Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Visitation (Cy: Yr Ymweliad) oedd pedweredd stori Hen Gyfres 19 Doctor Who. Portreadodd y stori esboniad Doctor Who am ddechreuad Tân Mawr Llundain. Cynhwyswyd hefyd oedd ymddangosodiad olaf y sgriwdrefar sonig yn ystod cyfnod cynhyrchu John Nathan-Turner. Ar deledu, ni fyddai'r sgriwdreifar yn dychwelyd nes ffilm teledu 1996, cyn dod yn nodwedd rheolaidd o'r gyfres newydd gan BBC Cymru yn 2005. Y rheswm am ddinsistrio'r sgriwdrefar sonig oedd achos roedd y sonig wedi hawlio'r Doctor i osgoi sefyllfaoedd chwithig yn rhy hawdd.

Yn y cefn, roedd hon yn bwysig am fod cyfraniad cyntaf Eric Saward i'r sioe. Yn wahanol i amseroedd eraill lle derbyniodd y golygydd sgript credyd am ysgrifennu un stori, yn yr achos yma cafodd y sgript ei gyflwyno cyn enillodd Saward ei swydd fel golygydd sgript. Mewn ffordd, y sgript hawliodd Saward i gael ei swydd yn lle'r swydd yn hawlio Saward i ysgrifennu stori.

Roedd y stori hefyd yn nodedig am ei gyfartaledd gwylio uchel. Hon yw un o'r storïau sawl rhan i wella'u cyfartaledd gwylio am bob rhan. Gan eithrio Dimensions in Time, yr episôd olaf oedd un o bump cynhyrchodd JNT i gael cyfartaledd o deg miliwn neu fwy. O ganlyniad, llwyddodd yr episôd i fod un o'r 40 episôd gwyliwyd yn fwyaf yr wythnos hwnnw - un o bedwar adeg llwyddodd Doctor Who JNT i torri'r 40 uchaf. Yn enwedig, ynghyd ag episôd olaf Earthshock, rhan pedwar The Visitation oedd yr episôd gwyliwyd trydydd mwyaf yng nghyfnod JNT.

Crynodeb[]

Mae'r Pumed Doctor yn ceisio cymryd Tegan yn ôl i Faes Awyr Heathrow ond cyrhaeddodd y TARDIS y 17fed ganrif yn lle'r 20ain. Mae'r teithwyr amser yn dod o hyd i gapsiwl gofod wedi cwymplanio gerllaw gyda'u preswylwyr estronaidd, tri Terileptil yn ffoi carchar, yn ceisio dileu bywyd cyfan y Ddaear wrth ryddhau llygod mawr wedi'u hentio gyda fersiwn cryfach o'r pla.

Hefyd, maent yn defnyddio android soffistiedig er mwyn frawychu preswylwyr y pentref lleol. Gyda chymorth thespian lleol, Richard Mace, mae'r Doctor a'r tîm yn ceisio datrys cynllun drygionus.

Plot[]

Rhan un[]

I'w hychwanegu.

Rhan dau[]

I'w hychwanegu.

Rhan tri[]

I'w hychwanegu.

Rhan pedwar[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

  • Y Doctor - Peter Davison
  • Tegan - Janet Fielding
  • Adric - Matthew Waterhouse
  • Nyssa - Sarah Sutton
  • Richard Mace – Michael Robbins
  • Android - Peter Van Dissel
  • Yr Yswain – John Savident
  • Charles – Anthony Calf
  • Ralph – John Baker
  • Elizabeth - Valerie Fyfer
  • PentrefwrRichard Hampton
  • MelinyddJames Charlton
  • Terileptil - Michael Melia
  • PotsiwrNeil West
  • PennaethEric Dodson

Cast di-glod[]

  • Terileptiliaid:[1]
    • Michael Leader
    •  David Sumner
  • Dyn stỳnt/Pentrefwyr gyda mygydau:[2]
    • Stuart Fell
    •  Alan Chuntz

Criw[]

