Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Last Sontaran (Cy: Y Sontaran Olaf) oedd stori gyntaf cyfres 2 The Sarah Jane Adventures. Cafodd y stori ei hysgrifennu gan Phil Ford a'i chyfarwyddo gan Joss Agnew.

Dyma ymddangosiad rheolaidd olaf Yasmin Paige fel Maria Jackson, yn gadael y prif gast gyda'i thad Alan, ar ôl iddo dderbyn swydd newydd yn America. Fe adawodd i Maria dewis os fyddent yn symud i America. Hefyd, dyma ymddangosiad olaf Chrissie Jackson, gyda hi'n darganfod y gwir am fywyd Maria yn delio gyda estronwyr gyda Sarah Jane. Ond, achos roedd ei theulu yn symud i America, nid oedd rheswm iddi ymweld â Bannerman Road. Yn noededig, roedd y stori yn ddilyniant i'r episôd Doctor Who, The Poison Sky, yn delio gyda chanlyniadau brwydr y Degfed Doctor gyda Degfed Llynges y Sontarans.

Crynodeb[]

Mae adroddiadau o oleuau rhyfedd o gwmpas telesgop radio y Tycho Project yn arwain Sarah Jane, Luke, Clyde a Maria tuag at cyfarfyddiad brawychlyd mewn coedwig. Mae Sarah Jane yn dod wyneb yn wyneb gyda'i gelyn hynaf. Yn y cyfamser, mae gan Maria penderfyniad enfawr pan gynigir swydd newydd i'w thad yn America.

Plot[]

Rhan 1[]

I'w hychwanegu.

Rhan 2[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Sarah Jane Smith - Elisabeth Sladen
  • Maria Jackson - Yasmin Paige
  • Luke Smith - Tommy Knight
  • ClydeDaniel Anthony
  • Llais Mr Smith - Alexander Armstrong
  • Alan Jackson - Joseph Millson
  • Chrissie Jackson - Juliet Cowan
  • Professor Nicholas Skinner - Ronan Vibert
  • Lucy Skinner - Clare Thomas
  • Kaagh - Anthony O'Donnell

Cyfeiriadau[]

Unigolion[]

  • Mae Mrs Pittman yn athrawes yn Ysgol Gyfun Park Vale.

Lleoliadau[]

  • Mae'r Tycho Project yn gwylio Rigel Beta Pump.
  • Hall of the Fallen and the Brave yw adeilad ar Sontar.
  • Mae Sontar wedi'i leoli yn yr Galaeth Metasaran.
  • Mae Maria ac Alan yn symud i Washington DC.

Cyfluniaethau[]

  • Mae Sarah Jane eisiau ffonio UNIT er mwyn delio gyda'r Sontarans.
  • Mae Kaagh yn aelod o'r Special Assault Squad.
  • Archer & Lewis sydd yn gwerthu 36 Bannerman Road.

Eiddo[]

  • Mae gan Chrissie esgidiau Jimmy Choo maint 5, ac mae hi'n gwthio'r esgid lawr fent probig.
  • Defnyddiodd Kaagh rheolwr braich Sontaran er mwyn actifadu ei fatrics cuddio.
  • Mae modd rheoli pobl trwy fewnblaniadau rheolaeth niwrol.
  • Mae Luke yn creu nwy ffeinti gan gymysgu Asid Korazic, Lyzirium phosphate, Dylixium chloride, cyn ei rhoi i mewn i ganister nwy Sontaran.
  • Mae gan Sarah Jane controwlerwyr dyfodoliadol, headset MITRE, potel Bubble Shock!, ffrwydrwr Sontaran, entanglement shells, a sganiwr symudol yn ei hatig.

Rhywogaethau[]

  • Mae'r Heidiau Vorkazian yn frodorol i Meta Vorka 6.

Cyfeiriau dywylliannol i'r byd go iawn[]

  • Mae Chrissie yn galw Kaagh yn "Humpty", ac mae Clyde yn ei alw'n "Bilbo".
  • Mae Sarah Jane yn sôn am y Mary Celeste.
  • Mae Luke a Clyde yn gwneud prosiect hanes ar gyfer ysgol am Napoléon a Brwydr Waterloo. Yn gwreiddiol, roedd Clyde eisiau gwneud prosict ar "Frwydr Hoth" o Star Wars.
  • Mae Clyde yn siarad am The Land That Time Forgot.

Cerddoriaeth[]

  • Mae Lucy Skinner yn gwrando i gerddoriaeth indie. Mae'n hoff o Women of War, Rain Green, Giddy Nuisance, a The Motorboats.

