Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Mark of the Rani (Cy: Arwyddnod y Rani) oedd trydydd stori Hen Gyfres 22 Doctor Who.

Cyflwynodd y stori hon gelyn Arglwydd Amser newydd, Y Rani Cyntaf, wedi'i chwaear gan Kate O'Mara. Byddai hi yn dychwelyd wedyn yn Time and the Rani.

Crynodeb[]

Yn Lloegr y 19fed ganrif, bydd rhaid i'r Chweched Doctor brwydro yn erbyn dau elyn: y Meistr a'r Rani, Arglwyddes Amser gyda chynllyn sinistr. Mae'r poblogaeth lleol yn troi'n ffyrnig ac anrhagweladwy. Gyda chyfarfod pwysig o alluogion y Chwyldro Diwydiannol ar fin digwydd yn y pentref, bydd rhaid i'r Doctor datrys beth sydd yn achosi'r problemau. Y Doctor yw'r unig berson sydd yn gallu rhwystro cynllyn adfad y Rani a'r Meistr.

Plot[]

Rhan Un[]

I'w hychwanegu.

Rhan Dau[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Glowyr:[1]
    • Leon Laurence
    • Nick Joseph
  • Cwsmer:[1]
    • Zophanie Vasquez Howard
  • Pedlwr:[1]
    • Dave Mitty
  • Bachgen:[1]
    • Tony Dell
  • Gwarchod Harry:[1]
    • Gordon Young
  • Fforddolyn:[1]
    • George Coulson
  • Gwarchodwyr:[1]
    • Terrence Cotton
    • Clive Cartwright
  • Glowyr / ymosodwyr:[1]
    • Derek Holt
    • Ernie Goodyear
    • Raymond Martin
    • Ian Durrant
    • Don Parry
    • Toby Byrne
    • John Poyner
    • Neville Clark
    • Ian MacFarlane
    • Terry Pearson
    • Barry Jones
    • Dave Lee-Jay
  • Josh:[1]
    • Nigel Johnson
  • Tom:[1]
    • Alan Talbot

Criw[]

  • Awduron - Pip a Jane Baker
  • Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
  • Cerddoriaeth achlysurol - Jonathan Gibbs
  • Sain arbennig - Dick Mills
  • Dyn camera ffilm - Kevin Rowley
  • Sain ffilm - Barrie Tharby
  • Golygydd ffilm - Ray Wingrove
  • Rheolydd cynhyrchu - Tony Redston
  • Cyfeillachwr cynhyrchu - Sue Anstruther
  • Cynorthwyydd cynhyrchu - Carolyn Mawdsley
  • Rheolydd llawr cynorthwyol - Penny Williams
  • Dylunydd effeithiau gweledol - David Barton
  • Effeithiau fideo - Dave Chapman
  • Cymysgydd - Jayne Beckett
  • Cyfraddwr technegol - Alan Arburthnott
  • Goruwchwyliwr camera - Alec Wheal
  • Golygydd fideo - Hugh Parson
  • Cyfarwyddwr goleuo - Don Babbage
  • Sain stiwdio - Keith Bowden
  • Gwisgoedd - Dinah Collin
  • Colur - Catherine Davies
  • Golygydd sgript - Eric Saward
  • Teitlau agoriadol - Sid Sutton
  • Dylunydd - Paul Trerise
  • Cynhyrchydd - John Nathan-Turner
  • Cyfarwyddwr - Sarah Hellings

Cyfeiriadau[]

Bioleg[]

