Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Leef Apple Glyn Slitheen-Blathereen oedd aelod o'r teulu Slitheen-Blathereen a gwraig Tree. Edrychodd y ddau ohonynt lawr ar ochr Blathereen eu teulu a roedden nhw'n gaeth i fwyta Rakweed.

Yn 2009, dyfeision nhw gynllyn i daenu Rakweed dros y Ddaear i wneud elw arno. Glanion nhw eu llong ofod yn yr Antarctig, gan ei ddefnyddio fel gorsaf. Rhodd y ddau planhigyn Rakweed i Sarah Jane Smith ar ôl atal cynlluniau'r Slitheen i ddinistrio'r Ddaear er mwyn enill ei hymddiriedaeth wrth esgus fod yn helwyr bounty.

Dechreuodd y Rakweed i heintio Llundain, gan gynnwys mab Sarah Jane, Luke. Wedi'i gwylltio gan hyn, telegludodd Sarah Jane i'r long gyda gwn dŵr llawn finegr er mwyn bygwtho Tree a Leef gyda fe. Twyllodd Leef hi gan esgus anwybyddiaeth am effeithiau'r Rakweed, ac wedyn ffugiodd Tree tynnnu'r pllanhigyn wrth Llundain. Pan ostyngodd Sarah Jane ei harf, rhwystrwyd hi gan Tree. Ond, diancodd Sarah Jane o'r long cyn gweithio allan ffordd o ladd y Rakweed a'r haint.

Telegludodd Leef a Tree eu hunain i atig Sarah Jane i geisio lladd hi a'i ffrindiau. Fe gaeth Sara Jane Mr Smith ailadrodd y sŵn cloch i ddinistrio'r Rakweed yn stumogau Leef a Tree. Achosodd hwn croniad o gymylau nwy methan a ffrwydron nhw. Galwodd Clyde Langer hyn yn "farting themselves to death". (TV: The Gift)

Advertisement