Wici Cymraeg Doctor Who
Register
Advertisement
Wici Cymraeg Doctor Who

Zygons oedd hil o ddynolffurfion metamorffaidd. Tarddion nhw o'r blaned Zygor, ond yn aml bu ceisiadau i ymfudo wrthi. (PRÔS: The Bodysnatchers)

Bioleg[]

Roedd y Zygons yn dynolffurf gyda phennau siâp côn. Roedd eu pennau, breichiau a'u cyrff llawn sygnolynnnau, a roedd gwyneb Zygon wedi'u osod yn ddwfn yn rhan o'u corff. Roedd gwaed y Zygonau yn goch dywyll a roedd ganddynt leisiau fel sibrwd cras. Roedden nhw yn gryfach na dynoliaeth (TV: Terror of the Zygons) a roedd ganddynt disgwyliad oes hirach, gan fyw ar gyfartaledd am saith cant i fil blwydd oed. (PRÔS: The Bodysnatchers) Roeddent hefyd yn aroglu fel haearn, ac roedd modd iddynt pigo pobl gyda'r pigiau gwenwynig ar gledrau eu dwylo. Roedd modd i'r pigiau anafu, neu lladd rhuwyn, gan adael welten fawr ar yr ardal a gafodd eu pigio. (PRÔS: Doctor Who and the Loch Ness Monster, Sting of the Zygons) Roedd ganddo codenni gwenwynig yn eu thafodau. (TV: The Day of the Doctor)

Roedd gan y Zygons yr abl i drawsnewid aelodau o rywogaethau eraill i Zygons, gyda'r canlyniad o greu linc telepathig rhwng y Zygon newydd a'r Zygon gwreiddiol ag achosodd y drawsnewidiad. Ar ôl iddi cael ei thrawsnewid i hybrid dyn-Zygon, (FIDEO: Zygon: When Being You Just Isn't Enough) dechreuodd Lor Anderson lledaenu fferomonau wnaeth hawlio Stacey Facade i eu dilyn ar ddraws Llundain heb rhwystriad yn dilyn ceisiad dianc Lor. (FIDEO: Lauren Anderson)

Roedd cywion y Zygons yn lyslyd a welw, a roedd eu hengyll yn fyr. Roeddent yn aflafar, ond hefyd yn llawer cyflymach na'r oedolion. (PRÔS: Sting of the Zygon)

Roedd gan pob Zygon ofn eithafol o dân. (PRÔS: Doctor Who and the Loch Ness Monster) A roedd yn hawdd i'w hypnoteiddio gan bendilwm cloc. (GÊM: Destiny of the Doctors)

Roedd Zygonau yn ddeurywiadol. Ar ddechrau eu bywydau, roeddent yn fwy benywaidd, a gosgeddloyw, heb ynryw sugnolyn. Yn dilyn cael eu anffrwythloni, daeth Zygon yn gochach a yn fwy cyhyrog gan ennill sygnolynnau ac edrychiad mwy gwrywaidd. "Peiriannydd rhyfelgar" oedd y rheng pwysicaf i Zygon cyrraedd. I ddod yn beiriannydd rhyfelgar, bu rhaid i Zygon cael eu anffrwythloni, proses a'u trodd yn fwy rhyfelgar. (PRÔS: The Bodysnatchers)

Roedd modd i Zygon cynhyrchu trydan o'u dwylo. Roedd modd i'r trydan stynio neu troi pobl a Zygons i bentyrrau lludw. (TV: The Zygon Invasion) Ond, nad oedd effaith weledol i Arglwyddi Amser, gan nad oedd y Deuddegfed Doctor wedi'u anafu gan y trydan. (TV: The Zygon Inversion

Technoleg[]

Roedd technoloeg y Zygons yn rhan bioleg gyda golwg organig iawn. Enghraifft o'r cymysg oedd y Skarasen, creuadur enfawr o'u blaned cartrefol a cafodd technoleg i'w hychwanegu iddo. Roedd angen y hylif lactig y Skarasan ar y Zygons i oroesi. (TV: Terror of the Zygons) Defnyddion nhw llongau organig hefyd. (PRÔS: Alien Bodies)

Llwyddiant mwyaf y Zygons oedd eu 'holion-corff'. Hawliodd rhein iddynt dal cynddrych, megis person, ac eu rhoi i mewn i codyn i ddynwared golwg a llais y cynddrych. Roedd rhaid adnewyddu'r ôl-corff pob ddwy awr, tra roedd y carcharorion yn fyw er yn anghydwybodol. (TV: Terror of the Zygons) Ond weithiau roedd modd iddynt dynwared cynddrych heb eu cadw mewn codyn, ond roedd rhaid i'r cynddrych bod yn fyw. (TV: The Day of the Doctor) Erbyn rhyw adeg, roedd modd iddynt cadw dynwared cynddrych sydd eisioes wedi marw, ar yr amod nad oedd angen gwybodaeth pellach wrthynt. Enillon nhw hefyd yr abl o ffurfio linc telepathig gyda cynddrych a ddynwared rhywun wrth eu côf. (TV: The Zygon Invasion)

