Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Rose (Cy: Rose) oedd episôd gyntaf cyfres 1 Doctor Who.

Dyma'r stori gyntaf i gael ei chynhyrchu gan BBC Cymru, a dyma hefyd y stori gyntaf newydd Doctor Who ers ffilm 1996, a'r stori gyntaf i fod yn rhan o gyfres rheolaidd ers Survival yn 1989. Cyflwynodd y stori hon Christopher Eccleston fel y Nawfed Doctor, a Billie Piper fel ei gydymaith, Rose Tyler. Cyflwynodd y stori hefyd y cast dychweliadol o Camille Coduri fel Jackie Tyler a Noel Clarke fel Mickey Smith.

Yn llwyddiant o'r cychwyn cyntaf, gosododd yr episôd record o 10.81 miliwn o wylwyr ar BBC One, yn drechu Robot, yr episôd gyntaf Doctor newydd gyda'r nifer mwyaf o wylwyr diwethaf, gan aros fel episôd gyntaf gyda'r nifer mwyaf o gwylwyr (heb ei drechu gan The Christmas Invasion, The Eleventh Hour, na Deep Breath) nes The Woman Who fell to Earth yn 2018.[1]

Yn ychwanegol, Rose yw'r trydydd episôd agoriadol cyfres gyda'r nifer mwyaf o wylwyr, yn colli i Destiny of the Daleks a The Woman Who Fell to Earth. O achos roedd ITV ar streic ar ddechrau Hen Gyfres 17, mae niferoedd Destiny yn aml yn cael ei trin fel sefyllfa eithriadol.

Dyma episôd gyntaf y gyfres a gafodd ei cynhyrchu mewn fformat sgrîn-lydan, y stori gyntaf un rhan 45 munud, a'r stori gyntaf un rhan ers Mission to the Unknown yn 1965, a'r episôd gyntaf 45 munud ers Revelation of the Daleks yn 1985. Roedd Rose yn waith cyntaf Doctor Who i bron bawb a weithiodd ar y gynhyrchiad - pawb ar wahan i Arolygwr yr Uned Modelau, Mike Tucker, gweithiwr ar y gyfres wreiddiol o 1985 nes 1989. Yn ychwanegol, nid hon oedd gwaith Doctor Who cyntaf The Mill, cwmni effeithiau gweledol - gweithion nhw ar The Curse of Fatal Death - ond, dyma'r arddangosiad gyntaf o'u teitlau agoriadol newydd; teitleu agoriadol bydd yn cael ei defnyddio, gyda mân-newidiadau, nes The End of Time.

O ran naratif y sioe, dyma ymddangosiad cyntaf yr Ymwybyddiaeth Nestene a'r Autons ar deledu ers Terror of the Autons yn 1971. Cyflwynodd yr episôd hefyd sefydliad y Cyhoeddiad Cysgod, a cynhwysodd y crybwylliad gyntaf at y Rhyfel Mawr Olaf Amser.

Yn annisgwyliadwy, ni gynnigodd y stori unryw esboniad am darddiad y Nawfed Doctor, nac esbonio pwy oedd y Doctor. Yn wir, ddechreuodd Rose arc stori fach am ddirgel ei hunaniaeth - o safbwynt Rose. Ni fyddai cynulleidfa newydd yn gwybod nes episôd olaf y gyfres bod modd i'r Doctor adfywio, na fyddent yn cael gweld cyn-ymgorfforiadau'r Doctor nes dwy flynedd yn olynol gyda Human Nature. O ran tarddiad y Nawfed Doctor, gyda sawl fynhonell yn dangos, neu'n fwy fanwl gywir, cyfeirio at gyfraniad yr Wythfed Doctor yn y Rhyfel Amser yn arwain at ei adfywiad i'r Nawfed Doctor. Ond, newidwyd hon wyth mlynedd wedyn yn 2013 yn The Day of the Doctor gyda cyflwyniad y Doctor Rhyfel, ond mae cydnabyddiaeth o safbwynt mewn-bydysawdol bod gan y Doctor sawl nawfed ymgofforiad.