  • Rheolydd Llawr Cynorthwyyol - Alison Symington
  • Gwisgoedd - Odile Dicks-Mireaux
  • Dylunydd - Ken Starkey
  • Dyn camera ffilm - Peter Chapman
  • Golygydd ffilm - Ken Bilton
  • Sain ffilm - Stan Nightingale
  • Cerddoriaeth achlysurol - Paddy Kingsland
  • Colur - Carolyn Perry
  • Cynorthwyydd cynhyrchu - Julia Randall
  • Cynhyrchydd cyswllt - Angela Smith
  • Rheolwr cynhyrchu - Roselyn Parker
  • Golygydd sgript - Antony Root
  • Hŷn dyn camera - Alec Wheal
  • Sain arbennig - Dick Mills
  • Goleuo stiwdio - Henry Barber
  • Sain stiwdio - Alan Machin
  • Rheolydd technegol - Derek Martin
  • Trefniant thema - Peter Howell
  • Cerddoriaeth thema - Ron Grainer
  • Effeithiau fideo - Dave Jervis
  • Golygydd fideo - Rod Waldron
  • Cymysgydd lluniau - Carol Johnson
  • Dylunydd effeithiau gweledol - Peter Wragg
  • Awdur - Eric Saward

Farwelio'r sonig[]

Ers stori'r Ail Doctor, Fury from the Deep, yn 1968 roedd sgriwdreifar sonig y Doctor yn nodwedd hanfodol o'r gyfres, ond yn y storio hon dinistriodd arweinydd y Terileptiliaid y sgriwdreifar. Mae hyn yn digwydd heb ffanffer na phwysigrwydd enfawr ar y plot. Byddai cynulleidfaoedd modern a oedd wedi'u harferu â'r sonig yn cael ei amnewid yn syth megis mewn Smith and Jones a The Eleventh Hour efallai'n meddwl cafodd y Pumed Doctor sonig newydd yn ei stori nesaf. Roedd y gynulleidfa ar y pryd hyd yn oed yn gallu disgwyl sonig newydd gan gwelon nhw Romana II yn creu sonig rhai blynyddoedd yn gynharach yn The Horns of Nimon.

Yn lle, y dinistriad hon yw diwedd y scriwdreifar sonig yn y cyfres gwreiddiol.

Yn gwreiddiol, ysgrifennodd Eric Saward golygfa terfynnol gyda'r Doctor yn chwilio am amnewidiad mewn ystafell llawn dyfeisiau yn y TARDIS. Gwrthwynebodd cynhyrchydd John Nathan-Turner, gyda angen cael gwared o'r dyfais gan fe feddyliodd dylai awduron osgoi defnyddio'r sonig. O ganlyniad, ni ddychwelodd y sonig nes y stori nesaf na chynhyrchodd JNT.

O ran y naratif, ni esboniwyd terfynioldeb dinistriad y sonig ar sgrîn nes Time Crash, pan awgrymodd y Degfed Doctor wnaeth y Pumed Doctor peidio cael sonig newydd o ganlyniad i ddewisiad personol.

Yn y cyfamser, mewn print, adferodd y gyfres Virgin New Adventures y sonig ar gyfer y Seithfed Doctor hyd yn oed cyn rhyddhad y ffilm 1996, ond trwy niferoedd o esboniadau cymysglyd gwrthgyferbyniol. Wedi'u cysylltu'n fwyaf â The Visitation oedd dynodiad enillodd y Doctor ei sgriwdreifar nôl trwy "erlyn y Terileptiliaid am ddifrod troseddol". (PRÔS: GodEngine)

Cyfeiriadau[]

  • Mae Tegan yn cymryd fod y Terileptil eisiau'r TARDIS, yn debyg i Mynach, achos mae o eisiau "reidio tu fewn".

Bwydydd a diodydd[]

  • Mae Ralph yn rhoi posset i'r Yswain.

Rhywogaethau[]

  • Mae'r Terileptiliaid yn creaduriaid lled-ymlusgiad deallus iawn gyda gwerthfawrogiad cryfach am estheteg a milwraeth.
  • Mae Terileptiliaid wedi dianc rhag y cloddfeydd Tinclafig ar Raaga, lle gaethant eu carcharu am fywyd.
  • Ni all Terileptiliaid byw am hir heb anadlu nwy soliton; mae'r sylwedd yn anweddol pan gymysgwyd gyda ocsigen, gan hefyd drewi fel sylffwr.

Llundain[]

  • Mae ffrwydriad arf arweinydd y Terileptiliaid yn achosi Tân Mawr Llundain yn 1666 a ddechreuodd yn Pudding Lane.

TARDIS[]

  • Mae "conau cydbwysedd ochrol" y TARDIS yn camymddwyn, ac o ganlyniad yn atal y Doctor rhag cael Tegan nôl i Faes Awyr Heathrow yn 1981.
  • Mae Adric yn gollwng ei ddyfais canoli mewn brwydr.
  • Wrth chwilio am bencadlys Llundain y Terileptiliaid, mae sgrîn y TARDIS yn defnyddio print "brown a gwyn" o Lundain o'r 17eg ganrif.

