Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Y Rhyfel Mawr Olaf Amser, (TV: Gridlock) neu Pa-Jass Vortan yn Dalek (PRÔS: The Slyther of Shoreditch) neu The Last Great Time War a "The War to End All Wars" yn Saesneg, (TV: The End of the World, Gridlock, The Day of the Doctor ayyb) oedd y rhyfel amserol rhwng yr Arglwyddi Amser a'r Daleks er lles "creadigaeth cyfan". Wrth ystyried amser yn linellol, parhaodd y rhyfel am ryw 400 blwyddyn, er, mewn girionedd, treuliodd y rhyfel tragwyddoldeb gan ymladdwyd y rhyfel ar draws y gofod ac amser, gyda ffryntiau newydd yn barhau i agor wrth i'r Daleks mewnosodu eu hun i mewn i epocau gwahanol. (PRÔS: Engines of War)

Yng nghalon y rhyfel, bu farw miliynau cyn cael eu hatgyfodi pob eiliad, (TV: The End of Time) o ganlyniad i arfau'r ddwy ochr. (SAIN: Legion of the Lost) Yn hwyrach, byddai TARDIS y Doctor yn cofio'r Rhyfel Amser fel "rhyfel yn erbyn marwolaeth". (PRÔS: What the TARDIS Thought of "Time Lord Victorious") Yn y frwydr olaf yn unig, roedd y Daleks yn niferi cwintiliynau (TV: The Day of the Doctor) gyda llynges o dros deg miliwn o longau gofod. (TV: Dalek) Defnyddiodd yr Arglwyddi Amser dros filiwn o TARDISau Rhyfel. (PRÔS: Peacemaker)

Erbyn diwedd y Rhyfel, medrodd y Daleks i gwthio'r Arglwyddi Amser nôl i eu planed cartrefol, Gallifrey, (PRÔS: The Day of the Doctor) lle ymosododd y Daleks ar bedwar ban y blaned. Yn y pendraw, bennodd y Rhyfel Amser gyda dinistriad honedig Gallifrey (TV: The Day of the Doctor) a roedd Sgaro yn adfeilion, (PRÔS: Meet the Doctor) gyda'n ymddangos fel bod ond tri Arglwydd Amser ar ôl (TV: Utopia, SAIN: Divorced, Beheaded, Regenerated) a nifer fach iawn o Daleks hefyd. (TV: Dalek, Doomsday ayyb)

Tarddiad y Rhyfel[]

Prif erthygl: Tarddiadau'r Rhyfel Mawr Olaf Amser

Daeth yr Arglwyddi Amser yn ymwybodol o'u dyfodol yn rhyfela mewn Rhyfel Amser sbel cyn ei dechreuad, trwy sawl broffwydoliaeth rhyfel a chwedl yn cael eu creu dros y syniad. (TV: Heaven Sent) Serch hynny, ystyriwyd y syniad o ryfel amser newydd fel rhywbeth amhosibl mewn cymdeithas o dydd i dydd. (PRÔS: Damaged Goods; SAIN: Damaged Goods, ayyb) Byddai'r rhyfel yn tyfu wrth y cystadleurwydd rhwng yr Arglwyddi Amser a Daleks Sgaro. (PRÔS: The Whoniverse) Yn y pendraw, roedd gan y Rhyfel Mawr Olaf Amser sawl tarddiad cydamserol ar ddraws hanesau'r ddau grŵp, gan ddechrau ar union ddechrau bodolaeth y Daleks (PRÔS: A Brief History of Time Lords) o ganlyniad i gais yr Arglwyddi Amser i osgoi eu cread. Er, o safbwynt y Daleks digwyddodd hon yn ystod eu genedigaeth, nid oedd yr unigolyn a dderbyniodd y genhadaeth, yr Arglwydd Amser gwrthryfelol o'r enw y Doctor, wedi profiadu'r digwyddiad nes eu pedwerydd ymgorfforiad. (TV: Genesis of the Daleks)