Bu sawl stori arall yn cael eu hysgrifennu i gyd-fynd gyda'r stori hon. Cyhoeddwyd PRÔS: UNIT's Position on The London Incident ac Operation Mannequin ar wefan U.N.I.T. yn 2005 i gyfeilio'r stori deledu, ac yn 2018, ysgrifennodd Russell T Davies nofeleiddiad o'r stori. Yn hwyrach, yn rhan o ddigwyddiadau Doctor Who: Lockdown! gan Emily Cook o Doctor Who Magazine, trefnwyd cyd-wyliad o'r episôd ar 26 Mawrth 2020, a rhyddhaodd Davies stori sydyn o 2013, Doctor Who and the Time War, na chafodd rhyddhad yn cynnwys adroddiad eiledol o darddiad ymgorfforiad yma'r Doctor. Rhyddhawyd hefyd oedd canlyn o'r enw Revenge of the Nestene, gyda Russell T Davies yn ei dynodi fel Pennod 21 o'i nofeleiddiad yn 2018.

Crynodeb[]

Mae Rose Tyler yn credu bod ganddi diwrnod arall arferol yn ei bywyd "cyffredin", ond ar ôl iddi cael ei bygwth gan Autons wedi'u rheoli gan yr Ymwybyddiaeth Nestene, mae'n cwrdd â'r Nawfed Doctor.

Plot[]

I'w hychwanegu

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Dymïau:[2]
    • Catherine Capelin
    • Michael Humpries
    • Jason Jones
    • Saul Murphy
    • Paul Newbolt
    • Catrin O'Neil
    • Sean Palmer
    • Elen Thomas
    • JP Kingdom
    • M Couchman
    • Alan Wadlan
    • Steph Grant
    • Glyn Page
    • Louise Vincent
    • David Matthews
  • Dwbl llaw Doctor Who:[2]
    • Phil Jay
  • Braich plastig:[2]
    • Rod Woodruff
  • Dwbl stỳnt Doctor Who:[2]
    • Will Willoughby
  • Mam gwallt golau:[2]
    • Melanie Mort
  • Merch gwallt golau:[2]
    • Daisy Sydenham
  • Cymydog:[2]
    • Alun Jenkins
  • Dwbl stỳnt Mickey:[2]
    • Maurice Lee
  • Bwytawyr:[2]
    • Linda Davies
    • Ceri Jones
    • Jacqueline Morris
    • Andy Jackson
    • Ian Jennings
    • Angela Silcocks
    • Helena Dunn
    • Creighton Hanney
    • Lyndon Ward
    • Wendy Ward
    • Russell Cook
    • Leighton Haberfield
    • Nicholas Wade
  • Dwbl stỳnt Mickey:[2]
    • Rod Woodruff
  • Mickey di-ben:[2]
    • Kevin Hudson
    • Chris Stone
  • Dymïau plant:[2]
    • Jo Osmond
    • Lisa Osmond
  • Dymïau oedolion:[2]
    • Catherine Capelin
    • Rachel Chambers
    • Michael Humpries
    • Jason Jones
    • Saul Murphy
    • Paul Newbolt
    • Catrin O'Neil
    • Sean Palmer
  • Dymïau stỳnt:[2]
    • Holly Lumsden
    • Paul Kulik
  • Cyhoedd stỳnt:[2]
    • Holly Lumsden
    • Paul Kulik
  • Priodferch:[2]
    • Elen Thomas
  • Priodferch stỳnt:[2]
    • Holly Lumsden
  • Gyrrwr stỳnt:[2]
    • Paul Kulik
  • Dwbl stỳnt Rose Tyler:[2]
    • Juliette Cheveley
  • Dwbl stỳnt dymïau'r gwalfa:[2]
    • Maurice Lee
    • Ricard Dwyer
  • Lleisiau ychwanegol:[2]
    • Paul Sparrowman
    • Paula Keogh
    • Daryl Adcock
    • Nicholas Lupton
    • Wendi Sheard
    • Jane Hunt
    • Jenny Pink
    • Stephen Bracken-Keogh

Cyfeiriadau[]

  • Rhowd Cyhoeddiad cwsmeriaid yn Henrik's.
  • Mae Canol Llundain yn cael eu cau.
  • Mae'r Doctor yn galw Rose yn "bonehead".
  • Mae Rose yn siarad am ychwanegiadau'r fron.
  • Mae'r Doctor yn dweud wrth Rose nad yw'r Dymïau yn brwydro "rhyfel brisoedd".
  • Mae Rose yn dioddef sioc diwylliant.
  • Mae'r Doctor yn egluro i Rose mae modd i'r TARDIS teithio'n bellach na Llundain.

Y Doctor[]

  • Roedd y Doctor wedi ymweld â sawl ddigwyddiad nodedig yn ei nawfed ymgorfforiad, gan gynnwys lansiad y Titanic yn 1912, llofruddiad John F. Kennedy yn 1963, ac echdoriad Krakatoa yn 1883.
  • Mae'r Doctor yn darllen y nofel The Lovely Bones yn fflat Jackie mewn eiliadau trwy fodio trwy'r llyfr.
  • Mae'r Doctor yn dweud "Fantastic!" yn aml.
  • Mae'r Doctor yn edrych am y tro gyntaf at ei wyneb presennol trwy edrych mewn drych.
  • Creda Clive mai teitl yw "Doctor", yn etifeddiaeth o dad i fab.

