Wici Cymraeg Doctor Who
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who
BydGoIawn

The Witch's Familiar (Cy: Ellyll y Gwrach) oedd ail episod Cyfres 9 Doctor Who.

Cynnigodd yr episôd esboniad i bam fodd y Doctor wrth Gallifrey a sut goroesodd Sgaro yn dilyn cael ei dinistrio yn Remembrance of the Daleks; gyda Dafros yn honni ailadeiladodd y Daleks y blaned. Rhodd yr episôd esboniad i sut dihangodd Missy yn Death in Heaven, gan ddefnyddio yr un techneg i hawlio Clara a hi i ddianc yn cliffhanger yr episôd blaenorol. Yn ychwanegol, cyflwynodd yr episôd y sbectol haul sonig i adosod sgriwdreifar sonig y Doctor.

Roedd y stori hefyd yn nodedig am arddangos sawl naratif newydd gyda Davros. Am y tro cyntaf, gwelir Davros y tu allan i'w gadair, gan ddatgan nad oes ganddo goesau na thechnoleg yn ei glymu i'r gadair. Yn yr episod yma, agorodd Davros ei wir lygaid am y tro cyntaf yn y gyfres deledu hefyd, a'r posibiliad o Davros yn marw heb os nac oni bai. Dangosodd yr episôd Davros hefyd yn edifaru ei ddewisiadau, a dangos Davros yn crio am y tro cyntaf. Roedd hefyd golygfa lle wnaeth y Doctor a Davros chwerthin gyda'i gilydd. Hon yw'r tro gyntaf i'r Meistr cwrdd a'i gilydd ar sgrîn.

Crynodeb[]

Mae'r Doctor wedi'i rwystro yn lle hunllefau'r Arglwyddi Amser: Sgaro, planed cartrefol y Daleks. Wedi'i orfodi i gadw cwmni i Davros, bydd y Doctor yn cael ei abwydo gan Davros i geisio ar rywbeth er lles gweddill y bydysawd; ond beth yw pwrpas Davros wrth wneud hon?

Rhywle arall, mae ffrind gorau y Doctor a Clara Oswald yn ceisio gweithio allan sut i'w achub.

Plot[]

I'w hychwanegu.

Cast[]

Cast di-glod[]

  • Daleks:[1]
    • Matthew Doman
    • Phil Brown
    • Simon Carew
    • Chester Durrant
    • Jon Davey
    • Jeremy Harvey
    • Gwion Ap Rhisiart
    • Ian Hilditch
    • Ken Hosking
    • Darren Swain
    • Claudio Laurini
    • Richard Knott
    • Mickey Lewis
    • David Stock
    • Shelby Williams
    • Andrew Cross
    • David Hobday
    • Richard Highgate
    • Harry Burt
    • Kevin Hudson
    • Steve Lathwell
    • Garry George

Cyfeiriadau[]

Unigolion[]

  • Mae gan Missy merch.
  • Mae gan Missy brôtsh erblith seren dywyll, anrheg wrth y Doctor.
  • Mae Davros yn cymharu caredigrwydd y Doctor i gancr, rhywbeth fydd yn tyfu'n gryfach nes bydd yn ei ladd.

Rhywodaethau[]

  • Mae system carthffosiaeth y Daleks wedi'i gysylltu i ddinas y Daleks trwy is-lefel un deg tri.
  • Fel plentyn, meddyliodd Davros taw Thal oedd y Doctor.
  • Mae Missy yn nodi bod lladd Dalek fel golf i Arglwyddi Amser.
  • Mae Missy yn nodi bod emosiynau Cybermen wedi'u cyfyngu, tra mae Dalek yn eu sianelu trwy eu drilliau.
  • Mae Davros yn son am ddarogant Gallifey gyda chreuadur hybrid a oedd yn hanner Arglwydd Amser a hanner Dalek.

Nodiadau[]

  • Dyma defnyddiad rheolaidd olaf y sgriwdreifar sonig a gafodd ei gyflwyno yn TV: The Eleventh Hour, gyda'r sbectol haul sonig yn cael ei gyflwyno fel amnewidyn.
  • Mae Missy yn gwrthio Clara i mewn i Carthffos. Yn gynhyarach, dangosodd The Curse of a Fatal Death - episod digri Doctor Who er mwyn comic relief - ferswin anghymwys o'r Meistr yn cwympo tair gwaith i mewn i system garthffosiaeth enfawr, gan gymryd 312 blwyddyn i ddringo allan pob tro.
  • Mae Davros yn dweud wrth y Doctor ei fod yn fraint mae'n cael defnyddio yr unig gadair ar Sgaro. Hefyd yn debyg i The Curse of Fatal Death, mae Emma, cydymaith y Doctor, yn gofyn iddo pam oes angen cadeiriau ar y Daleks, gyda'r Doctor yn addo i esbonio wedyn.
  • Ar 27 Medi, y dydd yn dilyn darllediad yr episôd, cafodd dau episôd cyntaf cyfres naw eu hailadrodd ar BBC One a BBC One HD fel un episôd hir.
  • Gwelodd y stori defnydd o'r rheg addfwyn, "bitch", wedi'i ddweud gan Missy. Mae'n nodedig gan mae Doctor Who fel arfer yn cael ei ystyried i fod yn sioe cyfeillgar i'r teulu cyfan. Er mwyn pwysleisio pa mor prin yw'r iaith hon, y tro diwethaf cafodd y gair ei glywed mewn rhan oedd yn TV: The End of the World gan Rose Tyler yng Nghyfres 1, ac mae'n cael ei awgrymu'n gryf yn TV: New Earth yng Nghyfres 2.
  • Mae'r Pedwerydd Doctor a'r Doctor Cyntaf yn cael eu gweld yn fuan wrth i Missy ceisio cofio pa ymgorfforiad o'r Doctor oedd yn ei stori.
  • Nid hon yw'r stori Doctor Who gyntaf i ddangos Dalek yn adfywio. Mae'r teitl honno yn berchen i Regeneration of a Dalek, lle mae'r adfywiad yn effeitho arfwisg y Dalek hefyd.
  • Hon yw'r stori gyntaf ers Inferno i beidio gynnwys y "sting" enwog ar ddiwedd yr episôd.