Arall[]

  • Mae Chrissie yn galw Sarah Jane yn "Calamity Jane" a "Mary Jane".
  • Mae Skinner yn defnyddio pêl fellt er mwyn egluro'r Sontarans.

Nodiadau[]

  • Cynnigir stori arall o'r enw "The Trial of Sarah-Jane Smith" am stori gyntaf yr ail gyfres. Byddai Sarah Jane wedi'i threialu gan Jydŵn.
  • Hon oedd y stori gyntaf i'w darlledu yn dilyn The Stolen Earth a Journey's End, ac felly mae'r stori i fod i ddigwydd yn dilyn yr episodau hynny. Mae gan y stori cyfeiriau at wybodaeth o estronwyr fel gwybodaeth cyffredin. Er ni ymddangoson nhw, cafodd Maria ac Alan ei sôn am fel dal i fod yn Lloegr ar y pryd.
  • Mae sgrîn Mr Smith nawr yn dangos cyflwr mater hylifol, yn lle'r siâp crisial o Gyfres 1.
  • Hon yw stori olaf Maria Jackson fel prif gymeriad. Roedd Yasmin Paige yng nghanol ei TGAU, ac felly dwisodd hi i ganolbwyntio ar adolygu. Ymddangosodd hi yn hwyrach yn rhan 2 The Mark of the Berserker, ac mae cyfeiriau at Maria ym mhob stori arall Cyfres 2.
  • Dynoda'r stori ymddangosiad olaf Chrissie Jackson yn y gyfres. Mae ei hedrychiad olaf wedi newid yn sylweddol ers Cyfres 1. Mae ei gwallt yn hirach, cyrliog, a lliw brown yn lle coch tywyll, ac mae hi nawr yn gwisgo cot ffwr gyda sodlau uchel pinc.

Cyfartaledd gwylio[]

  • Rhan 1 - 0.82 miliwn[1]
  • Rhan 2 - 0.48 miliwn[1]

Darlledwyd Rhan 1 ar BBC One, tra ddarlledwyd Rhan 2 ar CBBC.

Cysylltiadau[]

  • Mae Maria yn sôn am y Bane, (TV: Invasion of the Bane) y Slitheen, (TV: Revenge of the Slitheen) y Gorgon, (TV: Eye of the Gorgon) a'r Trickster, (TV: Whatever Happened to Sarah Jane?) tra mae Alan yn cofio'r Lleuad yn agosáu at y Ddaear. (TV: The Lost Boy)
  • Mae Sarah Jane yn siarad am Mr Smith yn cael ei ailddechrau (TV: The Lost Boy)
  • Wrth fynd i mewn i'r archwilfa gwag, mae Sarah Jane yn ei gymharu â'r Mary Celeste, llong sydd yn enwog am gael ei ddarganfod heb bobl. Roedd criw'r llong wedi ffoi achos y Daleks. (TV: The Chase)
  • Mae Sarah Jane yn cofio'i chyfarfodau blaenorol gyda'r Sontarans, gydag un yn "amser maith yn ôl (TV: The Time Warrior) ac un "amser maith i ddod". (TV: The Sontaran Experiment).
  • Goroeswr wrth ymosodiad y Sontarans ar y Ddaear yw Kaagh. Fe roedd yn teithio i'r Ddaear pan ddinistriwyd llong ofod y Sontarans gan Luke Rattigan, er mae'n baio'r Degfed Doctor. O ganlyniad i ffrwydriad y llong ofod, cwympodd ei long i'r Ddaear. (TV: The Poison Sky)
  • Yn debyg i Sontarans arall, mae gan Kaagh gwaed gwyrdd. (TV: The Two Doctors)
  • Wrth i Chrissie torri mewn i dŷ Sarah Jane, mae'n nodi "nid yw rhai erioed yn dysgu". Yn gynharach, torrodd hi i mewn i dŷ Sarah Jane gan ddefnyddio'r un ffenest. (TV: Eye of the Gorgon)
  • Mae Clyde yn disgrifio Kaagh fel taten. (TV: Eye of the Gorgon, The Sontaran Stratagem ayyb)

Rhyddhadau Cyfryngau Cartref[]

  • Rhyddhawyd y stori hon ynghyd â gweddill Cyfres 2 ar DVD ar 9 Tachwedd 2009 (DU) ac ar 10 Tachwedd 2009 (UDA).
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd y stori ar y set bocs The Complete Collection Series 1-5 ar 6 Chwefror 2012.

Troednodau[]

  1. 1.0 1.1 DWMSE 23
Advertisement