Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Daleks (Cy: Y Daleks) oedd ail stori Hen Gyfres 1 Doctor Who. Gyda theitl gwreiddiol o The Mutants, cyfraniad amlycaf y stori yw cyflwyniad y Daleks, ynghyd â'r Thals a'r blaned Sgaro.

Dros nos, daeth elynion y Doctor yn hynod o boblogaidd gyda'r cyhoedd, yn amlwg wrth cyfartaleddau gwylio'r stori. Yn gwellhad sylweddol ar gyfartaleddau An Unearthly Child, cadarnhaodd The Daleks safle Doctor Who mewn amserlen 1964 BBC1.

Dyma cyfraniad cyntaf Terry Nation i'r sioe. O ganlyniad i dderbyniad y stori, dilynodd hyn tuag at gael ei ail-gomisiynnu yn hwyrach yn y gyfres am The Keys of Marinus, a dychweliad y Daleks mewn pob gyfres olynol nes Hen Gyfres 5. Achosodd y gyfres hefyd llwyddiant arianyddol, gan lwyddodd prwywr Nation i ennill cyd-berchnogaeth y Daleks ar ei gyfer.

Roedd débuts eraill yn cynnwys cyfarwyddwyr Christopher Barry a Richard Martin, dylunydd Raymond Cusick, dylunydd gwisgoedd Daphne Dare, a cyfarwyddwr arddyfodiog Michael Ferguson.

Roedd The Daleks hefyd yn sail ar gyfer ffilm theatr Dr. Who and the Daleks, a'r llyfr comig Americanaidd a oedd yn addasiad o'r ffilm.

Crynodeb[]

Eisioes, mae criw y TARDIS ar y blaned Sgaro, ac yno, maent yn cwrdd â dwy hil — y Daleks, creaduriaid drygionus wedi mwtadu sydd yn byw a theithio ym mheiriannau durblat, a'r Thals, dynolffurfiau prydfferth gydag egwyddorion pasiffistaidd. Argymellia'r tîm bod rhaid i'r Thals brwydro i gadarnhau goroesiad eu hun.

Ynghyd, wrth wynebu'r sawl peryglon ar Sgaro, maent yn ymosod ar ddinas y Daleks wrth y ddwy ochr. Mae'r Daleks i gyd yn cael eu lladd oherwqydd yng nghanol yr ymladd, diffoddwyd eu cyflawniad pŵer.

Plot[]

The Dead Planet (1)[]

I'w hychwanegu.

The Surviors (2)[]

I'w hychwanegu.

The Escape (3)[]

I'w hychwanegu.

The Ambush (4)[]

I'w hychwanegu.

The Expedition (5)[]

I'w hychwanegu.

The Ordeal (6)[]

I'w hychwanegu.

The Rescue (7)[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Criw[]

  • Awdur - Terry Nation
  • Cerddoriaeth teitl - Ron Grainer
  • Cerddoriaeth achlysurol - Tristam Cary
  • Golygydd stori - David Whitaker
  • Dylunwyr - Raymond Cusick, Jeremy Davies
  • Cynhyrchydd cyswllt - Mervyn Pinfield
  • Cynhyrchydd - Verity Lambert
  • Cyfarwyddwyr - Christopher Barry, Richard Martin
  • Gwisgoedd - Daphne Dare
  • Colur - Elizabeth Blattner

Cyfeiriadau[]

Diwylliant[]

  • Mae Ganatus yn ymwybodol am agweddau diwyllianol y Ddaear.

Daleks[]

  • Nid oed modd i'r creaduriaid y tu mewn i casys y Daleks goroesi tu allan i'r casys am amser estyniedig.
  • Mae'r Daleks yn defnyddio pelydr parlysu yn erbyn Ian Chesterton.
  • Yn dilyn cael eu gwenwynu gan feddyginiaeth gwrth-ymbelydredd y Thals, mae'r Daleks yn penderfynu bod ymbelydredd yn hanfodol iddynt.

