The Sands of Life (Cy: Tywodydd Bywyd) oedd ail stori yn ail gyfres The Fourth Doctor Adventures, wedi'i chyhoeddi gan Big Finish Productions. Ysgrifennodd Nicholas Briggs y stori a gynhwysodd Tom Baker fel y Pedwerydd Doctor, Mary Tamm fel Romana I a John Leeson fel K9.
Adroddwyd y stori hon dros ddwy ryddhad gwahanol, hon a'r rhyddhad dilynnol, War Against the Laan. Hefyd, cyflwynodd y stori hon Cuthbert, wedi'i chwarae gan David Warner, cymeriad a fyddai'n ddihiryn cylchol yn ystod yr ystod.
Crynodeb cyhoeddwr[]
Mae Sheridan Moorkurk newydd cael ei hethol yn Arlywydd y Ddaear, ond mae hi wedi dechrau sylweddoli ar y realiti o bwy, mewn gwirionedd, sydd yn rheoli'r blaned. Yn ychwanegol, mae hi wedi dechrau clywed lleisiau.
Yn y cyfamser, mae'r y Doctor a Romana yn cwrdd â thorf o estronwyr yn anelu am y Ddaear... Estronwyr sydd yn barod wedi cynhyrfu Cuthbert, CEO pwerus y Conglomerate, trwy ddinistrio un o'i lwyfannau gofod.
Gallai'r Doctor a Romana atal rhyfel rhyng-rhywgaethol a fyddai'n dileu bywyd cyfan ar y Ddaear?
Plot[]
I'w hychwanegu.
Cast[]
- Y Doctor - Tom Baker
- Romana I - Mary Tamm
- K9 Math II - John Leeson
- Arlywydd Moorkurk - Hayley Atwell
- Cuthbert - David Warner
- Mr Dorrick - Toby Hadoke
- Y Laan - Jane Slavin
- Cadfridog Vincent/Rheolaeth Awyrdeithiau - Duncan Wisbey
- Bob Caveer - Nicholas Briggs
- Milwr - Beth Chalmers
- Milwr - John Dorney
Cyfeiriadau[]
- Mae'r Doctor yn dweud wrth Romana bod dyfynnu'r Llawlyfr y TARDIS iddo yn ei atal rhag canolbwyntio.
- Gall y Laan mordwyo'r Fortecs Amser.
- Mae'r Doctor yn camenwi Romana fel Leela a K9 fel Sarah.
- Sefyldwyd swyddfa'r Arlywydd y Ddaear 75 blwyddyn yn ôl.
- Silesia yw rhanbarth ar y Ddaear.
- Mae'r Doctor wedi ymweld â Algiers.
Nodiadau[]
- Yn anarferol am stori Big Finish, mae gan y stori hon tri rhan. Does dim llawer o storïau Big Finish gyda thri rhan. Hefyd, roedd y stori hon yn cynnwys tri rhan cyntaf stori pump rhan. Parhaodd y stori yn y stori dau ran, War Against the Laan. Hon yw'r unig stori Pedwerydd Doctor gyda phump rhan yn Doctor Who nes heddiw.
- Recordiwyd y stori hon ar 9 Mehefin 2011 at Audio Sorcery yn The Moat Studios.
- Nododd Nicholas Briggs mewn podlediad taw Sarah Jane Smith oedd cydymaith gwreiddiol y stori, ond fe addasodd Briggs y stori i gynnwys Romana I yn dilyn marwolaeth Elisabeth Sladen. (CYF: The Big Finish Podcast
- Rhyddhawyd y stori yn gwreiddiol ar CD a lawrlwythiad.
Cysylltiadau[]
- Mae Leela ar Gallifrey. (TV: The Invasion of Time)
- Byddai'r parot yn aros o fewn y TARDIS o leiaf nes ei wythfed ymgorfforiad. (SAIN: The Light at the End)
- Yn dilyn cael ei effeithio gan lithriad amser, wedi'i achosi gan y Laan yn teithio trwy's Fortecs Amser, ni atgyweiriwyd K9 am fwy na mis. (SAIN: The Justice of Jalxar, Phantoms of the Deep)
- Mae llinell y Doctor "If someone who knew the future pointed out a child to you and told you that that child would grow up totally evil, to be a ruthless dictator who would destroy millions of lives, could you then kill that child?" yn tarddu o TV: Genesis of the Daleks.
- Mae'r Doctor yn cofio dweud y linellau: "indomitable!" (TV: The Ark in Space) a "Harry Sullivan is an Imbecile!". (TV: Revenge of the Cybermen)
Dolenni allanol[]
- Tudalen The Sands of Life swyddogol ar bigfinish.com
|