lawr 500.
  • Mae'r Ystafell Dyddiadurol rhan o Dŷ Big Brother.
  • Mae'r Pyramid Cobalt wedi'i hadeiladu ar weddillion Torchwood.
  • Enwyd y Ceunant Canolbarthol Enfawr wedi'i henwi ar ôl dinas Sheffield.
  • Dinas yng Ngwlad yr Iâ yw Polar Ventura a unwaith cynhalodd Murder Spree 20.
  • Dywed wrth y Doctor, Jack a Lynda byddent yn cael eu tywys i Wladfa Gosb y Lleuad.

Unigolion[]

  • Disgrifiwyd un o edrychiadau newydd Jack fel "bach o fôr-leidr, gydag awgrym o Arlywydd Schwarzenegger.
  • Preswylydd hynaf yr Alaeth Isop yw'r Wyneb Boe.
  • Mae Stella Bopbates yn enwog am hetiau.
  • San Chen wnaeth ddarganfod Meysydd Barric 10-15.
  • Hoshbin Frane oedd Arlywydd y Red Velvets.

Llenyddiaeth[]

  • Jackie Collins ysgrifennodd Lucky.

Diwylliant[]

  • Defnyddiwyd androidau ar nifer o rhaglenni'r Orsaf Gêm.
  • Mae rhaglenni'r Orsaf Gêm yn cynnwys: Big Brother, Call My Bluff, Countdown, Ground Force, Wipeout, Stars in Their Eyes, a Bear With Me.
  • Yng Nghalendr Pan Traffic, mae'r mis Pandoff yn olynu Hoob.
  • Yn y gyfres holofid Jupiter Rising, mae'r Granix yn briod i Arglwydd Dreyvole.
  • Mae Rodrick eisiau cadw Rose yn y gêm achos mae'n meddwl ei bod hi'n dwp gan nad oed hi'n gwybod cyfenw'r Dywysoges Vossaheen.
  • Un o atebion anghywir cwestiynau'r gêm yw San Hazeldine.

Y Gyfraith[]

  • Arestiwyd y Doctor o dan Deddf Breifat 16 Syndicet yr Orsaf Gêm.

Economeg[]

  • Default yw enw tâl Dronau Mawrth.

Chemeg[]

  • Gallai'r llwch wrth drawsfat bod yn Saniwm.

Bioleg[]

  • Mae gan cell waed goch haearn, sydd ar goll yng nghelloedd gwaed gwyn.

Bwyd a diod[]

  • Tarddiodd y bwyd Gaffabeque o'r blaned Lucifer.

Arc Bad Wolf[]

  • Rheolwyd Lloeren Pump gan Gorfforiaeth Bad Wolf, sydd o dan weinyddiaeth y Daleks.

Nodiadau[]

  • Teitl gweithredol y stori oedd "Gameshow World". Cafodd teitl yr episôd ei rhyddhau yn olaf yng nghyfres 1. Yn gynharach, mewn deunydd hysbysiol, cyfeiriwyd at yr episôd fel "The Parting of the Ways (Part 1)".
  • Yn gwreiddiol, ffilmiwyd yr olygfa gyda Jack yn noeth gyda siotiau llydan. Yn ôl John Barrowman, gwrthododd y BBC yr olygfa. Dyma'r hunig cwyn derbyniwyd am y gyfres gyntaf.
  • Dyma'r ail stori Dalek i ddarlunio gwas dynol y Daleks gyda'r enw o "rheolydd", yn bradu'r Dalek ac yn cael eu lladd er mwyn helpu'r Doctor. (TV: Day of the Daleks)
  • Dyma'r achos gyntaf ers Hen Gyfres 4 i gyfres cynnwys mwy nac un stori Dalek.
  • Cyflwynodd y stori hon sêl lwyrglo, math o glo na all sgriwdreifar sonig y Doctor dadwneud.
  • Gwerthwyd cadair ystafell dyddiadurol yr Orsaf Gêm i Channel 4, a cafodd ei ddefnyddio yn rhan o set Ultimate Big Brother.
  • Dyma'r episôd olaf nes TV: The Beast Below i beidio cynnwys David Tennant.
  • Mae enwau'r androidau yn chwarae ar enwau'r cyflwynwyr gwreiddiol; Anne Droid (The Weakest Link), Davinadroid (Big Brother), Trine-E a Zu-Zana (What Not to Wear).
  • Dewiswyd y stori gan BBC America i gyndrychioli'r Nawfed Doctor yn ystod eu dathliad o 50fed pen blwydd Doctor Who. Wedi'i olygu i mewn i episôd estyniedig gyda The Parting of the Ways, darlledwyd y stori ar BBCA ar 29 Medi 2013, yn olynu'u rhaglen arbennig o'r enw The Doctors Revisited - The Ninth Doctor. Darlledwyd yr episôd a'r rhaglen arbennig wedyn yn y DU ar 9 Tachwedd ar sianel Watch.
  • Defnyddiodd Russell T Davies syniad Anne Droid a The Weakest Link o'r dyfodol yn rhan o gais ei ail gyfarfod am adnweyddu'r gyfres yn 2000 neu 2001. Ysbrydolodd taith i Efrog Newydd y syniad wrth iddo lawnsio fersiwn Americanaidd Queer as Folk. Yno, fe welodd sgrîn enfawr yn Times Square lle roedd fesiwn enfawr o Anne Robinson yn saethu cytadleuwyr gyda'i llais.
  • Yn ôl sylwebaeth sain DVD yr episôd hon, mae thema cerddoriaeth y Daleks yn cynnwys linell Hebraeg sydd yn cyfieithu i "Beth sy'n digwydd?" (yn wreiddiol: Mah Kor'ei).
  • Yn ôl Doctor Who Confidential, er wahoddwyd Anne Robinson i leisio Anne Droid, roedd disgwyliad iddi wrthod. O ganlyniad, pan dderbyniodd Robinson ei rôl, roedd dynwaredydd lleisiau enwogion wedi'i llogi yn barod.
  • Yn ystod sesiynau recordio The Weakest Link, cafodd Joe Ahearne i dechnegydd sain, Neil Harris, i chwarae cwestiynnau Anne Droid mewn trefn gwahanol er mwyn cael penblethdra go iawn o'r actorion.
  • Yn gwreiddiol, rhedwyd yr Orsaf Gêm gan harddegwr gyda gallu artffisial o'r enw Edward, ond yn cloi daeth Russell T Davies i gasáu'r syniad. Yn gyntaf, bu Edward yn cael ei gyfnewid gan hen ddyn, wedi'i ysbrydoli gan The Minoriy Report. Yn y pendraw, dewisodd Davies ar Rheolydd androgynaidd gwelw.
  • I ddechrau, bu'r Rheolydd yn oroesi i'r episôd olynol er mwyn rhoi rhywun i'r Doctor i siarad i, nes dewisodd Davies cael y Doctor yn siarad i Ymerawdwr y Daleks yn lle.
  • Yn gwreiddiol, gosodwyd y stori 500 mlynedd wedyn ddigwyddiadau The Long Game.
  • Os fyddai prop Ymerawdwr y Daleks yn anddefnyddiadwy, ysgrifenodd Russell T Davies sgript arall yn cynnwys Davros yn lle.
  • Dyma'r stori olaf dwy ran i gynnwys trelar "Amser Nesaf" cyn credydau'r episôd. O The Impossible Planet ymlaen, byddai'r trelar yn ymddangos yn dilyn y credydau. Mae Rise of the Cybermen yn eithriad, gan nad oes trelar o gwbl yn yr episôd.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 6.23 miliwn[3]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 6.81 miliwn[4]

