Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
Llygad Tantalws

Canon Amserol y Daleks yn y Llygad Tantalws (PRÔS: The Whoniverse)

Llygad Tantalws oedd anghysonder gofod-amser a phorth rhwng bydysawdau.

Lleolwyd yn y Droell Tantalws. Roedd Moldox yn agos i'r Llygad, ac yn awyr y blaned roedd gwyntoedd amser oedd yn dod o'r Llygad yn weladwy. Ymwelodd y Doctor â'r Llygad yn aml, gan meddwl ei fod yn brydferth, yn enwedig yn ei bedwerydd a'i wythfed ymgorffodiadau.

Yn ystod y Rhyfel Mawr Olaf Amser, defnyddiodd y Dalekau egni'r Llygad i creu erfyn Demat a oedd yn gallu dileu Gallifrey o hanes. Atalodd y Doctor Rhyfel y cynllun hwn gan ddefnyddio nodweddion unigryw Borusa i ddefnyddio'r pŵer y Llygad i ddileu pob Dalek yn yr ardal cyfan. (PRÔS: Engines of War)

Advertisement