Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Doctor's Meditation (Cy: Myfyriad y Doctor) oedd rhaghanes i nawfed cyfres Doctor Who, a chafodd ei rrhyddhau ar 15 Medi 2015 mewn sinemâu yng ngwledydd detholus, yr UDA, Denmarc, Rwsia a Chanada, yn dilyn darllediad fersiwn 3D o Dark Water a Death in Heaven. Rhyddhawyd y stori'n hwyrach ar Facebook yn y DU, ac ar deledu yn Awstralia.

Hon oedd y stori theatr cyntaf ers Precwel Deep Breath y cyfres blaenorol, a'r pumed yn gyfan gwbl.

Crynodeb[]

Wrth i'r Doctor ymbaratoi i farw, mae'n dewis ymlonyddu mewn lleoliad annisgwyl.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cyfeiriadau[]

  • Mae'r Doctor yn gwisgo trwser plàd. Mae hefyd yn gwisgo crys-T gyda graffig Label Lab Misty Mountain.

Nodiadau[]

  • Darlledwyd The Doctor's Meditation yn gyntaf cyn darllediad 3D o Dark Water a Death in Heaven am 7:30 y.h. amser lleol yn UDA a Chanada. Ynghyd â The Five Doctors a'r ffilm teledu, mae'r rhaghanes hon yn un o lond llaw o storïau a ddarlledir yn yr UDA yn gyntaf. Rhyddhawyd y stori ar dudalen swyddogol Facebook Doctor Who yn gyntaf ym Mhrydain, gan fod yr episôd-mini cyntaf i'w wneud.
  • Hefyd, mae'n un o ond ychydiad o storïau i gael ei darllediad cyntaf mewn sinema. Ers hyn mae'r stori wedi'i darlledu ar deledu yn yr Unol Daliaethau ar BBC America ar 18 Medi 2015 ac ar ABC yn Awstralia ar 19 Medi 2015.
  • Mae'r olygfa olaf o frwydr yn cysylltu'n uniongyrchol i olygfa cyntaf The Magician's Apprentice, episôd cyntaf Cyfres 9.
  • Hon yw'r stori "hanes-pur" cyntaf ers Black Orchid yn 1982.
  • O safbwynt y Deuddegfed Doctor, mae'r stori yn digwydd rhwng clywed neges Colony Sarff, a'i "frwydr bwyell" gyda Bors. O ganlyniad, mae'r stori hon yn digwydd yn cyfan gwbl o fewn naratif TV: The Magician's Apprentice

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn myfyrio, gan fe ddywedodd wrth Ohila fyddai'n myfyrio un dydd. (WC: Prologue)
  • Mae'r Doctor yn cael ei enwi'n ddewin. Fe ddywedodd yn flaenorol taw ef creuodd gwisg y ddewin. (TV: Time Heist) Mae hefyd wedi cael ei alw'n ddewin o'r blaen. (TV: Last Christmas)
  • Mae'r Doctor yn sôn am "osgoi hen gynefindra". (TV: Prologue) Byddai'r cynefindra hwn yn troi allan i fod yn Davros. (TV: The Magician's Apprentice)
  • Mae'r Doctor yn erchyll am berfformio hud. Wrth iddo ofyn i Bors i le aeth ei geiniog, mae'r Doctor yn gwrthod ddangos ei law, gan fynnu nad yw'r ceiniog yna. (TV: Kinda)
  • Mae'r Doctor yn ysgrifennu gyda sialc, (TV: Deep Breath, Into the Dalek, Robot of Sherwood, Listen) ond yn lle ddefnyddio bwrdd du, mae'n ysgrifennu ar y llawr, fel yn dilyn ei adfywiad.
  • Mae'r Doctor yn gofyn i Bors os fyddai eisiau brwydr cyfeillgar cleddyfau, gan dynnu ei lwy allan. Fe frwydrodd yn flaenorol gyda'r llwy yn erbyn Robin Hwd. (TV: Robot of Sherwood)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD a Blu-Ray[]

  • Cynhywswyd yr episôd-mini fel rhan o set bocs DVD a Blu-Ray Cyfres 9 yn yr UDA a'r DU.
  • Cyn ei rhyddhad ar y set bocs, cynhwyswyd y stori ar ryddhad 3D Blu-Ray Gogledd America o Dark Water a Death in Heaven.

Rhyddhadau digidol[]

  • Yn dilyn ei rhyddhad mewn sinemâu, rhyddhawyd yr episôd am ddim ar 17 Medi 2015 yn y DU ar Facebook, Google Play, ac Amazon Instant Video. Er, mae gan y cynnwys clo daearyddol, gyda pobl y DU yn unig yn cael mynediad i'r episôd. Mae hefyd ar gael i brynu ar iTunes.
Advertisement