Cyfartaledd gwylio[]

  • BBC One dros nos: 3.71 miliwn
  • BBC America dros nos: 1.12 miliwn
  • Cyfartaledd DU terfynol: 5.17 miliwn

Lleoliadau ffilmio[]

  • Minas de San José, Parc Cenedlaethol Teide, Tenerife
  • BBC Roath Lock Studios

Cysylltiadau[]

  • Mae'r Doctor yn haelrhoi egni adfywio i helpu rhywun arall. (TV: The Angels Take Manhattan)
  • Wrth geisio dilyn stori Missy, mae Clara yn gweithio allan wnaeth Missy dianc rhag marwolaeth wrth cael ei saethu gan Cyberman mewn nanoeiliadau, (TV: Death in Heaven) ac "extermination" Missy a Clara (TV: The Magician's Apprentice)
  • Tra mae Clara yn honni bod y Doctor yn rhagdybio ei fod yn mynd i ennill, mae Missy yn cwestiynnu beth sydd yn digwydd os mae'r Doctor yn creu cymynlythur (WC: Prologue) a thaflu parti hwylfawr i'w hun. (TV: The Magician's Apprentice)
  • Yn flaenorol mae'r Doctor wedi cael cais i ddinistrio pob Dalek ac mae wedi gwrthod. (TV: Genesis of the Daleks, Remembrance of the Daleks, The Parting of the Ways, The Day of the Doctor)
  • Mae Davros yn nodi fe gymrodd amser hir i sylweddoli mai'r Doctor oedd yn sefyll "wrth gâtiau ei ddechreuad". (TV: The Magician's Apprentice)
  • Mae'r Doctor yn nodi fe adawodd Gallifrey achos fe roedd yn ddiflas. (TV: The War Games)
  • Roedd fersiwn arall o Clara yn Dalek. (TV: Asylum of the Daleks)
  • Mae'r Doctor yn nodi bod tariannau allosodol y TARDIS dal i weithio (TV: The Parting of the Ways)
  • Mae Missy yn dynodi bod well gen hi cael ei alw'n "Arglwyddes Amser" yn lle "Arglwydd Amser". (TV: Dark Water)
  • Mae Davros yn gofyn i'r Doctor os yw'n "dyn da". Mae Davros hefyd dweud wrtho "nad yw'n Doctor da". (TV: Into the Dalek)
  • Mae Davros yn cnoi cil ar "to hold in your hands [something precious]". (TV: Genesis of the Daleks)
  • Yn flaenorol, yn ei bumed ymgorfforiad pwyntiodd y Doctor dryll at Davros gan ei fygwth. (TV: Resurrection of the Daleks)
  • Mae'n cael ei ddatgan taw gwaith yr Hostile Action Displacement System wnaeth achosi "dinistriad" y TARDIS. (TV: The Krotons, Cold War)
  • Mae'r Doctor yn nodi taw ond dyn mewn blwch yw ef. (TV: Death in Heaven)
  • Mae'r Doctor yn dweud wrth Davros bod Gallifrey rhywle yn y bydysawd, gan fa achubodd y blaned. (TV: The Day of the Doctor)
  • Mae'r Daleks yn gweithio eu casinau trwy delepathi. (TV: Death to the Daleks)
  • Mae Davros yn esbonio bod gan Daleks cysyniad cryf o gartref wrth esbonio i'r Doctor pam ailadeiladon nhw Sgaro. Yn iaith y Kaleds, eu gair am gartref yw "Sgaro". (PRÔS: War of the Daleks)
  • Gadawodd Cwlt Sgaro eu hembryos gwael i farw yn system carthffosiaeth Efrog Newydd. (TV: Daleks in Manhattan)
  • Wnaeth y Pedwerydd Doctor cwrdd â mutants Dalek a cafodd eu troi'n hylif o'r blaen. (TV: Destiny of the Daleks)
  • Yn ystod yr ymweliad cyntaf y Doctor i Sgaro, cuddwisgodd cydymaith arall (Ian Chesterton) tu fewn casin Dalek. (TV: The Daleks)

Rhyddhadau cyfryngau cartref[]

Rhyddhadau DVD a Blu-ray[]

  • Rhyddhawyd yr episôd yn rhan o Doctor Who: Series 9: Part 1 ar 2 Tachwedd 2015.
  • Yn hwyrach, rhyddhawyd yr episôd fel rhan o set bocs DVD, Blu-ray ac fel Steelbook o Doctor Who: The Complete Ninth Series ar 7 Mawrth 2016.

Troednodau[]

Advertisement