Sgaro[]

  • Mae'r Doctor yn nodi bod y blaned wedi marw yn gyfan gwbl.
  • Mae glaw ar gyfer planhigion yn digwydd ond unwaith bob pedair neu bum mlynedd.

Thals[]

  • Mae Antodus yn sôn am Amezus, aelod ymgyrch blaenorol.

Bwydydd a Diodydd[]

  • Mae Ian a Barbara yn bwyta bacwn ac wyau mewn ffurff rhewsych wrth beiriant bwyd y TARDIS.

Y Doctor[]

  • Mae'r Doctor yn defnyddio sbectol darllen i archwilio ysgrifau a darluniau.
  • Mae gan Doctor adnabyddiaeth am systemau serennol y Thals wrth un o'i siartiau sêr.

Technoleg[]

  • Mae TARDIS y Doctor yn defnyddio mercwri fel hylif.
  • Mae'r Doctor yn nodi bod cyfarpar mesur ymbelydredd y dinas yn "safonol". Mae'r cyfarpar yn cynnwys rhywbeth yn debyg seismograff a deial gyda'r gair "Perygl".
  • Mae'r Daleks yn cael ynni statig wrth y lloriau metel.
  • Mae'r Doctor yn dweud wrth Ian bydd bom niwtron yn dinistrio bywyd cyfan. Cynllunia'r Daleks i ddefnyddio bom niwtron arall cyn angofio'r syniad oherwydd cyfyngiadau amser.
  • Mae modd i'r Daleks creu bwyd trwy olau haul synthetig.
  • Mae'r Doctor yn cymharu dull peiriant bwyd y TARDIS o greu blasau gwahanol i gymysgu lliwiau cynradd.

Salwch[]

  • Mae'r Doctor a'i gymdeithion yn dioddef gwenwynu ymbelydredd

Nodiadau[]