  • Mae'r Doctor yn tybio cymrodd y Rani'r embryo Tyranosor yn ei TARDIS o'r Cretasaidd.
  • Mae Peri yn mynd i chwilio am driaglog gyffredin (Valeriana officinalis), llysieuyn i wella'r dioddefwyr y Rani.
  • Mae ffrwydron tir y Rani yn troi bodau anifeilaidd i fodau llysieuol ymwybodol.
  • Mewn sgwrs gyda Peri am ecoleg a'i wahaniaethau gyda'r 1800au, mae Peri yn dweud bod rhai rhywogaethau o bili pala ac adar yn agos at ddiddymu yn ei chyfnod hi.
  • Mae'r Doctor yn dweud byddai'r Meistr yn troi'n dresi aur (Sn: laburnum) os gamai ar un o ffrwydron y Rani, gan mai coeden gwenwynllyd yw tresi aur.
  • Mae'r Rani yn baio'r dynoliaeth am fod yn gigysyddion.
  • Yn ôl y Rani, mae gan goeden disgwyliad oes pedair gwaith yn hirach na dynoliaeth.
  • Mae gan Peri ofn am y gynddaredd a mae'n amcan bod gan Arglwyddi Amser heintryddid rhagddo.
  • Mae'r Rani yn defnyddio parasitiaid mwydyn er mwyn rheolaeth feddwl. Pan mae'r paraseitiaid yn cymryd drosodd, mae llygaid yr aberthydd yn goleuo'n las am eiliad.

Cyfeiriadau diwylliannol o'r byd go iawn[]

  • Mae'r Doctor yn dyfynnu Hamlet a Julius Caesar gan William Shakespeare.
  • Mae Peri yn cam-ddyfynnu Henry IV.
  • Mae'r Doctor yn dyfynnu'r gerdd The Spider and the Fly gan Mary Howitt.
  • Mae'r Doctor yn galw ci yn "Fido".
  • Yn wreiddiol, roedd Doctor a Peri yn teithio i Kew Gardens.
  • Disgwylwyd y gwyddonwyr Thomas Telford, Michael Faraday, Humphry Davy a Marc Brunel ymgynnull i'r cyfarfod.

Unigolion[]

  • Cafodd y Rani ei halltudio wrth Gallifrey wedi i'w llygoden enfawr bwyta cath yr Arglwydd Llywydd, ac yn ôl y Meistr, cnodd y Llywydd ei hun. Mae eisioes yn rheoli Miasimia Goria, ac yno mae'n rheoli hil o estronwyr. Mae'r Rani wedi bod yn teithio i'r Ddaear yn disylw an ganrifoedd, i gael hylif ymennydd wrth bobl, gan gynnwys wrth bobl y Rhyfel Caerdroea, yr Oesoedd Tywyll a Rhyfel Annibyniaeth America. Mae hefyd yn ymwybodol o cynllun y Meistr ar y blaned Sarn wnaeth methu, a fe meddyliodd hi ei fod wedi marw.
  • Mae'r Meistr yn cuddio'i hun fel bwgan brain am amser fuan.

Tardis a theithio mewn amser[]

  • Mae allwedd TARDIS y Doctor yn gallu agor TARDIS y Rani.
  • Mae'r Rani wedi cysylltu'i TARDIS â remôt Stattenheim. Mae'r Rani yn cael ei hystyried fel athrylith achos hi dyfeisiodd y peth.
  • Oherwydd ollyngiad amser, mae'r un o embryonau'r Tyranosor yn tyfu o fewn y TARDIS y Rani yn frysiog.
  • Mae'r Doctor yn difrodi system hwylio a rheolydd cyflymder TARDIS y Rani. Mae'n cyfrifo byddent yn cael eu taflu y tu hwnt i'r Llwybr Llaethog, efallai tuag at ffiniau'r bydysawd.
  • Mae cyflymiad TARDIS y Rani yn danfon y Rani a'r Meistr at y wal mewn modd debyd i G force.
  • Mae'r Meistr yn defnyddio ei TARDIS i drechu TARDIS y Doctor er mwyn ei dywys i Killingworth.
  • Mae'r Doctor yn dod o hyd i'r Rani trwy ddyfeis am ddatgelu ystumiadau amser. Mae'n canfod peiriant amser agos, efallai wedi'i berchen gan Arglwydd Amser, Dalek neu rym estronaidd arall.

Arfau[]

  • Mae'r Rani yn defnyddio nwy mwstard fel adwaith amddiffynnol yn erbyn y rhai sydd eisiau torri i mewn i'w TARDIS. Gwisgodd y Chweched Doctor a Peri Brown mygydau nwy i osgoi ei effeithiau.
  • Mae Dilëydd Cywasgiad Cnodwe'r Meistr bellach yn diflannu pobl ac anifeiliad yn gyfan gwbl.
  • Gall dyfais y Meistr datgloi drysiau pren gan losgi'r glicied bren.

