Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

Technophobia (Cy: Technoffobia) oedd y stori gyntaf yn The Tenth Doctor Adventures: Volumes One, wedi'u cynhyrchu gan Big Finish Productions. Awdur y stori oedd Matt Fitton, gyda'r stori yn cynnwys David Tennant fel y Degfed Doctor a Catherine Tate fel Donna Noble.

Gwelodd y stori dychweliad Tennant a Tate i rolau'r Doctor a Donna yn eu tro, gyda'r stori wedi'u gosod o fewn Cyfres 4 Doctor Who.

Crynodeb cyhoeddwr[]

Pan mae'r Doctor a Donna yn ymweld ag Amgueddfa Technoleg Llundain am gipolwg i ddyfodol y Ddaear, mae rhywbeth o'i le.

Nid yw ymenydd goreuaf TGCh y wlad yn gallu defnyddio'i chyfrifiadur. Yn waeth fyth, mae'r arddangosiadau yn ymosod ar ymwelwyr, tra tu allan, mae pobl yn colli rheolaeth ar eu technoleg.

A yw hyn o ganlyniad i dwpdra dynol, neu oes rhywbeth arall sinistr ar fai?

O dan y strydoedd, mae'r Koggnossenti yn aros. Aros am Lundain i gwympo i dechnoffobia...

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - David Tennant
  • Donna Noble - Catherine Tate
  • Bex - Niky Wardley
  • Jill Meadows - Rachael Stirling
  • Brian - Chook Sibtain
  • Kevin - Rory Keenan
  • Lukas - Jot Davies

Di-glod[]

  • Silvi - Rachael Stirling[1]
  • Terry / Newyddiadurwr / Koggnossenti - Rory Keenan[1]
  • Kram - Jot Davies[1]
  • Lobo / Koggnossenti - Chook Sibtain[1]

Cyfeiriadau[]

  • Mae Cyfwelydd yn cyfweld â Jill.
  • Cyfrinair Jill yw "Brighton88".

Cymdeithion y Doctor[]

  • Mae Bex yn gofyn i Donna os yw hi eisiau gwirio diogelwch ei theulu a'i ffrindiau. Er, mae Donna'n tybio byddai ei mam a'i Thadcu yn iawn.

Diwylliant poblogaidd[]

  • Erbyn 2011, mae'r rhan fwyaf o ffilmiau yn 3D. Mae hefyd ffilm am Justin Bieber.
  • Mae Katie Price wedi rhyddhau persawr.
  • Mae Donna yn enwi'r robot paentio camweithiol "Metal Michelangelo".
  • "User-friendly" yw ymadrodd poblogaidd yn y byd technoleg.

Adwerth[]

  • Yn diweddar, roedd Donna wedi siopa yn Henrik's.

Technoleg[]

  • Caiff y Doctor ei gyffroi gan dongles.
  • Dechreuodd Gemau Olympaidd y Robotiaid yn yr 22ain ganrif cynnar.
  • Pan mae'r sgriwdreifar sonig yn methu, mae'r Doctor yn tybio taw nid y sonic sydd ar fai. Yn lle, nid yw'r sonic yn medru cysylltu ag ymennydd y Doctor sy'n atal gweithio.
  • Mae llong y Koggnossenti yn telegludo at Lundain wrth dimensiwn arall.
  • Mae rheolaeth meddwl y Koggnossenti yn gweithio ar 99.2% o'r poblogaeth gan adael 0.8 heb ei effeithio.

Diwylliant y Ddaear[]

  • Mae Likas yn crybwyll y Baubas, cythraul wrth chwedlau Lithuania.

