Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Year of Martha Jones (Cy: Blwyddyn Martha Jones) oedd blodeugerdd ac wythfed ar hugain rhyddhad cyfres y BBC New Series Adventures. Yr awduron oedd Dan Abnett, David Roden, Steve Lockley & Paul Lewis, Robert Shearman a Simon Jowett. Cynhwysodd y stori y Degfed Doctor a Martha Jones.

Hon oedd stori llawn cyntaf y New Series Adventures i beidio cael un stori. Hefyn, hon oedd y stori olaf i gynnwys Martha Jones, gyda'r stori wedi'i gosod yn ystod Y Flwyddyn Na Fu Erioed.

Crynodeb cyhoeddwr[]

Am flwyddyn, tra rheolodd y Meistr dros y Ddaear, teithiodd Martha Jones i bedwar bannau'r byd yn darlledu straeon am y Doctor. Ymadroddodd hi straeon am sut achubodd y Doctor pawb unwaith, a sut fe fyddai'n achub pawb eto.

Hon yw hanes y stori hwnnw. Yn dogfennu teithiau Martha o hi'n chyrraedd y Ddaear yn ystod ymosodiad y Toclafane nes ei dychweliad i Brydain er mwyn gwynebu'r Meistr. Adroddwyd sut gwasgarodd Martha ei straeon am y Doctor. Y stori o sut goroesodd hi'r flwyddyn erchyll.

Ond, yn fwy na hynny, mae hyn yn gasgliad o straeon Martha - straeon o'i anturiaethau gyda'r Doctor dydyn ni heb glywed am eto. Y storïau a ysbrydolodd ac achubodd y fyd...

Plot[]

I'w hychwanegu.

Storïau[]

# Teitl Awdur
1 The Story of Martha Dan Abnett
2 The Weeping David Roden
3 Breathing Space Steve Lockley a Paul Lewis
4 The Frozen Wastes Robert Shearman
5 Star-Crossed Simon Jowett

Nodiadau[]

  • Hon yw unig rhyddhad cyfres cyfredol BBC Books i gynnwys sawl awdur. Hefyd, hon yw'r tro cyntaf i BBC Books defnyddio fformat stori sydyn ers pasion nhw'r gyfres Short Trips i Big Finish Productions. Byddai fformat y casgliad o storïau sydyn a ganolbwyntiodd ar gydymaith neu gymeriad arall yn dychwelyd yn 2015 gyda chyhoeddiad The Legends of Ashildr ac yn 2016 gyda The Legends of River Song
  • Mae'r stori sydyn The Story of Martha yn darparu prif naratif y nofel, gyda'r storïau sydyn arall wedi'u ymroi o fewn y naratif trwy gael Martha Jones ymadrodd y straeon i'r pobl mae hi'n cwrdd â yn ystod Y Flwyddyn Na Fu Erioed. Yn fanwl gywir, mae'r pedwar stori sydyn wedi'u cwmpasu gyda rhannau The Stori of Martha.
  • Hon hefyd oedd y tro cyntaf cyhoeddodd BBC Books stori a oedd wedi'i seilio'n uniongyrchol ar episôd teledu. Er nad yw hyn yn nofeleiddiad, mae'r stori yn nofeleiddio rhan olaf TV: The Sound of Drums a rhan gyntaf TV: Last of the Time Lords.
  • Mae hon yn dynodi'r tro cyntaf mae cyn-gydymaith yn dychwelyd i gloriau New Series Adventures yn dilyn eu hamnewidiad gan y cydymaith newydd. Yn yr achos yma, dychwelodd Martha ar ôl amnewidwyd hi am fuan gyda Donna Noble.
  • Rhyddhawyd y nofel hefyd fel elyfr ar siop Amazon.

Argraffiadau y tu allan i Brydain[]

  • Rhyddhawyd cyfieithiad Tsieiniaidd gan New Star Press yn 2018 mewn clawr meddal.

Sainlyfrau[]

  • Rhyddhawyd sainlyfr talfyredig ar 12 Mawrth 2009 gan BBC Books wedi'i hadrodd gan Freema Agyeman. Cynhwysodd y rhyddhad hon y stori sydyn The Stori of Martha yn unig.
  • Rhyddhawyd sainlyfr llawn di-darf ym mis Hydref 2009. Rhyddhaodd Chivers Audiobooks y sainlyfr, gyda Freema Agyeman yn ei hadrodd unwaith eto. Er cynhwyswyd pob stori sydyn yn y rhyddhad, credydwyd Dan Abnett fel unig awdur y flodeugerdd. Roedd y sainlyfr ar gael trwy wêfan AudioGO yn unig.
Advertisement