  • Teitl gweithredol y stori oedd Beyond the Sun. (DWM 331)
  • Dyma'r stori gyntaf i gynnwys y Daleks a'r Thals.
  • Mae pob episôd yn bodoli ar delerecordiad 16mm. Adenillwyd yr episodau wrth brintiau negatif a oedd yn BBC Enterprises yn 1978.
  • Mae Telesnaps yn bodoli ar gyfer episodau 1, 2, 4 a 5 mewn casgliadau preifat.
  • Cafodd y stori hon ei cynnwys yn rhan o "top 50 magic moments" yn DWM 467.
  • Y Magnedon yw ymddangosiad cyntaf estronwr yn y gyfres (ar wahan i'r Doctor a Susan).
  • Roedd Sydney Newman a phennaeth dramâu Donald Wilson yn anhapus gyda'r stori, gan roedden nhw eisiau osgoi defnyddio "bug-eyed monsters"; ond, gan nad oedd unryw sgript arall yn barod, cafon nhw eu gorfodi i ddefnyddio'r stori.
  • Enw gwreiddiol terfynol y tîm cynhyrchu ar gyfer y stori oedd The Mutants, ond nawr cyfeiriwyd at y stori fel The Daleks ar mwyn osgoi ei chymysgu gyda stori NNN y Trydydd Doctor o'r un enw. Roedd teitlau gweithredol y stori yn cynnwys "The Survivors" a "Beyond the Sun". Teitl gweithredol y chweched episôd "The Caves of Terror" a'r seithfed oedd "The Execution". (CYF: Doctor Who The Handbook: The First Doctor) Cyfeiriwyd at y stori hefyd drwy enw'r episôd cyntaf, "The Dead Planet".
  • Yng nghynnigiad gwreiddiol y stori, The Survivors, cynllun y Daleks oedd i gwaredu'r Thals er mwyn gwneud yn siwr na fyddent yn dechrau rhyfel arall (heb wybod roedd y Thals pellach yn basiffistaidd). Yn y seithfed episôd, byddai'r Thals wedi ailgychwyn systemau'r Daleks er mwyn trafod atal y rhyfel. Yn y pendraw, byddai'r Doctor yn datgelu ni ddechreuodd naill ochr y rhyfel; cafon nhw eu ymosod arno gan estronwyr arall. Byddai disgynyddion y hil wedyn yn cyrraeth Sgaro, wrth i'r lefelau ymbelydredd cwympo, er mwyn "atgyweirio a rhoi cymorth i ailadeiladu'r blaned". O ganlyniad i gyfyngiadau cyllid ac amser, gollyngwyd y plot, a throwyd y Daleks yn gelynion go iawn, heb rhoi "diweddglo hapus" i'r stori. Ailddefnyddiwyd rhannau o'r stori ar gyfer y stori The Masters of War.
  • Chwaraewyd y Dalek ar sgrîn gyntaf (yn fygythu Barbara ar ddiwedd The Dead Planet) gan Rheolydd Llawr Cynorthwyyol Michael Ferguson.
  • Mervyn Pinfield wnaeth cynnig dylai'r Daleks defnyddio ynni statig.
  • Mae'r stori yn cynnwys yn o'r unig achosion o rhywun yn goroesi cael ei saethu gan Dalek.
  • Awgrym Richard Martin oedd i gael meddyginiaeth gwrth-ymbelydredd y Thals bod yn anesgorol i'r Daleks. Roedd syniadau gwreiddiol yn cynnwys germau wrth criw'r TARDIS neu diffyg ymbelydredd wnaeth lladd y Daleks.
  • Rhowd tâp ar ysgwyddau'r Dalek ar ôl i William Hartnell brifo ei fys ar un o'r bandiau metel.
  • Wnaeth y stori amnewid gyda syniadau cynharach, gan gynnwys The Hidden Planet a The Masters of Luxor.