Bwydydd a Diodydd[]

  • Mae Mickey yn cynnig panad o de i Rose.
  • Mae Rose yn cynnig panad o goffi i'r Doctor pan ymosodir ar Doctor gan fraich Auton.
  • Mae Rose a fersiwn Auton o Mickey yn mynd i fwyty pitsa.

Pobl[]

  • Mae ffrind Rose, Suki, yn dweud bod swyddi ar gael yn yr ysbyty lleol.
  • Siwiodd ffrind Jackie, Arianna, y cyngor yn llwyddiannus.
  • Creda Rose bod y dymïau yn jôc, wedi'u trefnu gan Derek.
  • Mae ffrind Jackie, Beth, yn ffonio Jackie i ofyn os ydy Rose yn iawn.
  • Mae ffrind Jackie, Debbie, yn nabod rhywun sydd yn gweithio am The Mirror.

Lleoliadau[]

  • Mae Henrick's wedi'i leoli ar Regent Street.
  • Mae Jackie yn cynnig swydd yn Finch's i Rose.

Technoleg[]

  • Defnyddiodd y Ymwybyddiaeth Nestene "technoleg Warp-Shunt" i deithio i'r Ddaear.

Nodiadau[]

  • Dyma'r stori gyntaf i gynnwys ystafell consol y TARDIS newydd, gyda edrychiad llawer mwy organig na'u blaenorion. Gyda'r dewisiadau dyluniadol wedi'u cwestiynu gan gefnogwyr y sioe i ddechrau, cadarnhaodd yr episôd-mini, Time Crash, mai "thema rhyngwyneb" newydd y TARDIS oedd hyn, wedi'u henwi'n "cwrel" can y Pumed Doctor.
  • Mae'r sgriwdrefar sonig yn ailymddangos mewn siâp newydd, ond gyda'r un effaith sain â'r sioe gwreiddiol. Wedi'u cyflwyno yn TV: Fury From the Deep, ac yn cael ei ddinistrio yn TV: The Visitation, cyn ailymddangos yn TV: Doctor Who, o hyn ymlaen, mae'r sgriwdreifar yn un o offerynnau craidd y gyfres.
  • Roedd gopi o'r stori hon ar gael ar sawl wefan sgyrsio wythnosau cyn ddarllediad yr episôd. Roedd y fersiwn a gafodd ei rhannu bron yn unfath â'r fersiwn darlliedig, gyda eithriad o'r teitlau agoriadol a'r credydau a ddefnyddiodd fersiwn y gerddoriaeth thema wrth 1967-1980 yn lle'r trefniant newydd wrth Murray Gold. Yn 2005, roedd rhannu episodau cyfres teledu yn anghyfreithlon ar wefannau sgyrsio llawer anamlach na fyddai'n dod i fod; Rose oedd un o'r cynhyrchiadau teledu mawr gyntaf i gael ei rhannu yn y ffordd hon.
    • Ar 8 Mawrth 2005, adroddodd Reuters cafodd gopi o'r episôd ei rhannu ar y wê. Darganfuwyd mai tarddiad y cyhoeddiad oedd cwmni trydydd parti yn Nghanada a oedd yn berchen copi rhagolwg go iawn. Cafodd y cwmni gwared o'r gweithiwr a rannodd yr episôd.
  • Nid yw'r gair "Auton" yn ymddangos o gwbl o fewn deialog y stori na'r sgript a gafodd ei gyhoeddi yn 2005, ond fe'i ddefnyddiwyd yng nghredydau'r episôd.
  • Defnyddiwyd Finch fel cyfenwau Clive a Caroline yn y nodiadau cynhyrchu, ond mae erioed wedi'i ddefnyddio ar sgrîn.
  • Ar gyfer yr episôd gyntaf hon, mae'r teitlau agoriadol yn defnyddio tueddiad y DU o "teitlau agoriadol, wedi'i dilyn gan yr episôd". Mae gweddill y gyfres hon, a'r cyfresi canlynol yn cynnwys "cold open" - golygfa fer ar ddechrau episôd i ddenu pobl i wylio - yn union fel TV: Castrovalva, The Five Doctors a Time and the Rani.