Nodiadau[]

  • Teitlau gweithredol y stori oedd Too Clever by Far ac Enter the Rani.
  • Jonathan Gibbs cyfansoddodd y stori. Yn wreiddiol, John Lewis cyfansoddodd y stori, ond atalodd salwch annisgwyledig - a wnaeth achosi ei farwolaeth - ef rhag gorffen ei waith. Llwyddodd Lewis cyfansoddi cerddoriaeth am y stori gyntaf, a chynhwyswyd hon ar y rhyddhad DVD.
  • Mae'r credydau yn cynnwys: "The BBC wish to acknowledge the cooperation of the Ironbridge Gorge Museum."
  • Dyma stori olaf cyfres wreiddiol Doctor Who i'w chyfarwyddo gan fenyw. Y stori nesaf i'w chyfarwyddo gan fenyw oedd TV: Blink, wedi'i chyfarwyddo gan Hettie MacDonald, yn 2007.
  • Ddarlledwyd The Mark of the Rani yn bedair rhan o 25 munud yn America, Canadd, Awstralia, yr Almaen, yr EAU a Seland Newydd.
  • Crëwyd y Rani gyda'r bwriad o gael gelyn cylchol newydd, ond ymmdangosodd y gymeriad ond unwaith pellach yn y gyfres: dwy flynedd diweddarach yn TV: Time and the Rani. Chwaraeodd Kate O'Mara y cymeriad unwaith eto am y stori elusennol TV: Dimensions in Time, a'r cynhyrchiad sain deilliedig SAIN: The Rani Reaps the Whirlwind. Mae dychweliad y Rani wedi bod yn gysyllbwynt dyfaliaeth cefnogwyr y sioe ers 2005, gyda bron pob gymeriad benywaidd o Rose Tyler i Donna Noble i Lucy Saxon nes Missy yn cael eu hystyried fel Ranis cudd.
  • Gweithiodd Colin Baker a Kate O'Mara gyda'i gilydd yn flaenorol ar gyfres ddrama BBC The Brothers.
  • Credodd Eric Saward roedd y sgript yn dderbyniol ond roedd diffyg ysbrydoliaeth iddo. Roedd hefyd ganddo atgasedd am Pip a Jane Baker.
  • Cymerodd Pip a Jane Baker cyfrifoldeb am olygfa'r goeden, gan ddweud byddent wedi'i newid os oeddent yn gwybod na fyddai'n gweithio cystal ar gyllideb y BBC.
  • Wnaeth Colin Baker styntiau ei hun ar y stori hon.
  • Daeth arbrofion y Rani ar ganolfannau cwsg yr ymennydd dynol wrth erthygl darllenodd Pip a Jane Baker yn The New Scientist.
  • Gan ffilmiwyd y rhan fwyaf o'r stori yn allanol, roedd llawer o broblemau i'r cast a'r criw. Roedd hyn achos gofyniad o dywydd clir am un rhan a glaw am y llall. O ganlyniad, byddai rhaid i'r criw newid yn gyflym o un golygfa i'r lleill er mwyn cael popeth wedi'i ffilmio'n gywir. Achosodd y gofynion hyn sefyllfa lle gafodd Colin Baker ei glymu i goeden am hanner awr tra oedd y criw yn symyd ymlaen i olygfa arall achos newidiad tywydd
  • Ystyriwyd Joss Ackland, Harry Andrews, Bernard Archard, Robin Bailey, George Baker, Ian Bannen, Geoffrey Bayldon, John Carson, Peter Cushing, Allan Cuthbertson, James Ellis, Frank Finlay, Robert Flemyng, Michael Gough, Jeremy Kemp, Dinsdale Landen, T.P. McKenna, Donald Pickering, Peter Sallis, John Standing, Patrick Stewart, a Peter Vaughan am rôl yr Arglwydd Ravensworth.
  • Damweiniodd Nicola Bryant ei gwddf trwy gysgu. O ganlyniad, byddai rhaid iddi gwisgo brês am weddill cynhyrchiad y stori - ar wahân i ban oedd y camerâu yn recordio.
  • Dechreuodd Pip a Jane Baker creu cymeriad y Rani ar ôl i un o'i ffrindiau, cemegydd, dweud "All you are is chemicals", gyda ffrind arall ymateb "But what about the soul?"
  • Mwynhaodd Kate O'Mara recordio'r stori, ond roedd y colur henaint mor dda cafodd hi ei hanwybyddu, a ni chynnigwyd cadair. O ganlyniad, temlodd hi'n flin am sut mae cymdeithas yn eu trin.
  • Creodd Pip a Jane Baker y Rani ar ôl i John Nathan-Turner dweud fe deimlodd roedd y Meistr yn dechrau dod yn rhy pantomeimaidd.
  • Honodd Eric Saward mai ef awgrymodd y gosodiad hanesyddol a chynnwys y Meistr.
  • Mae Sarah Hellings yn honni pan gynnigodd John Nathan-Turner cais i gyfarwyddo Doctor Who, ymatebodd hi byddai hi ond yn barod i gyfarwyddo'r stori hon.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • Rhan Un - 6.3 miliwn
  • Rhan Dau - 7.3 miliwn