  • Rhyddhawyd cerddoriaeth wrth The Daleks yn 2003 yn rhan o Devil's Planet - The Music of Tristam Cary. Mae hefyd gerddoriaeth wrth The Daleks' Master Plan a The Mutants.
  • Ailddefnyddiwyd cerddoriaeth wrth y stori hon ar: The Rescue, The Daleks' Master Plan, The Ark, The Power of the Daleks.
  • Dylunydd gwreiddiol y stori oedd Ridley Scott, ond achos problemau gydag amserlen Scott cymerodd Raymond Cusick ei le, ac o ganlynniad fe ddyluniodd y Daleks.
  • Yn ystod ffilmio y stori hon, cafodd arlywydd America, John F. Kennedy, ei fradlofruddio; y dydd olynol, cafodd Doctor Who ei ddarlledu am y tro cyntaf gydag episôd cyntaf An Unearthly Child.
  • Dewiswyd y stori i gael ei arddangos yn rhan o Benwythnos Doctor Who BSB ym Mis Medi 1990.
  • "The Rescue" yw stori gyntaf Doctor Who i cael effaith anfateroli y TARDIS trwy ddefnydd o'r dechneg "roll back and mix". Roedd yr effaith hon yn ofnadwy o drafferth yn yr 1960au, o ganlyniad, defnyddiwyd yr effaith ond llond llaw o weithiau yn y cyfnod du a gwyn. (CYF: Doctor Who The Handbook: The First Doctor) Wrth i dechnoleg camerâu gwellhau, daeth y dechneg yn hawsach i berfformio. Hyd heddiw, mae'n debygol o gael ei weld wrth i gast a chriw Doctor Who cyrraedd a gadael sioeau megis Blue Peter.
  • Cynlluniwyd y creuadur tu mewn i Dalek edrych fel broga gydag ymenydd enfawr; mae modd gweld grafanc yn y stori terfynol, er mae gweddill y Dalek erioed yn cael ei weld. Byddai storïau hwyrach yn newid dyluniad y creuaduriaid i edrych fel octopws dybryd, gyda nifer o dentaclau yn lle breichiau llawn.
  • Yn gwreiddiol, roedd y peryglon gwynebodd Ian a Barbara yn wahanol - gyda'r sgript yn cynnwys corrynod mwtanaidd a llyncedigaeth llawn nwy a thân.
  • Yn gwreiddiol, cafodd y Doctor a Susan eu dedfrydu i ddienyddiaeth mewn "siambr sonig".
  • Cynhwysodd y sgript gwreiddiol sawl cyfeiriad tuag at "law eang" - digwyddiad aeryddol cyfnodol a Sgaro - a fyddai wedi lleihau'r lefelau ymbelydredd digon i hawlio'r Daleks i adael eu dinas a wynebu'r Thals.
  • Yn ôl marwgoffa Raymond Cusick, cynhwysodd ei gynllun gwreiddiol am y Daleks goleuadau yn "sgert" y Daleks. Byddai'r syniad angen batri car tu mewn y Dalek, ac achos roedd batrïau ceir yn ddrud, gwrthodwyd y syniad.
  • Roedd poblogrwydd y stori yn syndod i Carole Ann Ford, gan gofio pob tro cafodd ei phrocio gan Dalek, roedd hi eisiau chwerthin.
  • Roedd rhaid ail-saethu'r episôd gyntaf achos roedd modd clywed leisiau wrth glustffonau'r cynhyrchydd cynorthwyyol. O ganlyniad, roedd modd i'r dylunwyr creu model gwell o Ddinas y Daleks.
  • Comisiynnodd Christopher Barry Trisam Carry am gerddoriaeth y stori, gyda'r dau wedi gweithio gyda'i gilydd ar No Cloak - No Dagger. Er casaodd Sydney Newman gwaith Cary, cafodd ei berswadio gan Christopher Barry a Verity Lambert i gael Cary am y stori. Yn dilyn clywed musique concrète, gofynodd Barry i Cary cyfansoddi sgôr syml electronig ar gyfer y stori. Defnyddiwyd tua 20 munud o'i gerddoriaeth yn y stori.