  • O achos problemau wrth ddarlledu'r episôd yn y DU, roedd modd clywed sain wrth Strictly Dance Fever gyda Graham Norton ar BBC Three wrth i Rose cwrdd â'r Autons am y tro cyntaf.
  • Yn rhan o ailgychwyn y gyfres, darlledodd y BBC rhaglen ddogfennol o'r enw Doctor Who: A New Dimension ar BBC One - gyda adroddawd gan David Tennant, y Degfed Doctor i ddod.
  • Yn dilyn darllediad yr episôd, darlledwyd Episôd 1 Doctor Who Confidential ar BBC 3.
  • Mae'r sgwrs am acen ogleddol y Doctor yn gyfeiriad at sylw'r cyfryngau am Christopher Eccleston - a ddefnyddiod ei acen frodorol o Swydd Gaerhirfryn ym mhob un o'i weithiau - am beidio cydffurfio i ragdybiau pobl am ymddygiad y Doctor. Mae hefyd yn cyfeiriad at y ffaith bod gan yr actorion a chwaraeodd y Doctor acenion amrywiol, yn nodedig, roedd gan Ddoctor Sylvester McCoy mân-acen Albanaidd.
  • Yn yr olygfa gyda'r Doctor yn ymweld â fflat Rose, gofynnodd y sgript gwreiddiol i'r Doctor rhoi ei ben cyfan trwy dwll y cath. Pan gyrraeddodd y twll, mi roedd yn llawer rhy fach.
  • Roedd gan drafftiau cynnar "dynion sbwriel Auton" i esbonio sut fyddai Mickey yn ymddangos yng ngwalfa'r Ymwybyddiaeth Nestene ar ôl cael ei fwyta gan y bin.
  • Mae sylwad Rose am y Doctor yn sŵno fel mae'n dod o'r gogledd yn dynodi'r ail gwaith bod daearyddiaeth y Ddaear i sarhau'r Doctor. (yn flaenorol, mae'n cael ei alw'n Saes yn y ffilm)
  • Yn yr un modd, mae trafodaeth Rose a'r Doctor yn adlewyrchu sgwrs tebyg rhwng y Pedwerydd Doctor a'r Arglwydd Amser Ail Drax yn TV: The Armageddon Factor.
  • Mae llwyddiant effeithiau gweledol wrth i'r Doctor sefyll yn nrysau'r TARDIS ac mae modd gweld tu mewn i'r TARDIS tu ôl iddo. Yn y gyfres gwreiddiol, pan welwyd y tu mewn i'r TARDIS byddai bwlch du yn cael ei ddangos. Am y tro cyntaf hefyd, mae modd gweld elfennau wrth du allan y TARDIS, y drysau a'r arwydd "POLICE PUBLIC CALL BOX", o'r tu mewn.
  • Rhwng yr olygfa olaf a'r credydau, mae trelar "Amser Nesaf..." wedi'i hychwanegu. Dyma'r tro cyntaf i hon ddigwydd yn Doctor Who. Byddai'r elfen yn dod i fod yn rhan rheolaidd o Doctor Who, gyda braidd dim episôd heb trelar ar ei ddiwedd, er ar adegau symudwyd y trelar i dilyn y credydau.
  • Mae Nicholas Briggs yn cael ei ymddangosiad cyntaf yn y gyfres newydd wrth ddarparu'r llais ar gyfer yr Ymwybyddiaeth Nestene. Bydd Briggs yn parhau i fod actor llais cyntaf y sioe, gan ddarparu lleisiau'r Daleks a'r Cybermen hyd heddiw. Nid Rose yw gwaith cyntaf Doctor Who Briggs, gan roedd yn rhan o sawl cynhyrchiad annibynnol, answyddogol mor gynnar â'r 1980au, yn fwyaf nodedig yw cyflwyno'r cyfres cyfweliadau fideo, Myth Makers, ysgrifennu a chyfarwyddo ffilmiau BBV Productions a Reeltime Pictures, a c yn un o gynhyrchwyr Big Finish Productions. Yn 2009, byddai Briggs yn cael ei ymddangosiad ar sgrîn cyntaf mewn cynhyrchiad Doctor Who gyda rôl cynorthwyol yn Torchwood: Children of Earth.
