Judoon in Chains oedd ail stori y flodeugerdd sain Classic Doctors, New Monsters: Volume One, wedi'i chynhyrchu gan Big Finish Productions. Simon Barnard a Paul Morris ysgrifennodd y stori a gynhwysodd Colin Baker fel y Chweched Doctor.
Crynodeb cyhoeddwr[]
Dyw'r Chweched Doctor ddim yn ddieithr i ddrama'r ystafell llys, ond mae'n wynebu her wahanol iawn wrth iddo baratoi i warchod Jydŵn anarferol iawn.
Yn dilyn camgymeriad yn ystod asiantaeth gwirio amgylcheddol, mae Capten Kybo o Ddeunawfed Grym Rhyngblanedol y Jydŵn wedi'i sowndio yn Lloegr yn y Cyfnod Fictoriaidd, wedi'i gyfyngu o fewn cadwyni fel rhan o arddangosfa mewn syrcas. Ond, mae ganddo cynghreiriaid: Eliza Jenkis - wedi'i hadnabod fel 'Tomasina Thumb' - a'r 'clown' mewn cot amryliw.
Wrth ddarganfod llwybr o anghyfiawndebau a llygredd, cyn dipyn, mae'r Doctor a Kybo yn dadlau am eu bywydau...
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Colin Baker
- Capten Kybo/Cadlywydd - Nicholas Briggs
- Eliza Jenkins - Kiruna Stamell
- Justice Jaggers Ysw/Mr Preddle - Trevor Cooper
- Justice Burrows/Jonty - Tony Millan
- Arlywydd Beel/Aetius/Herculania - Sabina Franklyn
- Meretricious Gedge/Billy - Nicholas Pegg
- Cyfrifiadur y Jydŵn - Barnaby Edwards
Cyfeiriadau[]
Rhywogaethau[]
- Roedd Gedge eisiau llogi'r Ogrons.
Ieithoedd[]
- Mae'r Doctor yn siarad Jydŵneg.
Llenyddiaeth[]
- Mae Kybo yn darllen Frankenstein, Great Expectations, Moby Dick, a cherddi Robert Burns.
- Wrth wrando ar haicw Kybo, mae'r Doctor yn penderfynu ymweld â Samuel Taylor Coleridge yn Porlock.
Jydŵn[]
- Mae Barnwr Burrows yn credu bod Capten Kybo yn edrych fel "rinoseros mewn cilt.
- Mae'r Jydŵn yn defnyddio sgŵp H2O i gludo'r cwrt cyfan i blaned arall. Maent hefyd yn defnyddio sgŵp DNA i gludo Gedge i'r cwrt yn erbyn ei ddymuniadau.
- ER mae'r Jydŵn yn gweithio am y Cyhoeddiad Cysgod yn bennaf, mae'r Capten yn esbonio maent hefyd yn perfformio cenadaethau di-angenreidiol, megis terrafformio planedau ar gyfer buddsoddwyr.
- Mae'r Doctor yn dynodi bod ymenydd Jydŵn yn ffitio ar lwy dê.
- Mae'r Aetius yn disgrifio'r Jydŵn fel "creaduriaid anddychmygol iawn".
- O ganlyniad i symlrwydd y iaith, nid yw cylched cyfieithu'r TARDIS. yn gallu cyfieithu Jydŵneg.
Planedau[]
- Mae Katura wedi'i leoli 3.62 blwyddyn golau o Fawrth.
- Planed cartrefol y Jydŵn yw Jydwnia. Roedd gan y blaned mynyddoedd 1000 milltir uchel.
Nodiadau[]
- Mae'r Doctor yn dweud, "I am not an animal, I am a Time Lord!", cyfeiriad at y linell "I am not an animal! I am a human being!" wrth The Elephant Man a gynhwysodd John Hurt fel y brif gymeriad, John Merrick.
- Mae'r Doctor yn bwriadu ymweld â Samuel Taylor Coleridge ym Mhorlock. Y Person o Borlock oedd dieithr ag ymwelodd â Coleridge yn 1797 wrth i Coleridge cyfansoddi ei gerdd Kubla Khan, a ddaeth iddo mewn breuddwyd. O ganlyniad, fe anghofiodd gweddill y linellau a ni cwblhawyd y gerdd.
- Rhyddhawyd fersiwn finyl mewn storfeydd Asda detholus ar 25 Medi 2020.
Cysylltiadau[]
- Mae'r Doctor mewn cwrt fel diffynnydd. Mae'n cyfaddau nid yw'n hoff o cwrtiau. (TV: The Keys of Marinus, The War Games, The Mysterious Planet, SAIN: Trial of the Valeyard)
- Bu rhaid i'r Jydŵn defnyddio dyfeisiau cyfieithu er mwyn cymhathu'r iaith targed. (TV: Smith and Jones, Prisoner of the Judoon, Fugitive of the Judoon)
- Symudwyd y cwrt i Fawrth, oherwydd diffyg awdurdodaeth y Jydŵn dros y Ddaear. (TV: Smith and Jones)
- Mae'r Jydŵn yn defnyddio Sgŵp H20 i gludo'r cwrt. (TV: Smith and Jones, PRÔS: Revenge of the Judoon)
- Mae'r Jydŵn yn hoff o ddilyn rheolau'r blaned maent arno, heb ots am eu pwysigrwydd. (TV: Prisoner of the Judoon)
- Mae Mr Gedge yn edifaru gweithio gyda'r Jydŵn, gan ddymuno wnaethant llogu Ogroniaid yn lle. (TV: Day of the Daleks)
- Mae'r Doctor yn siarad Jydwneg. (TV: The Stolen Earth)
- Mae'r Cadlywydd yn dienyddu Jaggers yn ei le am gyflawni ymosodiad, gan ei alw'n "anweddiad". (TV: Smith and Jones, Fugitive of the Judoon)
- Mae'r Doctor yn sôn am y Jydŵn yn gweithio ar gyfer y Cyhoeddiad Cysgod. (TV: The Stolen Earth)
- Mae Kybo yn darllen Frankenstein. Byddai awdures y nofel, Mary Shelley, yn teithio gyda'r Wythfed Doctor. Caiff y nofel hyd yn oed ei hysbrydoli gan y sefyllfa cwrddodd Mary a'r Doctor. (SAIN: Mary's Story)
- Mae Capten Kybo yn cael ei orfodi i berfformio yn cyrcas Jaggers yn yr un modd â chydymaith Eutermesan yr Wythfed Doctor, C'rizz, yn sioe freaks Jacob Crackles yn 1851. (SAIN: Other Lives) Roedd hefyd estronwyr yn sioe freaks Thaddeus P. Winklemeyer ym Muzzard Creek, Arizona, 1905. (SAIN: Freakshow)
- Mae'r Doctor yn dweud "A Judoon commune on the Moon." (TV: Smith and Jones)
Dolenni allanol[]
- Tudalen swyddogol Classic Doctors, New Monsters ar bigfinish.com
|
|