Technoleg[]

  • Dinistriwyd Sgriwdreifar sonig y Doctor.
  • Mae'r Doctor yn dod o hyd i goden ffoi y Terileptiliaid hanner ffordd o dan y pridd.
  • Mae modd i Adric a Nyssa llywio'r TARDIS ar ben eu hun.
  • Mae'r Terileptiliaid yn creu rhwystr egni er mwyn cuddio eu gweithdy rhag gweddill y tŷ.
  • Mae breichledi rheoli'r Terileptiliaid wedi'u creu gyda polygrite; mae'r sylwedd wedi'i leoli ar ddraws y bydysawd gan gynnwys paciau pŵer sydd yn defnyddio'r sylwedd. Mae system goleuo'r Terileptiliaid - Crisial Vintaric - yn cyffredin.
  • Mae'r Terileptiliaid wedi adeiladu androidau uwch.

Nodiadau[]

  • Teitlau cynhyrchu'r stori oedd Invasion of the Plague Men a Plague Rats.
  • Hon yw'r unig stori ysgrifenodd Eric Saward ni chynhwysodd gelyn yn dychwelyd i'r sioe, ar wahan i grybwyll y Mara.
  • Mae'r olygfa agoriadol yn dilyn yn union wrth ddiwedd Kinda. Gan ffilmiwyd The Visitation cyn Kinda, roedd rhaid i Peter Davison a Matthew Waterhouse seilio ymatebion eu cymeriadau i ddigwyddiadau Kinda yn ôl y sgript yn unig.
  • Yn Radio Times, derbyniodd John Savident (Yr Yswain) fel "Squire John", a Michael Melia (Terileptil) fel "Terileptil Leader".
  • Mae mygydau'r Terileptiliaid, wedi'u creu gan Freelance Firm Imagineering,yn dynodi defnydd cyntaf animatronics yn y gyfres.
  • Mae Saward wedi dweudbod enw y Terileptiliaid wedi dod o gyfyngiad "territorial reptiles" yn Doctor Who: The Making of a Television Series.
  • Mae un rhan o labordy y Terileptiliaid yn ailddefnyddio crisial Hymetusite wrth TV: The Horns of Nimon.
  • Nid oedd y cyfarwyddwr, Peter Moffatt yn hoff o gerddoriaeth achlysurol Paddy Kingsland ar gyfer y stori hon, gan ddweud roedd y stori yn llawn cordiau chwyddedig. (DCOM: The Visitation) Ond, enwodd Kingsland Peter Moffat fel ei hoff cyfarwyddydd i weithio gyda. (DOC: Scoring the Visitation)
  • Casaodd Eric Saward perfformiad Michael Robbins o Richard Mace. Yn bennaf achos parhaodd Robbins i newid ei linellau. Ar ran Robbins, dywedir fe gasaodd gweithio ar y stori.
  • Enwodd Peter Davison y stori hon fel ei hoff un. Cofiodd Matthew Waterhouse y cyffro hon wrth Davison yn dod i set gan ysgwyd ei sgript yn gyffroes.
  • Roedd bwriad i gael mygydau y Terileptiliaid, ynghyd â'u hanimatronics, i ddychwelyd i'r sioe. Methodd y cynlluniau, ond ailddefnyddiwyd yn mwgwd ar gyfer diprwy Posikar yn The Trial of a Time Lord.
  • Ysbrydolwyd y gwaith hon gan un o hen gariadon Eric Saward, a oedd wedi bod yn astudio pensarnïaeth a ddechreuodd yn dilyn Tân Mawr Llundain. Wnaeth hi arsylwi aeth y llygod mawr a lydaenodd y pla wedi darfodi o fewn misoedd o Dân Mawr Llundain. Credodd Saward byddai hyn yn sylfaen dda i stori am amodau cymdeithasol yn Lloegr canoloesol.
  • Ystyriwyd Ian Bennen, Brian Blessed, John Carson, Ronald Fraser, Donald Houston, William Lucas, Glyn Owen a Donald Pleasence am rôl Richard Mace.
  • Roedd Peter Davison yn hwyr i'r ymarfer cyntaf achos roedd cath y teulu wedi dod nôl â thwrch ddaear fyw i'r tŷ, ac roedd rhaid iddo dychwelyd y twrch i'w gynefin yn diogel.
  • Roedd Black Park o fewn llwybr hedfan Maes Awyr Heathrow, ac o ganlyniad, torodd sain awyrennau ar ddraws recordio sawl gwaith. Peidiodd hyn gyda streic rheolwyr traffig awyr.
  • Gyrrodd Peter Davison i leoliadau ffilmio yn ei Volkswagen Scirocco.