  • Dewiswyd Alan Wheatley i chwarae Temmosus, arweinydd y Thals. Fe weithiodd gyda William Hartnell yn flaenorol mewn episôd o The Flying Doctor yn 1959.
  • Ystyriwyd David Markham yn gwreiddiol am Temmosus.
  • Dewiswyd Dinsdale Landen yn gwreiddiol i chwarae Ganatus, ond roedd rhaid iddo peidio achos newidiadau yn dyddiadau cynhyrchu. Cafodd ei amnewid gan Philip Bond.
  • Castiwyd Virginia Wetherell fel Thal benywaidd o'r enw Dyoni, wedi gweithio'n flaenorol gyda Richard Martin.
  • Newidwyd enwau'r Thals dros y cyfnod cynhyrchu: enw gwreiddiol Temmosus oedd Stohl, Alydon oedd Vahn, Ganatus oedd Kurt, Kristas oedd Jahl, Antodus oedd Ven, Dyoni oedd Daren, ac Elyon oedd Zhor.
  • Yn gwreiddiol roedd Raymond Cusick eisiau chwech Dalek. Hawliodd cyfyniadau cyllid pedwar Dalek yn unig.
  • Dewiswyd pedwar actor fel gweithredwyr Dalek o achos eu taldra byr a'u cryfder: Robert Jewell, Kevin Manser, Michael Summerton, Gerald Taylor.
  • O achos lleisiau trydanol Daleks, credwyd roedd yn anymarferol i actorion y Daleks hefyd darparu eu deialog. O ganlyniad, lleisiwyd linellau'r Daleks gan Peter Hawkins a David Graham i ffwrdd o'r set.
  • Ymgysylltoddd Christopher Barry gyda Post Office's Joint Speech Research Unit er mwyn cael gwybodaeth ar leisiau trydanol. Rhoddwyd dau sampl iddo: un yn defnyddio vocoder gyda thraw monotôn isel a chanolog; a'r llall yn defnyddio cymeriadau ar gyfrifiadur i greu llais oedd yn llai dynol ond fe gymerodd fwy amser i greu. Er mwynhaodd Barry'r dulliau, penderfynodd y BBC i ddatblygu dull eu hun am effaith debyg, gan roedd angen lleisiau'r Daleks yn ystod y cyfnod cynhyrchu mewn stiwdio. Gweithiodd Richard Martin gyda Brian Hodgson o'r BBC Radiophonic Workshop er mwyn dod o hyd i lais addas. Yn y diwedd, siaradodd yr actorion trwy meicroffôn lip-ribbon, a gafodd agwedd trydanol trwy ei basio trwy ring modulator.
  • Taldra modelau'r Dalek cyntaf oedd pedwar troedfedd ac wyth modfedd, wedi'u paentio'n lwyd gyda pheli las ar y sgert; roedd goleuadau'r pen yn goleuadau nadolig wedi'u orchuddio gan bêl ping-pong, wedi'u gweithredu gan actor tu mewn i'r Dalek.
  • Seiliodd Raymond Cusick ei ddyluniad o'r Daleks ar ddyn yn eistedd mewn cadair.
  • Gweithiodd Shawcraft Models - dylunwyr rhan o set y TARDIS - gyda Raymond Cusick i ddylunio'r Daleks. Pan gyrddodd Cusick gyda Bill Roberts o Shawcraft Models er mwyn trafod y prosiect, fe ddefnyddiodd pot pupur i fynegu symidiad y Daleks. Roedd gan y prototeip sylfaen pren, a sgert a ddefnyddiodd gwydr ffibr. Roedd y model yn pedwar troedfedd a chwech modfedd, yn gadael bwlch i actor eistedd tu mewn. Bodlonhaodd y BBC y dyluniad, gan hawlio tair wythnos ar gyfer y modeli terfynnol.