Lleoliadau ffilmio[]

  • Granville Colliery Spoil Heaps, Donnington Wood, Swydd Amwythig
  • Blists Hill Open Air Museum, Telford, Swydd Amwythig
  • Coalport China Works, Coalport, Swydd Amwythig
  • Park Wood, Ruislip, Middlesex
  • BBC Television Centre (Studio 1)

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Meistr yn dychwelyd yn y stori hon heb esboniad am sut diangodd wrth angau llawn dân yn TV: Planet of Fire. (Mae'r nofeleiddiad yn tybio mai crebachu a chrebachu oedd e cyn i nwyon y tân ei achub. Mae PRÔS: A Town Called Eternity yn cynnwys Meistr wedi'i losgi sydd yn cael ei adfer gan y ffynnon ieuenctid.
  • Bydd ymgorfforiad yma'r Rani'n ailymddangos yn PRÔS: State of Change, TV: Time and the Rani, Dimensions in Time a SAIN: The Rani Reaps the Whirlwind.
  • Erbyn yr 1908au, datblygodd stori a bortreadodd y Rani fel gwrach. (SAIN: The Carrionite Curse)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

Rhyddhawyd y stori fel Doctor Who: The Mark of the Rani ar 4 Medi 2006 (DU), ar 7 Tachwedd 2006 (UDA), ac ar 2 Tachwedd (Awstralia).

Cynnwys:

  • Sylwebaeth sain gan Colin Baker, Nicola Bryant a Kate O'Mara
  • Lords and Luddites - rhaglen dogfennol am gynhyrchu'r stori gyda Colin Baker, Nicola Bryant, Kate O'Mara, Gary Cady, awduron Pip a Jane Baker, golygydd sgript Eric Saward, a chyfansoddwr Jonathan Gibbs
  • Golygfeydd dileuwyd - deg munud o deunydd ychwanegol o Rhan Un
  • Now and Then - ffilm byr am leoliad Blists Hill Victorian Town
  • Playing with Time - cyfweliad gyda chyfansoddwr y stori, Jonathan Gibbs
  • Blue Peter - ffilm byr o 1978 yn arddangos hanes Ironbridge Gorge a Blists Hill
  • Saturday Superstore - rhan o raglen 17 Mawrth 1984 yn cynnwys Colin Baker, Nicola Bryant, ac Anthony Ainley
  • Cerddoriaeth wedi'i ynysu - y trac sain am y dau episôd
  • Rhestrau Radio Times
  • Oriel
  • Isdeitlau cynhyrchu

Cafodd y stori ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #63.

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhadau Digidol[]

Mae'r stori ar gael:

  • i lawrlwytho ar iTunes.
  • i ffrydio ar Amazon instant Video (DU).
  • i ffrydio ar Hulu (UDA).

Nofeleiddiad[]

Prif erthygl: The Mark of the Rani (nofeleiddiad)

Troednodau[]

Advertisement