Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Storm Warning (Cy: Rhybydd Storm) oedd stori rhif 16 yn ystof misol Big Finish Productions. Ysgrifennodd Alan Barnes y stori a gynhwysodd Paul McGann fel yr Wythfed Doctor a chyflwynodd India Fisher fel y cydymaith newydd, Charlotte Pollard.

Wedi'i rhyddhau yn Ionawr 2001, hon oedd y stori sain gyntaf i gynnwyd Paul McGann yn y rôl yr Wythfed Doctor, a'i ymddangosiad cyntaf mewn stori cast lawn ers y ffilm deledu yn 1996, ei ymddangosiad cyntaf fel y Doctor.

Crynodeb cyhoeddwr[]

Hydref, 1930. Mae Awyrlong y Brenin, y R101, yn cychwyn ei thaith cyntaf i bannau pellaf yr Ymerodraeth Prydeinig, yn tywys golau cryfaf y llynges frenhinol. Yn cario breuddwydiau gwlad gyfan.

Heb son am yr ysbïwr ar asiantaith cyfrinachol, y teithiwr dirgelus sydd ddim ar y rhestr o'r criw, anturiaethess sydd yn bwriadu mynd i Singapore... ac Arglwydd Amser o'r planed Gallifrey.

Mae storm yn dod. Mae rhywbeth erchyll - rhywbeth gydag adneydd. Miloedd o droedfedd yn yr awyr tywyll, mae criw y R101 yn baratoi, achos pan fydd y storm yn dechrau, nid bywydau nhw yn unig fydd mewn perygl.

Bydd y dyfodol yn hongian wrth edefyn.

Plot[]

I'w hychwanegu

Cast[]

  • Y Doctor - Paul McGann
  • Charley Pollard - India Fisher
  • Yr Arglwydd Tamworth - Gareth Thomas
  • Lt-Col Frayling - Nicholas Pegg
  • Rathbone - Barnaby Edwards
  • Prif-Stiward Weeks - Hylton Collins
  • Triskelion - Helen Goldwyn
  • Cyhoeddwr - Mark Gatiss

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r TARDIS yn glanio yn Dieppe.
  • Mae Tamworth yn siarad am y Hindenburg.
  • Mae Weeks yn awrymmu wrth Charley ei fod wedi ymladd yn y Somme.
  • Mae'r Doctor yn taflu ceiniog "Altarian Dollar", yr arian wrth The Hitchhiker's Guide to the Galaxy gan Douglas Adams.

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn darganfod argraffiad cyntaf o nofel Agatha Christie The Murder of Roger Ackroyd ar ei TARDIS. Mae hefyd yn darganfod War and Peace, The I-Spy of British Birds, a The Wonderful Wizard of Oz.
  • Chwaraeodd y Doctor Tiddlywinks gyda Tsarina Alexandra ac wedyn gyda Vladimir Lenin ar drên dros nos o'r Swistir i Petrograd. Mae'r Doctor hefyd wedi cwrdd â Geronimo.
  • Yn ôl y Doctor, e ddysgodd sut i farchog Fortisor yn yr Academi.
  • Mae'r Doctor yn defnyddio'r llysenw "Doctor Johann Schmidt".

Nodiadau[]

  • Mae'r rhyddhad yn cynnwys trefniant gwreiddiol o thema Doctor Who, wnaeth David Arnold ei chyfansoddi. Dyma'r tro cyntaf defnyddiodd stori sain Big Finish thema gwreiddiol; defnyddiodd y pymtheg rhyddhad cyntaf thema Delia Derbyshire.
  • Rhyddhawyd sgôr Alistair Lock ar CD yn rhan o Music From the Eighth Doctor Adventures, ynghyd â thair stori sain cyntaf eraill yr Wythfed Doctor.
  • Er mae'r digwyddiadau wedi'i seilio ar digwyddiad real, mae pob un o'r cymeriadau yn ffug.
  • Yn y stori, mae'r Doctor yn dynodi nad oedd neb wedi goroesi crash y R101. Mewn gwirionedd, goroesodd wyth pobl y crash. Yn dilyn hyn, bu farw dau person pellach wrth eu hanafau o'r crash, o ganlyniad, y nifer o oroeswyr oedd chwech.
  • Fel stori sain cyntaf yr Wythfed Doctor, dyma stori sain cyntaf Big Finish i'w osod ar ôl TV: Doctor Who, stori diweddaraf y Doctor ar y pryd.
  • Recordiwyd y stori ar 18 Mai 2000 yn Christchurch Studios.
  • Ymddangosodd darluniad gan Lee Sullivan a rhagolygodd y stori yn DWM 300.
  • Dyma'r stori sain gyntaf gan Big Finish i gynnwys Sgriwdreifar sonig y Doctor.
  • Roedd y stori yn rhan o gyfres yr Wythfed Doctor ar BBC Radio 7 yn 2005, ynghyd â Shada, Sword of Orion, The Stones of Venice, Invaders of Mars, a The Chimes of Midnight. O ganlyniad, comisiynnwyd cyfres o The Eighth Doctor Adventures a ddarlledodd yn Rhagfyr 2006. Ond achos cyfyngiadau amser, roedd rhai golygfeydd wedi'u torri. Ni ddarlledwyd Minuet in Hell o achos ei themâu aeddfed.
  • Yn gwreiddiol, roedd y stori ar gael ar CD. Mae'r stori nawr ar gael fel Lawrlwythiad ac i ffrydio ar Spotify.
  • Roedd episôd gyntaf y stori ar gael gyda Last of the Titans.