Roedd modd i Zygon cymryd ffurf anifail hefyd, megis cŵn, gwartheg a cheffylau. (PRÔS: Sting of the Zygons, TV: The Day of the Doctor) Adnabuwyd Zygon heb yr abl i drawsffurfio fel Zynog. (SAIN: Death in Blackpool) Os laddwyd Zygon tra dan gochl, byddai'r Zygon yn aros yn y ffurf hwnnw fel corff. (FIDEO: Zygon: When Being you Just Isn't Enough)

Er mwyn rheoli'r Skarasen, defyniodd y Zygons Actifadwyr Trilanig. Yn aml, defyddiodd y Zygons lledaenwr gronynnol i cael gwared o gelanedd. Cadwodd llongau'r Zygons golwg ar arwyddion-bywyd y Zygons, gan dywys Zygon nôl i'r llong os cafodd eu lladd. (TV: Terror of the Zygons, PRÔS: Sting of the Zygons) Defnyddion nhw hefyd math o nwy nerfau er mwyn troi pobl yn anymwybodol. (TV: Terror of the Zygons) Darganfyddiad arall y Zygons oedd "cwsg ambr", math o ataliad animeiddiaeth. (PRÔS: Sting of the Zygons)

Diwylliant[]

Rhannwyd y Zygons yn gyrdd, a roedd gan bob un diwylliant eu hun. (SAIN: The Zygon Who Fell to Earth) Ymladdodd arglwyddi rhyfel y Zygons mewn gornestydd trawsffurfio lle byddent yn defnyddio cyrff eu carchorion. (COMIG: Rest and Re-Creation) Trefnodd Uwchreolaeth Zygon Gweithrediad Dwbl ar Ddaear gyda UNIT, cyn cael eu goresgyn gan rŵp o Zygons terfysgol ag eisiodd trechu dynoliaeth. (TV: The Zygon Invasion) Rheolodd Brenhinesau Zygon dros blanedau unigol. (PRÔS: Lords and Masters)

Mesurodd y Zygons pellter mewn remars. (TV: Terror of the Zygons, PRÔS: Sting of the Zygons)

Roeddent yn hoff o emau bwrdd, ac addolon nhw duw o'r enw Kaatu. (PRÔS: The Bodysnatchers)

Hanes[]

Hanes cynnar[]

Ymunodd y Zygons â Rassilon yn y Gynghrair Hiloedd yn erbyn yr Hyperions. (COMIG: The Hyperion Empire) Yn dilyn trechiad yr Hyperions, parhaodd y Gynghrair i waredu'r bydysawd o fygythiau eraill i ddiogelwch'r bydysawd. Roedd y fygythiau yn cynnwys Cownt D'if o'r Cybock Imperium. (COMIG: Gangland)

Colled Zygor[]

Yn ôl rhai, roedd y Zygons yn wreiddiol mewn rhyfel gyda'r Xaranti. Yn ystod y rhyfel, dinistriwyd byd cartrefol y Zygons, Zygor, a phlanedau cartrefol y Xaranti. (PRÔS: The Bodysnatchers) Datgelodd adroddiad y Zygon Broton yn yr 20fed ganrif, dinistriwyd ei blaned cartrefol mewn "trychineb diweddar". (TV: Terror of the Zygons) Yn ôl yr adroddiad rhodd Elizabeth I yn 1562, bu Zygor yn llosgu mewn dyddiad cyntaf y Rhyfel Mawr Olaf Amser. (TV: The Day of the Doctor) Yn wir, cytunodd y mwyafrif o fynnhonellau mai yn y Rhyfel Amser collwyd y blaned. (TV: The Day of the Doctor, PRÔS: The Day of the Doctor, The Whoniverse)

Creodd ffoaduriad y blaned llynges ffodaurol, a chysyllton nhw â'r llong ar y Ddaear. (TV: Terror of the Zygons)

2il ganrif[]

Yn 102, roedd y Zygons yn rhan o'r Gynghrair yng Nghôr y Cewri. Daeth y Zygons i helpu carcharu'r Unarddegfed Doctor o fewn y Pandorica er mwyn "achub" y bydysawd. (TV: The Pandorica Opens)

Cyn y 12fed ganrif[]