Cyfartaleddau gwylio[]

  • "The Dead Planet" - 6.9 miliwn
  • "The Survivors" - 6.4 miliwn
  • "The Escape" - 8.9 miliwn
  • "The Ambush" - 9.9 miliwn
  • "The Expedition" - 9.9 miliwn
  • "The Ordeal" - 10.4 miliwn
  • "The Rescue" - 10.4 miliwn

Cysylltiadau[]

  • Enw gwreiddiol Llyn y Mwtaniaid oedd Llyn Drammankin. Bu fyw teulu Cyrnol Nasgard mewn plas ar lan y llyn ers amser maith. Yn ystod ei blentyndod, treuliodd Davros llawer o amser yno,  wedi'i gyfareddu gan greaduriaid y llyn. (SAIN: Innocence) Erbyn oesoedd hwyraf y Rhyfel Mil Flwyddyn, y Llyn oedd un o lleoliadau olaf Sgaro i gynnwys unryw bywyd. Cafodd y rhan fwyaf o rywogaethau eu lladd o achos y rhyfel, gan eithrio'r Kaleds a'r Thals. (SAIN: Corruption)
  • Cadwodd Susan clogwyn Alydon yn ei hystafell yn y TARDIS. Yn dilyn ei hymadawiad o'r TARDIS, ail-leolodd y Doctor ei hystafell i gael ei gadw yng nghylch daliad y TARDIS. Yn ystod wythfed ymgorfforiad y Doctor, dinistriwyd y glogwyn gan pysgodyn Blitzen. (SAIN: Relative Dimensions)
  • Cafodd y frwydr Thal-Dalek, a ddigwyddodd deunaw mis yn gynharach na 31 Gorffennaf 2065 (felly, 2064 cynnar), ei adrodd arno gan deledu y Ddaear. (PRÔS: Peaceful Thals Ambushed!)
  • Yn dilyn dychweliad i Sgaro, (SAIN: Return to Sgaro) byddai'r Doctor a'i gymdeithion yn cyfarfod â'r Dalekau nesaf ar y Ddaear. (TV: The Dalek Invasion of Earth) Byddai Susan Foreman hefyd yn ymweld â fersiwn cynharach o Sgaro a chyfarfod gyda Daleks na welodd hi fel gelyn eto. (COMIG: The Message of Mystery)
  • Mae'r Doctor yn cyfarfod â'r Thals nesaf yn ei drydydd ymgorfforiad. Mae'r Thals wedyn yn siarad am digwyddiadau y stori hon. (TV: Planet of the Daleks)
  • Bydd y Doctor yn dychwelyd i Sgaro yn ei ail ymgorfforiad. (TV: The Evil of the Daleks)
  • Defnyddiwyd yr allwedd TARDIS Susan gan y Doctor i difrodi systemau rheoli trydan statig un Dalek, ac o ganlyniad, dinistriwyd yr allwedd. Mae'r Doctor yn rhoi allwedd newydd i Susan. (TV: The Sensorites)
  • Byddai Ian yn addasu stori y Dalekau a'r Thals ar gyfer cynulleidfa theatr yn Byzantium, ym Mawrth 64. (PRÔS: Byzantium!)
  • Wedi dysgu am fywyd ar blanedau eraill wrth y Doctor, adda'r Dalekau i gorchfygu'r bydysawd a meistroli teithio amser i ail-ennill eu pŵer. (SAIN: The Lights of Sgaro)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

Cafodd y stori ei rhyddhau ar y set bocs DVD The Beginning gyda An Unearthly Child a The Edge of Destruction ar 30 Ionawr 2006 (DU), ar 2 Mawrth 2006 (Awstralia), ac ar 28 Mawrth 2006 (UDA).

Cynnwys:

  • Sylwebaeth sain (wedi'u cymedroli gan Gary Russell):
    • Episôd 2 - The Survivors Verity Lambert a Christopher Barry
    • Episôd 4 - The Ambush: William Russell, Carole Ann Ford a Christopher Barry
    • Episôd 7 - The Rescue: William Russell, Carole Ann Ford a Richard Martin
  • Creation of the Daleks - Rhaglen ddogfennol yn edrych ar gread gelyn enwocaf Doctor Who, y Daleks. Yn cynnwys cyfraniadau wrth Verity Lambert, Richard Martin, dylunydd Raymond Cusick, dylunydd sain Brian Hodgson, llais gwreiddiol y Daleks David Graham, a gweithredwr gwreiddiol Dalek Michael Summerton.
  • Oriel
  • Isdeitlau cynhyrchu
  • Ansawdd sain a llun wedi'u gwella'n ddigidol

Cafodd y stori ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #91.

Rhyddhadau Digidol[]

Mae'r stori ar gael:

  • yn storfeydd iTunes (Awstralia, Canada, Ffrainc, yr Almaen, y DU a'r UDA) yn rhan o gasgliad Doctor Who (nid Doctor Who: Y Gyfres Clasurol) Monsters: The Daleks, sydd yn cynnwys y stori Asylum of the Daleks (Mae enw pob episôd yn cael eu rhoi fel The Daleks, Episode 1, heb dynodi enwau unidol yr episodau;
  • ar Amazon Video (DU) yn rhan o Gyfres 2 Doctor Who (Classic) Series;
  • i ffrydio ar BritBox (Canada a'r UDA) yn rhan o Gyfres 1 Doctor Who Clasurol.

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhawyd y stori ar VHS fel Doctor Who: The Daleks - The Dead Planet a Doctor Who: The Daleks - The Expedition, wedi'u dal at ei gilydd gyda thâp. Cafodd y capsiwn "Next Episode" ei dileu wrth Episôd 7. Rhyddhawyd rhein yn Chwefror 1990 (DU), ac yn Ionawr 1990.

Advertisement