Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Sicoracseg, neu Sicoracs, (SAIN: Harvest of the Sycorax) oedd iaith y Sicoracs, a'r unig iaith defnyddion nhw, achos, yn ôl y Sicoracs, roedd pob iaith arall yn "primitive bile". Roedd modd i UNIT creu rhaglen gyfrifriadurol a fyddai'n cyfieithu'r iaith. (TV: The Christmas Invasion)

Geirfa[]

Teitlau a Statws[]

Y canlynol yw enwau a thietlau rhowd i aeoldau'r Sicoracs ac i'r Doctor. (COMIG: The Widow's Curse)

  • Fadros Pallujikaa - Arweinydd
  • Haxan Craw - enw rhowd i wraig yr arweinydd, gan olygu "Yr Ast Wrachol". Cyfeiriodd yr Haxan Craw at Donna Noble fel yr "Haxan Craw dynol".
  • Gilfane Craw - yr enw rhowd i dechnegydd benywaidd y llwyth benywaidd.
  • Practeel chiff cha - yr enw rhowd i'r Doctor gan yr Haxan Craw a olygodd "y llofruddiwr hapus".

Amrywiol[]

Isod yw rhestr o rhai eiriau syml, defnyddiol yn yr iaith Sicoracseg. (TV: The Christmas Ivasion, PRÔS: Doctor Who Files 4: The Sycorax, Judge, Jury and Executioner, SAIN: Harvest of the Sycorax ayyb)

Cymraeg Sicoracseg
Ac Vel
Ar long/Arno Foraxi
Agor Talvaan
Armada Sicoracs Sycorafan Staa
Arweinydd Fadros Pallujikaa
Astrophia Astrofaaa
Bocs Tagsalla
Bocs du Foraxi yox
Caethwas Velis
Caethwasiaeth Velisikol
Croeso Padskaa
Cynnnig Kastriik
Chi Soodra
Daeargell Gralta
Dewis Codsyla
Diffeithdra Belvash
Doniol Practeel
Dwyn Stapeen
Eiddo Pantak/Katsaa
Eto/Mwy Col
Gair Vol
Galluog Gilfana
Glas Creffic
Golau/Melyn Bass
Gwaed Sinon
Gwan Jak
Gwartheg/Gwystlon Pantak/Gatzaa
Gwysio Kelprak
Hanner Gatrosca
Iawn/Dros ben Gan
Ie Ta
Ildio Jalvaaan
Llofruddiwr Chiff chad
Marw Chak chiff
Menywod Pandack
Na Non
Nadolig Craffor
Nesaf Bataa/Baktaa
Neu Kol
Ni Kodra
O Kon/Da
Oni bai Pel
Pwy Vo
(Rwyt) ti (Ka) soo
Rydyn ni Kodrafee
Rydyn ni'n gwybod Konafee
Terfynol Bakthaa
Ti So
Trydydd Koska

Arall[]

Isod mae rhai geifa arall wnaeth y dau llwyth Sicoracs ddweud. (PRÔS: Doctor Who Files 4: The Sycorax, COMIG: The Widow's Curse)

  • Kiskfaa - uned mesur roedd y Sicoracs yn defnyddio
  • Slinkjaak - gwrthrych mae'r Sicoracs yn derbyn fel gwobr yn dilyn masnach
  • Kojux-flap - panel fach technolegol oedd ar y tu allan i long Sicoracsaidd
  • Torkfish - creadur sgerbydol fach a fyddai'n cwpasu o amgylch gwddf carcharor. Byddai'r creadur ond yn llacio ei afael pan fyddai wedi llad ei ysglyfaeth.

Ymadroddion[]

Isod yw rhestr ymadroddion defnyddiodd y Sicoracs yn ystod eu hymosodiad o'r Ddaear amser Nadolig 2006 a gyfieithwyd i'r Saesneg. (TV: The Christmas Invasion, PRÔS: Doctor Who Files 4: The Sycorax)

Cymraeg Saesneg Sicoracseg
Ie, dyn ni'n nabod chi. Yes, we know who you are. Ta, konafee tedro soo.
Sicoracs cryf! Sicoracs nerthus! Sicoracs rock! Sycorax strong! Sycorax mighty! Sycorax rock! Sycora jak! Sycora telpo! Sycora kaar!
idiwch, neu bydden nhw'n marw. Surrender, or they die. Jalvaan, kol jak chiff.
Dewch â fe arno. Bring it on board. Krel stat foraxi.
Y Sicoracs ydyn ni. Rydyn ni'n brasgamu'r tywyllwch. We are the Sycorax. We stride the darkness. Kodrafee Sycora. Gasak tel felika.
Gall arweinydd y wlad yma camu ymlaen? Will the Leader of this world stand forward? Vekaan soo Fadros Pallujikaa pelda pelomnik?
Os ydych chi eisiau byw, idiwch eich daeargell iddyn ni nawr. If you wish to live, surrender your vault to us now. Soo gralta jalvaan mi kodrakon kaas.
Chi yw ein eiddo. Dewiswch. Ildiwch y daeargell neu farw. You are our property. Choose. Surrender the vault or die. So[o] kaa da kodra pantak. Kod syla! Gralta jalvaan got jak chiff.
Beth sy'n bod ar eich rhywogaeth? Mae'ch waed yn wan! What is wrong with your species? Your blood is weak! Vasprin diisaa? Soodra da sinon jak!
Rhaid i chi rhoi mynediad i'ch daeargell i ni. You must give us access to your vault. Gralta jalvaan, gralta rashtaak.
A phwy sydd nesaf? And who is next? Vel vo sii bataa?
Dydyn ni ddim yn becso. We don't care. Kodra fiinon paseek.
Rwyt ti'n gaethwas doniol. You are a very funny slave. Soo gan praktil venis.

Sarhadau[]

Roedd o leiaf un sarhad yng ngymdeithas y Sicoracs. Defnyddiwyd gan y Degfed Doctor, ac roedd yn gas iawn, ond does dim cyfieithiad ar gael. Wnaeth y Doctor a oedd newydd adfywio wrth ei ymgorfforiad blaenorol defnyddio'r sarhad i wthio ddicter arweinydd y Sicoracs tra'n herio i frwydr am y Ddaear.

Sicoracseg
Kralak pel gasak kree salvak

Y y cefn[]

Gramadeg[]

O safbwynt ieithyddiaeth, mae Sicoracseg yn debyg i'r Gymraeg, nid oes bannod amhennodol er enghraifft, megis "a" neu "an" yn y Saesneg. Serch hynny, nid oes bannod chwaith, sef "y" neu "yr".

Soo gan praktil venis.
Rwyt ti'n gaethwas doniol
Kelprak venis lisaak
Gwisia['r] gaethwas [o'r enw] Ishak
Advertisement