Cyfartaledd gwylio[]

  • Rhan un - 9.1 miliwn
  • Rhan dau - 9.3 miliwn
  • Rhan tri - 9.9 miliwn
  • Rhan pedwar - 10.1 miliwn

Chwedlau[]

  • Mae alldoriad yn bodoli o geffyl yn cerdded trwy a dinistrio arch. Mae'r alldoriad yn bodoli ac mae wedi cael ei ddarlledu sawl gwaith. Wedi'i adrodd fel dod o'r stori hon sawl gwaith, mewn gwirionedd daeth yr alldoriad wrth gynhyrchiad TV: The Awakening.

Lleoliadau ffilmio[]

  • Black Park, Black Park Road, Fulmer, Buckinghamshire
  • Tithe Barn, Hurley High Street, Hurley Berkshire
  • Stiwdios Ffilmio Teledu Ealing (Llwyfan 2), Ealing Green, Ealing
  • Canolfan Teledu BBC (Stiwdio 3), Shepherd's Bush, Llundain

Gwallau cynhyrchu[]

  • Pan mae drysau'r llong ofod sydd wedi cwmplanio ar agor, does dim modd gweld y goedwig a ddylai cael ei weld.
  • Wrth i'r Doctor dweud wrth Nyssa i fynd nôl i'r TARDIS ar ei phen ei hun, tra mae ef a Richard Mace mynd i weld y felinydd, mae Nyssa yn gadael y goedwig o'r ffordd daeth y tri.
  • Wrth i Nyssa dweud, "dylen ni fynd i ôl Adric a Tegan", mae hi'n dweud "Andrid" yn lle Adric.
  • Mae Adric yn dweud, "The Doctor and the Tegan".
  • Mae'r Doctor yn tynnu'r breichled wrth fraich arweinydd y pendref, ond wedyn yn yr olygfa, mae ddal i wisgo'r breichled.
  • Pan mae'r Doctor yn tynnu'r arwydd wrth ochr y goden ffoi, mae'r camera yn colli ffocws.
  • Pan mae'r android yn mynd i mewn i'r TARDIS, mae ei fwgwd yn datgysylltu ac yn hongian oddi ar ei ben yn ystod rhan "ar leioliad" yr olygfa.

Cysylltiadau[]

  • Tra mae'r bladuriwr ar fin torfynyglu'r Doctor, mae'n ddweud "Not again", gan gyfeirio at fron cael ei dorfynyglu gan un o androidiau Monarch. (TV: Four to Doomsday)
  • Yn blaenorol, awgrymodd y Pedwerydd Doctor cafodd ei gyhuddo'n angywir am ddechrau Tân Mawr Llundain. (TV: Pyramids of Mars)
  • Ar ddamwain, roedd y Doctor Cyntaf yn rhan o losgi Rhufain. (TV: The Romans)
  • Yn ystod ymweliad i 1666, bron bu y Pedwerydd Doctor a Sarah Jane Smith i gael eu rhedeg drosodd gan ffigwr mewn cart orlawn. Yn anhysbys i'r ddau oedd y ffaith taw arweinydd y Terileptiliaid oedd hyn, a oedd yn cael ei ddilyn gan y Pumed Doctor. (PRÔS: The Republican's Story)
  • Parhaodd ei ran o fewn dechrau'r tân i fod yn fynhonell llawn embaras i'w chweched ymgorfforiad. (SAIN: Point of Entry, The Marian Conspiracy, Doctor Who and the Pirates)
  • Yn ystod ei ymgorfforiad cyntaf, materoleiddiodd y TARDIS yn Llundain. Yn benodol, materoleiddiodd y tu allan i dŷ George Mortimer, yn fuan ar ôl dechreuad y tân. Achubodd y Doctor George, ei gwraig Helen, a'u plant Ida ac Alan, cyn eu tywys i'r Galaeth Andromeda yn y Dyfodol Pell. Mae'n bosib am gyfnod byr yn dilyn cyrhaeddiad y Doctor Cyntaf yn 1666, roedd tri ymgorfforiad gwahanol o'r Doctor yn bodoli o fewn yr un amser yn agos at ei gilydd. (PRÔS: Doctor Who and the Invasion of Space)
  • Byddai Iris Wildthyme wedyn yn honni i fod yn bresennol am y tân. (SAIN: Excelis Dawns)
  • Ym Mis Tachwedd 1688, dywedodd y Brenin James II wrth yr Ail Doctor, Jamie McCrimmon a Zoe Heriot cafodd Catholigion Saesneg eu baïo am ddechrau'r tân mawr yn ystod teyrnas ei frawd hyn, Charles II. (SAIN: The Glorious Revolution)
  • Mae'r Doctor yn sôn am ac yn cwrdd y Terileptiliaid ar adeg arall. (TV: The Awakening, The Time of the Doctor, The Big Bang)
  • Dinistriodd y Meistr planed cartrefol y Terileptis, Terileptws. (PRÔS: The Dark Path)
  • Mae Adric yn nodi bod Alzarians yn afer yn gyflymach na phobl o'r Ddaear. (TV: Full Circle)
  • Mae'r cymeriadau yn siarad am ddigwyddiadau TV: Kinda.
  • Mae'r Deuddegfed Doctor yn rhybuddio Ashildr am y Tân Mawr, cyn iddi ymateb "efallai mai fi dechreuodd e," i'r Doctor ateb "na, y Terileptiliaid oedd hwnnw." (TV: The Woman Who Lived)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD[]