Ar ryw adeg cyn y 12fed ganrif, difrodwyd llong Zygon a chafodd ei orfodu i lanio yn agos i Devil's Punchbowl yn yr Alban. Roedd ganddynt Skarasen, a wnaeth ddarparu'r hylif lactig angenrheidiol i'w goroesiad, er yn ifanc oedd y Skarasen. Dros y 400 mlynedd nesaf, byddai pobl yr ardal yn mynd ar goll. (TV: Terror of the Zygons)

16ed Ganrif[]

Cafodd grŵp o Zygons dihir eu gafael o fewn edi amser, (PRÔS: The Day of the Doctor) cyn crash lanio yn 1562. Yno, ymchwiliodd y Degfed Doctor iddynt, gan ddarganfod bod un o'r grŵp wedi dynwared Elizabeth I. Ar ôl i'r Elisabeth go iawn lladd ei dywaredwr, cuddiodd y Zygons mewn ciwbiau stasis, gan gynllunio i aros am amser byddai'r Ddaear yn addasach ar gyfer goresgynu. (TV: The Day of the Doctor)

19eg Ganrif[]

Ar ddiwedd y 19eg ganrif, daeth Zygon yn aelod o sioe teithio pethau hynod, ac yn hwyrach, dynwaredodd y Frenhines Fictoria. (SAIN: The Barnacled Baby)

Roedd llong Zygon yn sownd o dan y Savoy Hotel. Yn ystod y seremoni agoriadol yn 1890, roedd hanner y staff yn Zygons cudd, ond cafon nhw eu hatal gan yr Unarddegfed Doctor, Amy Pond a Rory Williams. (TV: The Power of Three)

Cyfarfodd yr Wythfed Doctor, Sam Jones a George Litefoot grŵp o Zygons yn Llundain yn 1894. (PRÔS: The Bodysnatchers)

20fed Ganrif[]

Cyrraeddodd llong arall o Zygor y Ddaear yn 1909. Y tro yma, daeth y Zygons gyda dau Skarasen, ond roedd y ddau wedi'u anafu gan ymbelydredd solar yn ystod dinistriad Zygor. Bu farw un yn ystod trwsiadau. Er ceisiodd y Zygons concro'r Ddaear, bu rhaid iddynt gwachau oherwydd newyn a'r Degfed Doctor. (PRÔS: Sting of the Zygons)

Yn y 20fed ganrif, crashiodd llong ofod Zygon mewn chwarel ym Mrentford. Yna, penderfynodd Zygons Devil's Punchbowl cymryd dros y Ddaear gan ei haddasu i atmosffer mwy addas i'w rhywogaeth. Cafon nhw eu hatal gan y Pedwerydd Doctor a UNIT, gan rhyddhau'r Skarasen yn y cyfamser (TV: Terror of the Zygons)

Yn 1981, roedd rhaid i UNIT delio â dros gant Zygon ag oroesodd cais goresgynu flaenorol. (PRÔS: The King of Terror)

Yn 1984, cyfarfodd yr Wythfed Doctor a Lucie Miller Zygon yn dynwared gŵr modryb Lucie, Trevor. Yn dilyn marwolaeth Patricia, dynwaredwyd hi gan y Zygon i'w hurddo. (SAIN: The Zygon Who Fell to Earth)

Ym mis Rhagfyr 1985, glaniodd Zygon yn yr Antarctig, yn agos i orsaf arctig UNIT, Skywatch-7. Lladdwyd nifer o bobl, ond llwyddodd yr oroeswyr i ddyrru allan y Zygon i'r dŵr rhewllyd, lle bu farw. (COMIG: Skywatch-7)

Tua 1999, rhwystrwyd goresgyniad Zygon ar y Ddaear gan gynghorwr milwrol y CU, Guy Dean. (SAIN: Homeland)

21ain ganrif[]

Yn 2008, cyfarfodd yr Wythfed Doctor a Lucie Miller y Zygon ag oedd yn dynwared Patricia Ryder unwaith eto. (SAIN: Death in Blackpool)

Yn 2013, deffrodd y Zygons o 1562, cyn sleifio i mewn i Archif Ddu UNIT, mewn cais i fanteisio ar dechnoleg yr archif. Er mwyn atal y Zygons rhag ddefnyddio'r technoleg, actifadodd Kate Stewart cowntdown arf niwclear o dan yr archif. Cyn i'r cowntdown cyrraedd sero, dileuodd y Degfed, Unarddegfed a'r Doctor Rhyfel cofion Kate, Osgood, McGillop, a'u dynwaredwyr Zygon. Achosodd hyn i bawb anghofio pwy oedd yn ddynol a phwy oedd yn Zygon. O ganlyniad, atalodd Kate ffrwydriad yr arf, a roedd modd i'r Zygons a dynoliaeth cyrraedd cytundeb i gartrefu Zygons cudd ar y Ddaear. Pan nad oedd neb yn edrych, rhodd Osgood ei handlwr i'w dynwaredwr. (TV: The Day of the Doctor)