  • Trwy'r stori yma, Russell T Davies yw'r awdur cyntaf o ffuglen deilliedig swyddogol Doctor Who i ysgrifennu am y gyfres teledu. Degawd yn gynt, fe ysgrifennodd y nofel Damaged Goods ar gyfer y gyfres Virgin New Adventures. Byddai sawl awdur arall wrth nofelau swyddogol a dramâu sain Big Finish Productions, gan gynnwys Paul Cornell, Mark Gatiss, (byddai hefyd yn ymddangos mewn tair episôd) Steven Moffat, (a olynodd Davies fel pennaeth y sioe yn 2009), Robert Sherman, a Gareth Roberts, yn mynd ymlaen i ysgrifennu ar gyfer y gyfres teledu.
  • Dyma episôd gyntaf Doctor Who i defnyddio enw cydymaith yn rhan o'i teitl.
  • Yr olygfa lle mae Rose yn cerdded trwy faslawr Henrik's yw golyfga cyntaf Billie Piper fel Rose Tyler.
  • Mae wefan Clive, whoisdoctorwho.co.uk, yn dynodi'r tro cyntaf i gymeriad y Doctor cael ei gyfeirio ato gyda'r enw "Doctor Who" ar sgrîn ers WOTAN yn TV: The War Machines. Mae defnyddiad Clive o'r enw yn amlwg yn mow o gwestiwn at hunaniaeth y Doctor, gan ddefnyddio "Doctor Who" fel llys-enw.
  • Cynhwysodd y trelars ar gyfer y gyfres olygfa o'r Nawfed Doctor yn rhedeg lawr twnnel gyda losgbelen yn ei ddilyn. Mae'n debyg mai hyn yw'r Doctor yn dianc wrth y ffrwydriad yn Henrik's.
  • Datgelodd Russell T Davies dewisodd cael Christopher Eccleston yn bortreadu ymgorfforiad newydd o'r Doctor er mwyn cael ailgychwyniad llawn ar gyfer gwylwyr newydd ac am naratifau newydd roedd ef eisiau rhoi i mewn i'r gyfres. Yn ychwanegol, roedd Christopher Eccleston yn ffrind go dda iddo, a oedd eisiau helpu Doctor Who llwyddo unwaith eto.
  • Dywedodd Paul McGann, actor yr Wythfed Doctor, byddai wedi dychwelyd i'r sioe, ond doedd Russel T Davies dim eisiau portreadu adfywiad gyda'r nifer o gwylwyr newydd, na fyddai'n gallu deall pam newidodd y Doctor ei olwg. Yn y pendraw, fe gafodd siawns i ddychwelyd i rôl y Doctor yn yr episôd-mini TV: The Night of the Doctor yn 2013.
  • Awgrymodd y stori hon wnaeth y Nawfed Doctor cael adfywiad wrth ymgofforiad blaenorol ond amser fuan yn ôl wrth iddo rhoi sylwadau am ei wyned wrth edrych mewn drych yn fflat Rose. Cymrodd gwylwyr y pryd mai adfywiad o'r Wythfed Doctor oedd hyn. Serch hynny, cafodd y theori ei dadbrofi wrth i Steven Moffat cyflwyno ymgorfforiad newydd yn 2013 rhwng yr Wythfed a'r Nawfed Doctor. Ni alwodd y "Doctor Rhyfel" - wedi'i chwarae gan John Hurt - ei hun yn Doctor nes diwedd ei fywyd, gan aros yn aelod heb rhif o fewn yr ymgorfforiadau eraill a gadwodd enw'r Doctor trwy gydol eu bywydau. Bu'r Doctor Rhyfel yn cael ei ddangos heb os nac oni bai i fod yn rhagflaenydd i'r Nawfed Doctor gan adfywio i mewn iddo ar ddiwedd TV: The Day of the Doctor. Yn ychwanegol, yn ôl-olwg at y gyfresi diweddarach, dywedodd Davies mai bwriad yr olygfa yma oedd y Doctor yn sylwi ar ei nodweddiadau, fel cael siom ar gael nodweddiadau anhardd. Nododd hefyd wnaeth ef cynnwys y cyfeiriau tuag at Krakatoa a'r Titanic er mwyn dangos cafodd y Doctor yma bywyd cyn yr episôd.