Rhyddhawyd y stori fel Doctor Who: The Visitation ar 19 Ionawr 2004 (DU), ar 8 Ebrill 2004 (Awstralia), ac ar 1 Mawrth 2005.

Cynnwys:

  • Sylwebaeth sain gan Peter Davison, Janet Fielding, Sarah Sutton, Matthew Waterhouse, a cyfarwyddwr Peter Moffatt
  • Directing Who - cyfweliad gyda Peter Moffat
  • Writing a Final Visitation - awdur Eric Saward yn sôn am ei sgript cyntaf am Doctor Who
  • Scoring the Visitation - cyfansoddwr Paddy Kingsland yn trafod ei sgôr
  • Film Trims - golygfeydd ychwanegol a gafodd eu torri cyn darllediad
  • Opsiwn cerddoriaeth yn unig
  • Oriel
  • Is-deitlau cynhyrchu

Cafodd y stori ei rhyddhau yn rhan o Doctor Who DVD Files #42.

Rhyddhadau Blu-ray[]

Rhyddhawyd y stori gyda gweddill Hen Gyfres 19 yn ran o Doctor Who: The Collection - Season 19 ar 10 Rhagfyr 2018 (DU), 4 Rhagfyr 2018 (UDA), ac ar 23 Ionawr 2019 (Awstralia).

Cynnwys:

  • Sylwebaeth sain gyda Peter Davison, Janet Fielding, Matthew Waterhouse, Sarah Sutton a Peter Moffatt (cyfarwyddwr)
  • Is-deitlau gwybodaeth cynhyrchu
  • Trac sain wedi'u hynysu
  • Rhaglen dogfennol cynhyrchu - yn cynnwys Peter Davison, Janet Fielding, Sarah Sutton, Michael Melia (arweinydd y Terileptiliaid), Peter Van Dissel (Android), Eric Saward (awdur), Ken Starkey (dylunydd), Carolyn Perry (colur), ac Odile Dicks-Mireaux (gwisgoedd) yn trafod The Visitation.
  • Behind the Sofa
  • Golygfeydd a gafodd eu torri
  • Writing the Visitation - cyfweliad gyda Eric Saward
  • Scoring the Visitation - cyfweliad gyda'r cyfansoddwr Paddy Kingsland
  • Directing Who - golwg at waith Peter Moffett
  • Cyhoeddiadau parhad BBC1
  • Oriel HD
  • Archif PDF
  • Coming Soon - trelar Black Orchid na chafodd rhyddhad

Rhyddhadau Digidol[]

Mae'r stori ar gael:

  • i lawrlwythio ar iTunes.
  • i ffrydio ar Hulu Plus yn yr UDA.
  • i ffrydio ar Amazon Instant Video yn y DU.

Rhyddhadau VHS[]

Rhyddhawyd y stori ar VHS gyda Black Orchid ar Doctor Who: The Visitation / Black Orchid yn Gorffennaf 1994 yn y DU ac ym Mehefin 1996.

Troednodau[]

  1. TCH 35
  2. DWM 274
Advertisement