O ganlyniad i wrthwynebu'r Daleks sawl gwaith, y Doctor oedd gelyn mwyaf y Daleks. (TV: The Chase, Victory of the Daleks, ayyb) Ar sail ei cyfarfyddiadau cynnar gyda'r Daleks, cyfeiriodd yr Ail Doctor atynt yn ystod ei dreial am dorri eu polisi di-ymyrraeth, gan eu nodi fel y milain mwyaf peryglus fe rwystrodd ar ei deithiau. (TV: The War Games) Gan weld y fygythiad creuodd y Daleks, dechreuodd yr Arglwyddi Amser hawlio eithriadau i'r rheol di-ymyrraeth, (SAIN: The Dalek Conquests) gan roi gymorth i'r Trydydd Doctor i gyrraedd ymgyrch Spiridon i rwystro byddin Dalek. (TV: Planet of the Daleks)

Gollyngodd yr Arglwyddi Amser eu polisi di-ymyrraeth yn gyfan gwbl (SAIN: The Dalek Conquests) yn dilyn rhagweld "amser lle byddai'r Daleks wedi dinistrio pob fywoliaeth i fod creuadur dominyddol y bydysawd." Gan ddewis y Pedwerydd Doctor i gyflawni'r genhadaeth i osgoi'r dyfodol yma, dargyfeiriwyd y fradgiliwr a'i gymdeithion i Sgaro yn ystod y Rhyfel Mil Flwyddyn a greuodd y Daleks; rhodd un o negesweision yr Arglwyddi Amser amcanion y genhadaeth i'r Doctor:

  • Os yw'n bosib, osgoi genedigaeth y Daleks
  • Fel arall, newid datblygiad y Daleks fel na fydd ganddynt agwedd mor ymosodol
  • Neu i ddod o hyd i unryw nam roedd modd cymryd mantais ohono (TV: Genesis of the Daleks)

Ar ôl methu perswadio creawdwr y Daleks, Davros, newid eu pwrpas ar gyfer daioni, roedd gan y Doctor cais i atal bodolaeth y Daleks ond fe arfreiddiodd gan fod yn anabl i ladd rywogaeth cyfan. Wrth i'r Daleks a Davros cymryd dros lywodraeth y Kaleds, dychwelodd y Doctor er mwyn cyflawni'i fwriad, ond cafodd ei waith ei rwystro. (TV: Genesis of the Daleks) Yn y diwedd, dysgodd y Daleks am gais yr Arglwyddi Amser i gaethiwo eu datblygiad, ac felly ystyrion nhw'r digwyddiad fel gweithred ymosodol a cyrch gynnar wrth bobl Gallifrey, am hynny cynllunion nhw ergydio nôl at Gallifrey. Fel hynny, cafodd y weithrediad yr effaith gwrthwyneb i fwriad yr Arglwyddi Amser; (PRÔS: The Slyther of Shoreditch) creuodd y digwyddiad gwrthgasedd rhwng y Daleks a'r Arglwyddi Amser a byddai'n arwain at y Rhyfel. (WC: Monster File: Daleks, SAIN: The Daleks Conquests, The Innocent, The Eternity Cage)

Dechreuad y Rhyfel Amser[]

Brwydrau cyntaf[]

I'w hychwanegu.

Esgyniad cynnar[]

I'w hychwanegu.

Ffurf newydd o rhyfela biolegol[]

I'w hychwanegu.

Cynllun Dalek y Meistr[]

I'w hychwanegu.

Y Frwydr yn gwaethygu[]

I'w hychwanegu.

Dyddiau olaf y Rhyfel Amser[]

I'w hychwanegu.

Canlyniad y Rhyfel[]

I'w hychwanegu.

Adladd[]

I'w hychwanegu.

Realitïau eraill[]

I'w hychwanegu.

Cyfranogwyr[]

I'w hychwanegu.

Technoleg[]

I'w hychwanegu.

Yn y cefn[]

I'w hychwanegu.

Advertisement