    • Byddai'r tybiad gwreiddiol o'r Nawfed Doctor yn canlyn wrth afywiad yr Wythfed Doctor yn cael ei barhau yn stori sydyn Rusell T Davies, Doctor Who and the Time War, a gafodd ei ysgifennu cyn, ond wedi'i rhyddhau ar ôl cyflwyniad y Doctor Rhyfel a rhyddhad The Night of the Doctor.
  • Dyma unig episôd y gyfres newydd i gyflwyno Doctor newydd sydd ddim yn hirach nag arfer.
  • Dyma'r episôd gyntaf ers TV: Revelation of the Daleks yn 1985 i bara am dua 45 munud.
  • Dyma'r stori gyntaf ers TV: Mission to the Unknown i treulio ond un episôd o hyd. Hyn yw'r hyd arferol ar gyfer y gyfres newydd.
  • Dyma'r stori gyntaf ers TV: Logopolis i gredydu'r brif gymeriad fel "Doctor Who" yn lle "The Doctor", ond ar ofyniad David Tennant, byddai hyn yn newid nôl erbyn yr ail gyfres.
  • Dyma'r stori gyntaf i gynwys credyd am crëwr creadur neu gymeriad. Yn yr achos yma, derbynodd Robert Holmes credyd am greu'r Autons.
  • Wrth ysgrifennu'r stori, cafodd Davies trafferth wrth geisio cyfrifo sut i gael Mickey wedi'i dal gan yr Ymwybyddiaeth Nestene wrth aros yn ei gar am Rose, cyn sylweddoli allai gael ei pryfocio gan fin sbwriel. Fe nododd mai achosion fel hyn o troi pethau pob dydd yn frawychus yn rhywbeth unigryw i Doctor Who.
  • Roedd rhaid i Russell T Davies dileu cymhariaeth o'r Autons i derfysgwyr gan roedd y London Eye unwaith yn targed ymosodiad terfysgaeth.
  • Roedd sgyrsiau trwm am fynediad y Doctor; Roedd Jane Tranter ac aelodau eraill y criw cynhyrchu eisiau mynediad llawer dramatigach, ond ni chafodd yr olygfa ei newid. Nodd Russell T Davies byddai hyn yn adlewyrchu safbwynt Rose, tra byddai mynediad dramatig yn adlewyrchu cyffro'r cynulleidfa.
  • Yn gwreiddiol, roedd golygfa ymosodiad braich yr Auton yn y fflat yn hirach.
  • Gan roedd yr episôd yn rhy fyr gan sawl munud, ychwanegwyd golygfa o'r Doctor a Rose yn cerdded tu allan i'r fflatiau.
  • Roedd Russell T Davies eisiau i'r Doctor sylweddoli beth fyddai Rose yn ychwanegu at ei achos. Roedd y ddau'n dal dwylo yn symbol o'r ffaith maent yn dîm, serchy nad oedd y Doctor wedi gofyn iddi eto.
  • Bwriad yr episôd yma oedd i gyflwyno popeth wrth safbwynt Rose. Roedd Davies hefyd eisiau i'r estronwyr edrych yn ddynol, fel byddai Rose yn gallu camgymryd nhw am fod yn pobl. Teimlodd Davies nad oedd rhaid creu estronwyr newydd gan gyrraeddodd yr Autons ei amcanion.
  • Roedd golygfeydd yr Autons yn drafferth i ffilmio gan roedd y gwisgoedd yn anghyfforddus. O ganlyniad, roedd rhaid cael sawl egwyl wrth ffilmio.
  • Defnyddiwyd CGI i guddio sipiau gwisgoedd yr Autons ar gefn yr wddwg.
  • Roedd Russell T Davies eisiau ailgreu olygfa o'r Autons yn torri trwy ffenestri siop o'u hymddangosiad gyntaf yn Spearhead from Space, ond gyda'r cyllid i torri'r gwydr yn lle torri o'i gwmpas fel ddigwyddodd yn Spearhead.
  • Cynnigodd Russell T Davies i Edgar Wright cyfle i gyfarwyddo'r episôd, ond roedd rhaid i Wright wrthod gan oedd ef dal i weithio ar Shaun of the Dead.