Diwylliant estronaidd[]

  • Mae'r Doctor yn nodi bod y celf robotaidd o ansawdd tebyg i waith yn yr Oriel Eminesence ar Terileptws 9

Nodiadau[]

  • Ar ryddhad y stori hon, methodd wefan Big Finish o ganlyniad i faint enfawr y traffig rhyngrwyd ar eu gwêfan. Arhosodd y wêfan mewn cyflwr cynnal a chadw am sawl awr.
  • Hon oedd ymddangosiad cyntaf David Tennant mewn drama sain Big Finish ers The Wasting ym Mehefin 2005, a'i gyntaf yn rôl y Doctor.
  • Canolbwynt gwreiddiol y stori oedd diffyg cwsg. Pan danfonodd Big Finish y sgript i Gaerdydd, darganfuon nhw bod episôd teledu gyda plot tebyg, Sleep No More, yn nghanol cynhyrchiant, newidodd Matt Fitton canolbwynt y stori i dechnoleg. (VOR 87)
  • Trosleisiwyd y stori hon yn Almaeneg gyda'r enw Technophobie. Rhyddhawyd y stori ar 1 Hydref 2018.
    • Axel Melzacher lleisiodd y Doctor, Kordula Leiße lleisiodd Donna, Cathlen Gawlich lleisiodd Jill Meadows, Daniela Hofffman lleisiodd Silvi, Lars Schmidtke lleisiodd Brian, Julia Stoepel lleisiodd Bex, Sebastian Walch lleisiodd Kevin, a Carsten Wilhelm lleisiodd Lukas. Darparodd Arne Fuhrmann, Mario Hassert, Sebastian Kaufmane, Thomas Martin a Nico Tech lleisiau ychwanegol.
  • Recordiwyd y stori hon ar 20 Hydref 2015 yn The Moat Studios.

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn dweud wrth Donna roedd llawer o'i ffrindiau gorau yn robotiaid. (TV: The Invisible Enemy, The King's Demons)
  • Arddangosa Donna diffyg diddordeb ac adnabyddiaeth am dechnoleg. (TV: The Runaway Bride, Journey's End)
  • Dyweda Donna wrth y Doctor dydy hi ddim wedi gweld unrhyw o'i dyfodol. Rhybuddiodd y Doctor yn erbyn sbïo ar ddigwyddiadau'r dyfodol yn y Llyfrgell yn y 51ain ganrif. (TV: Silence in the Library)
  • Cyn cwrdd â'r Doctor yn yr amgueddfa, mae Donna yn mynd i siopa yn Henrik's. (TV: Rose)
  • Unwaith eto, mae rhywun yn camadnabod y Doctor a Donna am gwpl. (TV: The Fires of Pompeii, Planet of the Ood, The Doctor's Daughter ayyb)
  • Mae Donna yn galw'r Doctor yn "Spaceman". (TV: The Fires of Pompeii, Journey's End)
  • Wrth i Kevin mynd i mewn i'r TARDIS am y tro cyntaf, mae'n amheugar gyda maint mewnol y llong. (TV: An Unearthly Child, Rose) Mae'n ceisio rhesymoli'r maint trwy "dwyll drychau"; dywedwyd rhywbeth tebyg tra ymunodd y Degfed Doctor a Donna Noble gyda Agatha Christie i ddatrys llofruddiaeth ar 8 Rhagfyr 1926. (TV: The Unicorn and the Wasp)
  • Pan mae Donna yn disgrifio teithiad y TARDIS fel "fizzles in", mae'r Doctor yn ei chywirio trwy wneud sain y TARDIS. Byddai'r Unarddegfed Doctor yn ceisio'r un peth. (TV: The Time of Angels)
  • Er mwyn cael mynediad i orsaf tanddaearol, mae Donna yn gyrru cloddiwr i mewn i'r caeadau. Pan mae'n sylwi ei bod wedi gyrru dros mesurydd parcio, mae Donna'n dangos diffyg edifeirwch amlwg. Yn dilyn ei theithiadau gyda'r Doctor, byddai Donna yn bygwyth cynorthwyydd parcio. (TV: The End of Time)
  • Mae technoleg yn cael ei defnyddio er mwyn cael cyfrifiaduron i ymddangos yn gymhleth. Yn yr un modd, byddai hypnosis yn cael ei ddefnyddio er mwyn hybu'r SerfBoard, techonleg cyffredinol, fel technoleg ardderchog. (TV: The Man Who Never Was)

Dolenni allanol[]

Troednodau[]

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 BFX: The Tenth Doctor Adventures: Volume One
Advertisement