Dwy flynedd wedyn, wnaeth grwp gwrthryfelol, wedi'u harwain gan Bonnie, dechrau anwybyddu'r cytundeb. Wedi cymryd delwedd Clara Oswald, dechreuodd Bonnie hoeddi'r 20 miliwn Zygons bu fyw ar y Ddaear, yn bendant ar ddod o hyd i dir eu hyn. (TV: The Zygon Invasion) Trechwyd ei chynlluniau gan ragofaliad cymerodd y Deuddegfed Doctor gyda'r ddwy Flwch Osgood. O ganlyniad, parhaodd yr heddwch rhwng dynoliaeth a'r Zygons, gyda Bonnie yn cymryd lle'r Osgodd lladdodd Missy. (TV: The Zygon Inversion) Yn 2019, gwybodai'r Blwch bod gymuned enfawr o trawsnweidwyr ar y Ddaear. (PRÔS: Out of the Box)

22ain ganrif[]

150 mlynedd ar ôl Kritakh a Torlakh cyrraedd y Ddaear, roedd llynges goresgynu'r Zygons yn parhau i anelu at y Ddaear. (FIDEO: Zygon: When Being You Just Isn't Enough)

28fed Ganrif[]

Yn 2765, ceisiodd Zygons doddi capiau iâ y Ddaear ond fe'u rhwystrwyd gan "Vigilante laser defence satelites" INITEC. (PRÔS: Original Sin)

36ain ganrif[]

Tua ddechrau'r 36ain ganrif, sleifiodd grŵp o Zygons i mewn i wladfa New Eden ar Ganta 4 er mwyn defnyddio'r llong ofod i osgoi systemau diogelwch y Ddaear a'i goresgynu. Cyfluddiwyd eu cynllun gan Christopher Shaw, a bu farw'r holl Zygons. (SAIN: Absolution)

Digwyddiadau di-ddyddiad[]

Ar Shontaa, ymladdodd arglwyddi rhyfel y Zygons, Anktra a Kestral, trwy ddynwared sawl corff. Rhodd y Pedwerydd Doctor a Leela terfyn ar yr ymladd trwy ryddhau'r creaduriaid roedden nhw'n eu dynwared. (COMIG: Rest and Re-Creation)

Gyda phŵer y blaned Siralos, cludodd y Meistr sawl Zygon (ymysg gelynion eraill) i TARDIS y Doctor er mwyn atal y Graak rhag achub saith ymgorfforiad cyntaf y Doctor. (GÊM: Destiny of the Doctor)

Roedd gan yr Ymerodres Ddwyfol rhai Zygon yn ei byddin. (PRÔS: Genocide)

Gwylltwyd rhai Zygons gan River Song, wrth iddi eu cyfarch gyda "What's up, suckers?" (GÊM: The Eternity Clock)

Roedd Zygon melyn yn bresennol yn Garage 10. (COMIG: The Ministry of Time)

Trechodd y Nawfed Doctor Zygon oedd yn dynwared Mamgu Rose. Yna, fe dorrodd ei technoleg dynwared. (PRÔS: Little Rose Riding Hood)

Cyfeiriadau[]

Wrth aduno gyda'r Bumed Doctor, cofiodd y Brigadydd y Zygons ymhlith yr angenfilod fe drechodd fel pennaeth UNIT. (TV: Mawdryn Undead) Wrth helpu Sarah Jane Smith i drechu Mrs Wormwood, fe rhestrodd y Zygons fel un o'r gelynion fe frwydrodd. (TV: Enemy of the Bane)

Defnyddiwyd y Saithfed Doctor y ddigwyddiad yn Loch Ness fel enghraifft i Ace o oresgyniadau estronwyr llwyddodd ddynoliaeth i resymolu neu anghofio. (TV: Remembrance of the Daleks)

Dywedodd y Seaithfed Doctor pan deimlodd ef yn isel, fe grëodd modelau clai o Zygons er mwyn ei galonu unwaith eto. (PRÔS: Human Nature)

Yn ôl y Trydydd ar Ddegfed Doctor, honodd ei Mamgu Rhif Pump mai gweithredydd cudd ar gyfer y Zygons oedd ei Mamgu Rhif Dau. (TV: It Takes You Away)

Erbyn y 67ain ganrif, roedd y Zygons wedi'u rhestru yn rhan o gyfres briffiadau-fideo Perils of the Constant Division. (TV: The Tsuranga Conundrum)

Advertisement