  • Y bwyty pitsa yw La Fosse. Cymerodd y tîm achau i ddod o hyd i fwyty lle roedd angen prin newid ar gyfer set, ond a fyddai hefyd yn bodlon cau am ddydd.
  • Ceisiodd y tîm ffilmio'r olygfeydd yng Nghaerdydd yn gyfrinachol, ond bu gyhoeddiad gan gyngor Caerdydd y dydd cyn ffilmio yn cyhoeddi'r strydoedd lle byddent yn ffilmio.
  • Mae'r ardal o dan y London Eye lle mae'r Doctor a Rose yn wynebu'r Ymwybyddiaeth Nestene yn hen felin papur yn Ngrangetown, Caerdydd. Oherwydd gofidion iechyd a diogelwch, bu'r ffatri yn profi glanhau stêm. Hawliwyd ond tair dydd iddynt ffilmio yn y ffatri, ac o ganlyniad, roedd rhaid torri rhannau o'r sgript: yn gwreiddiol, byddai Auton Mickey yno hefyd.
  • Yn y sgript gwreiddiol, roedd profiad cyntaf Rose o weld y tu mewn i'r TARDIS yr un pryd â'r gwylwyr. Serch hynny, roedd Keith Boak eisiau iddi rhedeg allan o'r TARDIS a rhedeg o'i gwmpas cyn rhedeg nôl i mewn i'r TARDIS, lle bydd tu mewn i'r TARDIS yn cael ei detgelu i'r cynulleidfa. Yn y pendraw, roedd y cynhyrchyddion gweithredol yn bles iawn gyda'r canlyniadau. Nododd Russell T Davies byddai wedi hoffi mynd â Rose a'r gynulleidfa i mewn i'r TARDIS mewn un siot, ond nid oedd hyn yn rhesymol gyda'r cyllid; byddai'r effaith yn cael ei defnyddio gyda Oswin yn The Snowmen.
  • Byrrhawyd enw'r stori yn raddol; enw gwreiddiol y stori yn rhan o gais Davies oedd Rose meets the Doctor, and the journey begins, cyn cael ei byrrhau i Rose Meets the Doctor, wedyn Rose.
  • Nid yw Noel Clarke yn hoff iawn o'r episôd, gan ddweud wnaeth actio ar gellwair mewn olygfeydd. Nododd y rheswm am hyn oedd y diffyg amser ymarfer, felly nad oedd yn bendant ar awyrgylch y gynhyrchiad. Yn ychwanegol roedd e heb cwrdd â Christopher Eccleston na Billie Piper na Camille Coduri ar y pryd.
  • Ar 26 Mawrth 2020, pymthegfed pen blwydd yr episôd, trefnwyd "cyd-wyliad" o'r stori gan gefnogwyr y sioe ar Trydar. Cymrodd Russell T Davies rhan, gan rhyddhau precwel a secwel i'r stori. Enw'r precwel oedd "Doctor Who and the Time War", stori gyda'r bwriad o gael rhyddhad yn nhudalennau Doctor Who Magazine ond cafodd ei wrthod achos croesddadl gyda digwyddiadau The Day of the Doctor. Mae'r stori yn fanylu ar adfywiad yr Wythfed Doctor i'r Nawfed Doctor yn dilyn digwyddiadau'r Rhyfel Amser. Enw'r secwel oedd "Revenge of the Nestene". Wedi'i rhyddhau ar fformat sain, mae'r stori yn barhad i'r nofeleiddiad, gan ganolbwyntio ar un Auton wnaeth oroesi digwyddiadau'r episôd. Mae'r ymyrraeth wrth Graham Norton hefyd yn cael ei ailgreu.
  • Dyma'r stori deledu gyntaf i'w recordio ar fformat betacam digidol.
  • Mae Russell T Davies yn datgan yn The Writer's Tale bron bu Mackenzie Cook a lwyddodd cael rôl Clive Finch.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • BBC One dros nos: 9.9 miliwn[3]
  • Cyfartaledd DU terfynol: 10.81 miliwn[1]