Lleoliadau ffilmio[]

  • Severn Square, Canton, Caerdydd (Tŷ Big Brother)
  • Uned Q2, Casnewydd
  • NCLA, Clarence Place, Casnewydd
  • Enfys Television Studio, Caerdydd

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn cofio gadael Siapan yn 1336 diwethaf. (COMIG: Return of the Volsci)
  • Mae Rose wedi cyfarfod â Dalek o'r blaen. (TV: Dalek)
  • Mae Rose yn siarad am ddychwelyd Margaret yr ŵy i feithrin. (TV: Boom Town)
  • Pan arestiwyd y Doctor, Jack, a Lynda gan warchodwyr yr orsaf, maent yn clywed eu bod yn mynd i Wladfa Gosb y Lleuad heb brawf. Cafodd y Trydydd Doctor ei ddal mewn carchar ar leuad pan credwyd mai ysbẅr am y Draconians oedd ef. (TV: Frontier in Space)
  • Mae'r Doctor yn dweud wrth Lynda ei fod yn lleithio, gan gyfeirio at ei ofid ffug at Cassandra gyda "What are you going to do, moisturise me?". (TV: The End of the World)
  • Yn flaenorol, yr Orsaf Gêm oedd Lloeren Pump. (TV: The Long Game)
  • Wrth i filoedd o Daleks sgrechen "Exterminate" ar eu llong, mae modd gweld panel rheoli'n debyg i'r un gwelwyd ar beiriant amser y Daleks yn TV: The Chase.
  • Bydd tarddiad Sefydliad Torchwood yn ymddangos yn TV: Tooth and Claw. Gwelir y Sefydliad yn TV: Army of Ghosts/Doomsday, The Stolen Earth/Journey's End, a thrwy gydol tair cyfres gyntaf y gyfres Torchwood.
  • Gwelir y rheolydd eto wrth i'r Doctor cofio faint sydd wedi aberthu eu hun yn ei enw ef yn TV: Journey's End.
  • Darlunir ôl-fflachiau o'r geiriau "Bad Wolf", gan gynnwys Gwyneth o TV: The Unquiet Dead, yr hofrennydd "Bad Wolf One" o TV: Dalek, prosiect y Blaidd Drwg o TV: Boom Town, y geiriau chwyth-baentiwyd ar ochr y TARDIS yn TV: Aliens of London, a Bad WolfTV o TV: The Long Game.
  • Yn flaenorol, gwelwyd trawsfat yn gadael gweddillion llychlyd, yn union fel gwelwyd yma. (TV: The Twin Dilemma)
  • Mae'r Daleks wedi cuddio eu presenoldeb o'r blaen. (TV: Planet of the Daleks)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

  • Cafodd Bad Wolf, ynghyd Boom Town a The Parting of the Ways, eu rhyddhau ar DVD ar 5 Medi 2005 (DU) ac ar 7 Tachwedd 2006 (UDA).
  • Yn hwyrach, cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 yn rhan o DVD Doctor Who: The Complete First Series ar 21 Tachwedd 2005.
  • Cafodd yr episôd ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #6.
  • Rhyddhawyd yr episôd ar Doctor Who: Series 1-4 ym mis Hydref 2009, ac wedyn ar blu-ray yn rhan o Doctor Who: Complete Series 1-7 ar 4 Tachwedd 2013 (DU) ac ar 5 Tachwedd 2013 (UDA).
  • Ar 20 Mawrth 2017 cafodd yr episôd ei rhyddhau gyda gweddill Cyfres 1 mewn Steelbook.

Troednodau[]

Advertisement