Cysylltiadau[]

  • Yn ôl SAIN: Terror Firma, cafodd yr Wythfed Doctor sawl antur cyn y stori hon. Yn ystod y cyfnod hwn, teithiodd gyda'r brawd a chwaer Samson a Gemma Griffin, a Mary Shelley hefyd. (SAIN: Mary's Story ayyb)
  • Mae'r stori yn darlunio cyfarfyddiad cyntaf i fod y Doctor a Charley. Yn hwyrach, mae wedi'i ddatgelu bod y Doctor wedi cymryd hi fel cydymaith yn gynharach yn ei linell amser. (SAIN: The Condemned nes Blue Forgotten Planet) Mae'r ffaith na chofiodd y Doctor o achos amnewidwyd ei gofion o Charley gyda ffug cofion o deithio gyda Mila (SAIN: Blue Forgotten Planet) Cryn gynharach, mewn llinell amser eiledol, cwrddodd y Pedwerydd Doctor gyda'r Wythfed Doctor a Charley tra'n teithio gyda Leela. Ar yr achod hwnnw, meddyliodd y Pedwerydd Doctor bod Charley yn galluog iawn. Ond, wrth ddychwelodd y llinell amser cywir, collodd ef ei gofion. (SAIN: The Light at the End) Yn ychwanegol, dywedodd y Seithfed Doctor wrth rhieni Charley, yr Arglwydd Richard a'r Arglwyddes Pollard, o'i marwolaeth ar yr R101, gan fod yn anymwybodol o'i bodolaeth fel paradocs amser. (PRÔS: The Heroine, the Hero and the Megalomaniac)
  • Bydd y Fortisor, o'r enw Ramsay, yn aros yn y TARDIS nes SAIN: Minuet in Hell.
  • Yn y dyfodol pell, byddai modd cael darllediadau radio ynglŷn â'r R101 trwy Gogglebox tu mewn i'r Lleuad. (SAIN: The Reaping, The Gathering)
  • Mae'r Doctor yn cofio antur gyda Mary Shelley a'r Arglwydd Byron yn agos i Lyn Léman yn y Swistir ym Mehefin 1816. (SAIN: Mary's Story)
  • Mae'r Doctor yn dod o hyd i gopi o The Murder of Roger Ackroyd, sydd heb ei dudalen olaf. Byddai hynny yn cael ei datgelu i fod yn anrheg pen-blwydd gan ei gyn-gydymaith, Samson Griffin. (SAIN: Terror Firma)
  • Mae'r Doctor yn siarad am fod ar yr RMS Lusitania pan suddodd hi ar 7 Mai 1915. (SAIN: The Sirens of Time)
  • Mewn llinell amser eiledol, lle enillodd y Nazïaid yr Ail Ryfel Byd, mae fersiwn arall yr Wythfed Doctor yn defnyddio'r alias "Johann Schmidt". (SAIN: Colditz, Klein's Story)
  • Mae'r Doctor yn cymharu'r R101 i'r tywodgloddwr Cloddfa Storm 4 (TV: The Robots of Death) a Hyperion III. (TV: Terror of the Vervoids)
  • Mae'r Doctor yn sôn am fod yn Ne Affrica yn ystod Ail Ryfel y Boer, lle cyfarfododd â sawl Afrikaan. (PRÔS: Players)
  • Yn hwyrach, byddai Charley yn datgelu roedd hi ar y R101 i gwrdd â dyn ifanc o'r enw Alex Graye yn Hilton Singapôr ar Nos Galan 1930. (SAIN: Seasons of Fear)
  • Pan fyrddiodd hi'r R101, roedd Charley yn mynd i ysgol berffeithio a redegodd Miss Lime. (SAIN: Zagreus)
  • Lansiwyd y R101 wrth orsaf awyr Cardington. (SAIN: Zagreus)
  • Yn dioddef wrth euogrwydd oroeswr yn dilyn crash y R101, fe ddaeth Simon Murchford yn ofeiriad gan obeithio gwella ei euogrwydd. (SAIN: The Next Life) Fe olynodd Matthew Townsend fel capelwr yn dilyn ei farwolaeth yn 1951. (SAIN: Zagreus)
  • Aflonydodd gwyneb Rathbone wrth iddo gwympo ar Charley yn hwyrach. Er taw ef oedd y person cyntaf a geisiodd i'w lladd, yn y diwedd nid oedd modd iddi cofio'i enw. (SAIN: The Next Life)
  • Cogydd y Pollards, Edith Tompson, oedd yr unig person a oedd yn ymwybodol o gynllun Charley i fynd ar y R101, ac felly cynorthwyodd hi gyda paratoi Charley am ei hantur. (SAIN: The Fall of the House of Pollard)
  • Treuliodd yr Arglwydd Richard Pollard sawl blwyddyn yn ymchwilio'r R101 ac mae modd iddo enwi pawd oedd ar y llong o'r Arglwydd Tamworth i'r "bachgen cabin isaf". Wnaeth sawl llythyr sôn am bŵer arall allanol, ond nid oedd ef wedi gweithio allan yn union beth oedd hwnnw. (SAIN: The Fall of the House of Pollard)

Dolenni allanol[]

Advertisement