Cysylltiadau[]

  • Edrycha un o'r bysiau pasiodd Rose wrth wneud ei ffordd i waith yn debyg iawn i'r Omnibws Wybrennol. (PRÔS: Iris Wildthyme and the Polythene Terror)
  • Mae'r Doctor yn cyflwyno ei hun i Rose mewn union yr un modd â sut gyflwynodd ei hun i Charley Pollard. (SAIN: Storm Warning)
  • Caiff pobl fel Clive, pobl sydd ag obsesiwn â'r Doctor eu portreadu yn PRÔS: Return of the Living Dad.
  • Unwaith eto, mae'r Doctor yn darllen llyfr mewn eiliadau. (TV: City of Death, The Time of Angels, SAIN: Invaders from Mars)
  • Mae'r Doctor yn ceisio i chwarae gyda cardiau eto. (TV: Robot)
  • Bydd Rose yn dychwelyd i Lundain yn TV: Aliens of London.
  • Bydd Elton yn cofio goresgyniad yr Autons. (TV: Love & Monsters)
  • Mae Rose yn dweud roedd ganddi cath. (PRÔS: The Cat Came Back)
  • Mae'r Ymwybyddiaeth Nestene yn goroesi, (PRÔS: Revenge of the Nestene) ac mae'n ceisio goresgyniad arall ar y Ddaear yn erbyn ymgorfforiad nesaf y Doctor. (PRÔS: Autonomy)
  • Yn anhysbys i Rose, mae wedi cwrdd â'r Doctor o'r blaen. Siaradodd hi a'r Degfed Doctor ar 1 Ionawr 2005 pan oedd ef ar fin adnewyddu i'w unarddegfed ymgorfforiad. (TV: The End of Time)
  • Unwaith eto, mae'r Doctor yn honni llwyddodd y TARDIS wrthsefyll ymosodiad wrth fyddin Genghis Khan. (SAIN: City of Spires) Bydd yr Unarddegfed Doctor yn clywed yr honniad wrth i hollt amser diferu'r gorffennol i mewn i'w TARDIS. (TV: Journey to the Centre of the TARDIS)
  • Mae abl y Doctor i deimlo symudiad y Ddaear yn debyg i'w abl i deimlo symudiad gorsaf ofod yn PRÔS: The Murder Game, a theimlo effeithiau dril 21 mil cilometr o dan arwyneb y Ddaear yn TV: The Hungry Earth. Yn yr un modd, roedd ei unarddegfed ymgorfforiad yn amheuo diffyg teimlad injan ar Starship UK. (TV: The Beast Below) Roedd hefyd modd i'r Deuddegfed Doctor dehongli roedd disgyrchiant ar beth oedd i weld yn long ofod yn rhy realistig, a mewn gwirionedd mai adeilad ar blaned anweladwy oedd yno. Y blaned oedd Sgaro. (TV: The Magician's Apprentice)
  • Mae'r Nawfed Doctor yn cymryd o leiaf un antur heb Rose cyn dychwelyd iddi i ddweud bod modd i'r TARDIS teithio trwy amser. (PRÔS: The Beast of Babylon)
  • Mae'r Doctor yn sylwi bod ganddo clustiau mawr wrth edrych mewn drych. Mae hon yn frad at gobeithion ei rhagflaenydd a oedd eisiau clustiau llai o faint ar ôl adfywio. (TV: The Day of the Doctor) Mae hefyd yn adlewyrchu pryderion y Pedwerydd Doctor am ei glustiau yn dilyn ei adfywiad. (TV: Robot)
    • Mae'n bosib mai hyn yw'r tro cyntaf iddo weld ei wyneb, gan ddinistriodd pob drych yn y TARDIS yn syth ar ôl adfywio. (PRÔS: The Day of the Doctor)
  • Mae Clive yn esbonio i Rose sut llwyddodd y Doctor perswadio'r teulu Daniels i beidio mynd ar y Titanic. (SAIN: Battle Scars) Mae ef hefyd yn dangos llun iddi o'r Doctor yn Krakatoa yn 1883. (SAIN: Her Own Bootstraps)
  • Credwyd bu farw Arglwydd Faer Caerdydd Roy Llewellyn yn rhan o ymosodiad yr Autons ar Gaerdydd. Mewn gwirionedd, defnyddiodd Barry Jackson yr ymosodiad fel cais i lofruddio Llewellyn yn rhan o'i gynllun i ddod yn Faer i Gaerdydd, gan guddio marwolaeth Llewellyn gyda gweddill o farwolaethau'r ymosodiad. (SAIN: One Rule) Esboniwyd yr ymosodiad i'r cyhoedd fel ymosodiad terfysgaeth, yn union fel gorchuddiwyd yr ymosodiad cyntaf yn yr 1970au gan "Black Thursday". (PRÔS: Who Killed Kennedy, TV: Spearhead from Space) Wedi llwyddo i ddod yn Arglwydd Faer wrth cael gwared o'r cystadleuaeth, bu Barry Jackson yn cael ei olynu gan Blon Fel-Fotch Passameer Day Slitheen yn cuddio fel Margaret Blaine. (TV: Boom Town)
  • Mae Rose yn gofyn os mai myfyrwyr yn chwarae jôc yw'r Autons. Pan laniodd y TARDIS ym Maes Awyr Gatwick yn 1966, credwyd mai myfyrwyr oedd achos y digwyddiad. (TV: The Faceless Ones)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

  • Rhyddhawyd y stori ar DVD gyda The End of the World a The Unquiet Dead fel Doctor Who - Series 1: Volume 1 ar 16 Mai 2005. Er, ym Mhortiwgal a Rwssia, roedd y rhyddhad cynnwys Series 1: Volume 2 hefyd.
  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o set bocs DVD Doctor Who: The Complete First Series ar 21 Tachwedd 2005.
  • Rhyddhawyd yr episôd gyda DWDVD #1.
  • Rhyddhawyd y stori ar blu-ray gyda gweddill cyfres 1 ar 4 Tachwedd 2013.
  • Cafodd y stori ei rhyddhau ar Steelbook gyda gweddill gyfres 1 ar 20 Mawrth 2017.

Troednodau[]

Advertisement